Mae'n debyg mai gor ddweud fyddai honni bod penderfyniad Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, Winston Roddick i godi treth y cyngor er mwyn cael mwy o blismyn ar strydoedd y Gogledd yn dangos pam nad yw'n beth da i gael Comisiynydd Heddlu nag i ethol Lib Dem - ond mae peth gwirionedd yn y gosodiad.
Un neu ddau o ffeithiau am gyfraith, trefn a phlismona.
1). Mae y rhan fwyaf o bobl yn meddwl bod tor cyfraith ar gynnydd.
2). Mae y rhan fwyaf o bobl yn gwbl anghywir yn hyn o beth. Mae cyfraddau tor cyfraith yng Nghymru a Lloegr yn syrthio yn weddol gyflym. Mae'r troseddau sy'n cael eu riportio i'r heddlu wedi syrthio 41% rhwng 2002 - 2003 a 2011 - 2012. Mae canfyddiadau'r British Crime Survey yn awgrymu cwymp o 26% tros yr un cyfnod. Mae pob categori o ddrwg weithredu wedi syrthio tros y cyfnod - ag eithrio dwyn beics.
3). Serch hynny mae yna fwy o heddlu heddiw nag oedd yna yn 2002 i 2003 (134k o gymharu a 132.5k) - ond mae'r nifer o heddlu wedi syrthio yn ddiweddar yn sgil toriadau ehangach mewn gwariant cyhoeddus (o 143,770 yn 2009). O fynd yn ol i 1875, gyda llaw, 30k o blismyn oedd yn cael eu cyflogi.
4). Ychydig iawn o dystiolaeth sydd ar gael bod cyflogi mwy o heddlu yn lleihau cyfraddau tor cyfraith. Er enghraifft dyblwyd y nifer o heddlu yng Nghymru a Lloegr rhwng 1960 a 2010 er i'r boblogaeth ond codi tua 17%. Felly yn 1960 roedd yna 640 o bobl am pob heddwas. Y ffigwr yn 2010 oedd 375. Er hynny roedd llai na miliwn o droseddau wedi eu cofnodi yn 1960 o gymharu a rhywbeth o dan 5 miliwn yn 2010. Dydan ni ddim yn gwybod os y byddai'r cyfraddau troseddu yn uwch eto heb yr holl heddlu ychwanegol - ond dydi'r dystiolaeth bod cynyddu niferoedd heddlu yn cael effaith uniongyrchol ar gyfraddau troseddu jyst ddim ar gael.
Felly mae'r cwestiwn yn codi - pam bod Mr Roddick eisiau gwneud i'r trethdalwr dalu am fwy o heddlu, er bod tor cyfraith yn syrthio ac er nad oes yna dystiolaeth bod cynyddu'r nifer o heddu yn cael effaith uniongyrchol ar gyfraddau troseddu?
Wel, mae maniffesto'r Lib Dems ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2010 yn rhoi amcan i ni. Eu bwriad bryd hynny oedd gwario £500,000 y diwrnod yn ychwanegol ar gyflogi heddlu. Roedd y rheswm am hynny yn weddol syml - roedd y blaid yn cymryd mantais o ganfyddiad cyhoeddus ffug bod cyfraddau troseddu ar gynnydd i geisio ennill cefnogaeth. Roedd y cynnig hwnnw yn cael ei yrru gan bopiwlistiaeth llwyr - yn union fel penderfyniad wythnos diwethaf..

ynghylch ystadegau (5) - mae llawer iawn mwy o 'droseddau' heddiw gyda chyfreithiau newydd, ac mae mwy o ymwybyddiaeth o droseddau eraill (trais yn y cartref e.e.). felly nid yw cymharu 2013 gyda 1963 yn cymharu 'like-for-like'.
ReplyDeleteDwi'n derbyn hynny.
ReplyDeleteMae yna le hefyd i gredu bod troseddu yn cael ei dan gofnodi yn y gorffennol. Ond mae hi'n gwbl briodol i ti gymharu rwan a deng mlynedd yn ol.
It's remarkable to pay a visit this web site and reading the views of all friends about this piece of writing, while I am also zealous of getting knowledge.
ReplyDeleteMy weblog: treatment for toenail fungus
Hey would you mind letting me know which web host you're using? I've loaded your blog in 3 different internet browsers and
ReplyDeleteI must say this blog loads a lot quicker then most.
Can you suggest a good web hosting provider at a honest price?
Thank you, I appreciate it!
Feel free to visit my web blog :: housekeeping supplies list
Oh my goodness! Impressive article dude! Thank you, However I am having issues with your RSS.
ReplyDeleteI don't know why I cannot subscribe to it. Is there anybody having similar RSS issues? Anyone who knows the solution will you kindly respond? Thanx!!
my homepage: housekeeper jobs
Today, I went to the beach with my kids. I found a sea
ReplyDeleteshell and gave it to my 4 year old daughter
and said "You can hear the ocean if you put this to your ear." She put the shell to her ear and screamed.
There was a hermit crab inside and it pinched her ear.
She never wants to go back! LoL I know this is entirely off topic but I had to tell someone!
Also visit my weblog - more
Excellent blog here! Also your website so much up very
ReplyDeletefast! What host are you the usage of? Can
I am getting your affiliate link on your host? I desire my site loaded up as fast as yours lol
My homepage: housekeeping help
My page :: house cleaning jobs
Attractive section of content. I just stumbled upon your web site and in
ReplyDeleteaccession capital to assert that I get actually enjoyed
account your blog posts. Anyway I'll be subscribing to your feeds and even I achievement you access consistently quickly.
Feel free to surf to my site: zetaclear side effects
Also see my web site > nail fungus zetaclear