Sunday, December 09, 2012

Marwolaeth rhywun arall oedd yn gweithio i'r Bib

Tra ein bod ni wrthi am y cyfryngau, tybed os ydi o'n mynd ar nerfau rhywun arall fel mae'r Bib yn gwneud mor a mynydd o farwolaethau pobl sydd wedi bod yn gweithio iddi?

Mi fyddai rhywun wedi tybio o wylio newyddion y Bib heddiw mai marwolaeth Patrick Moore yn 89 oed oedd y digwyddiad pwysicaf yn y Byd.  Yn sicr dyna'r stori sydd wedi bod ar flaen pob bwletin 'cenedlaethol' trwy'r dydd.  Mi fydd y Bib ar lefel Prydeinig a Chymreig yn gwneud y math yma o beth yn rheolaidd.  Dydw i ddim yn siwr pam, efallai bod y sefydliad mor ynysig nes bod y sawl sy'n gweithio iddi yn credu bod pawb yn y DU yn teimlo marwolaeth eu cydweithwyr fel maen nhw'n ei wneud.  Neu o bosibl mae'r sefydliad mor uffernol o hunan bwysig nes credu yn wir bod marwolaeth eu cyflwynwyr enwocaf yn faterion o bwysigrwydd Byd eang.

Ta waeth, mae'r angen yma i glodfori pobl ei hun doed a ddel  wedi cael y Bib mewn cryn dipyn o drafferth yn ddiweddar.  Ei bwriad i gyflwyno rhaglenni yn canmol y diweddar Jimmy Savile i'r cymylau oedd y rheswm mae'n debyg i Newsnight beidio a chael darlledu eitem oedd yn edrych at ei dueddiadau troseddol.  Mae'r gweddill yn hanes - a benthyg idiom Saesneg.

Does yna ddim awgrym o gwbl i Patrick Moore wneud rhywbeth troseddol wrth gwrs, ond mae'n drawiadol nad ydi ymdriniaeth y Bib o Patrick Moore yn cyffwrdd efo rhai o'r pethau rhyfedd y dyn - yn arbennig felly ei syniadau gwleidyddol anarferol.

Ymddengys nad oedd Patrick yn or hoff o ferched, ac roedd o'r farn na ddylent gael swyddi rheolaethol gan y Bib - na hyd yn oed ddarllen y newyddion.  Yn wir roedd yn meddwl y byddai'n syniad da i gael sianeli gwahanol i ddynion a merched.   Roedd yn gadeirydd y New Country Party - plaid adain dde, wrth fewnfudo yn y 70au.  Roedd hefyd  o'r farn na ddylid ymddiried mewn Ffrancwyr nag Almaenwyr.  Roedd yn un o noddwyr UKIP, roedd yn wrthwynebus i fesuriadau metrig, Ewrop, a'r Ddeddf Cydraddoldeb Hiliol, Roedd hefyd o'r farn mai pobl hoyw oedd yn gyfrifol am ehangu AIDS oherwydd mai 'Adam & Eve ac nid Adam & Steve oedd yng Ngardd Eden'.

Ond dyna fo, y Bib ydi'r Bib - waeth i ni heb a chwyno mwy na chwyno am y gwynt a'r glaw.  Mae hyfdra gwaelodol y gorfforaeth mor ddi gyfnewid a'r gwynt a'r glaw.



8 comments:

  1. Vaughan11:44 pm

    Cai, Mae dy gasineb ynghylch y BBC yn hynod o debyg i feirniadaethau'r dde eithafol!

    Paranoia, os caf i ddweud.

    Dyma stori y BBC ynghylch marwaolaeth Patrick Moore gyda chyfeiriadau a chysylltiadau.

    http://www.bbc.co.uk/news/uk-20657939

    Beth am feirniadu honna yn hytrach na chynyrch dy het tin foil?

    ReplyDelete
  2. Fy meirniadaeth sylfaenol o'r Bib ydi ei bod yn sefydliadol Brydeinig - ac yn ceisio normaleiddio sefydliadau Prydeinig. Does gen i ddim problem efo ariannu cyhoeddus, diffyg dewis, cywirdeb gwleidyddol ac ati - y pethau sydd yn dan ar groen y Dde.

    Mae pobl sy'n dioddef o'r cyflwr seicolegol a elwir yn paranoia yn llafurio o dan y camargraff bod pobl yn eu herlid. Dydi hynny ddim yn wir amdanaf fi (gobeithio), ond mi'r ydw i o'r farn bod y Bib yng Nghymru yn gosod fframwaith o ddeall lle Cymru yn y Byd mewn termau Prydeinig iawn.

    Does gen i'n amlwg ddim amser i sgwennu adolygiadau o farwnadau llosgachol y Bib i'w cyn weithwyr.

    ReplyDelete
  3. Mi o'n i'n nabod Padrig & yn siarad Tywydd yn eitha aml. Ges i erioed yr argraff ei fod yn wrthwynebus i'r ffaith fy mod yno yn pwyntio at gymylau mewn ffordd benywaidd!

    ReplyDelete
  4. Nid gwleidydd oedd Patrick Moore. Doedd e ddim yn defnyddio platfform y BBC ar gyfer ei farn bersonol. Yn wir, prin dwi wedi clywed ei farn wleidyddol heblaw am ambell erthygl papur newydd.

    ReplyDelete
  5. Mi fyddwn i yn meddwl bod cadeirio plaid wleidyddol yn gwneud rhywun yn wleidydd rhywsut.

    Ond beth bynnag am hynny doedd o ddim yn gerddor chwaith - ond mi gawsom glywed am hynny.

    Dim ond y pethau 'neis' mae'r Bib yn ddweud am eu cyn weithwyr. Dyna pam na chawsom glywed yr hen bethau hyll 'na am Jimmy Savile.

    ReplyDelete
  6. Hwyrach nad oedd Syr Patrick yn wleidydd etholedig ond roedd gwleidyddiaeth yn bwysig iawn iddo. Hyd at Ddydd Iau'r wythnos diwethaf yr oedd yn caniatáu i'w enwogrwydd cael ei ddefnyddio i hyrwyddo achos UKIP mewn isetholiadau. Mae Cai yn gywir i dynnu sylw at farn wleidyddol yr ymadawedig ac mae'r cyfryngau sy'n gwyngalchu ei ymroddiad i achos gwleidyddol y dde eithafol yn gwneud cam a'r coffa amdano. Yr oedd barn gwleidyddol Syr Patrick yn codi cyfog arnaf, ond yr oedd o yn hynod browd o'i farn, a gan hynny sarhad i'r coffa amdano yw esgus nad oedd yr agwedd hyll (i ni) yna yn rhan holl bwysig o'i fywyd.

    ReplyDelete
  7. Anonymous7:12 pm

    "Fy meirniadaeth sylfaenol o'r Bib ydi ei bod yn sefydliadol Brydeinig "

    Beth? Mae'r BRITISH Broadcasting Corporation yn BRYDEINIG?

    Wel, wel.

    ReplyDelete
  8. Digon teg - Anon 7.12.

    Ond mi fyddwn ni'n gwerthfawrogi cael gwneud heb y nonsens bod y gorfforaeth yn ddi duedd a gwrthrychol.

    ReplyDelete