Mi fyddai'n anodd cwmpasu tlodi deallusol y Blaid Geidwadol Gymreig a'i diffyg uchelgais llwyr tros Gymru nag y gwnaeth David Jones yn ei neges blwyddyn newydd gwbl bathetig.
Yn ol David cafodd Cymru dri llwyddiant mawr eleni - Jiwbili Mrs Windsor, a gynhaliwyd yn Llundain, y Gemau Olympaidd digwyddiad arall a gynhaliwyd yn Llundain - digwyddiad nad oedd Cymru yn cael anfon tim iddo - a derbyn pres cyhoeddus i'w wario gan George Osborne.
A dyna'r Blaid Geidwadol Gymreig wedi ei chwmpasu yn dwt. Llwyddiant cenedlaethol ydi lleoli ein hunain mewn lle manteisiol o dan fwrdd rhywun arall a llwyddo i ddal rhai o'r briwsion fel maent yn syrthio.

Diben swydd Ysgrifennydd Cymreig yw i sicrhau buddion Lloegr yng Nghymru.
ReplyDelete