Mae'n beth rhyfedd, ond mae llawer o'r sefydliadau hynny oedd yn cael eu hystyried yn elfennau digyfnewid o fywyd ugain mlynedd yn ol, bellach yn ffocws rheolaidd i rhyw sgandal neu'i gilydd. Roedd y rhan fwyaf o'r sefydliadau hynny y tu hwnt i feirniadaeth tan yn ddiweddar hefyd.
Dyna i chi'r Bib i ddechrau - mae'r gorfforaeth wedi bod o dan sylw yn ddiweddar oherwydd i filoedd lawer o'r sawl sy'n gweithio iddi dalu treth ar gyfradd is na'r gweddill ohonom trwy smalio mai cwmniau yn hytrach nag unigolion ydynt, ac oherwydd y sefyllfa hynod anffodus parthed Jimmy Savile. Gallai goblygiadau'r ail stori fod yn hynod bell gyrhaeddol.
Ac wedyn cafwyd sefydliad hoffus arall - News International - yn cael ei hun mewn trafferth go sylweddol oherwydd i rai o bapurau newydd y cwmni fynd ati i hacio ffonau symudol cannoedd o bobl - gweithred sy'n gwbl anghyfreithlon. Mae'r sgandal yma yn ei dro wedi taflu goleuni ar sefydliad arall - yr heddlu. Ymddengys bod News of the World wedi bod yn talu i aelodau'r heddlu am wybodaeth cyfrinachol - rhywbeth arall sy'n anghyfreithlon.
Mae sgandalau sy'n ymwneud efo ein hannwyl fanciau rif y gwlith wrth gwrs, a dydan ni ddim yn gorfod mynd yn ol yn rhy bell i ddod ar draws y sefyllfa ryfeddol lle'r oedd aelodau seneddol wedi creu system dreuliau oedd yn caniatau iddyn nhw eu hunain hawlio symiau rhyfeddol o bres gan y trethdalwr heb orfod datgan unrhyw fanylion i'r dywydiedig drethdalwr. Er wedi dweud hynny pe byddem yn mynd ati i fynd ar ol sgandalau seneddol byddwn wrthi am gryn gyfnod - mae yna fwy na hanner cant wedi bod yn ystod fy mywyd i.
Mae sgandalau brenhinol yn gyffredin hefyd - ac mae'r un bresenol ynglyn a Savile yn cyffwrdd a'r teulu hwnnw hefyd - ond dydi'r rheiny ddim hyd yn oed yn niweidio delwedd y teulu brenhinol bellach - wnaeth yna neb hyd yn oed meddwl dwywaith pan gafodd Charles godiad cyflog o 11% yn ddiweddar - er bod pawb arall sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus wedi cael eu cyflogau wedi eu rhewi ers blynyddoedd.
Y llinyn sy'n cysylltu'r holl sgandalau ydi eu bod yn ymwneud a sefydliadau ag iddynt ddiwylliant o hunan bwysigrwydd, lefelau isel o atebolrwydd ac ethos o gyfrinachedd a diffyg atebolrwydd. Y rheswm eu bod nhw i gyd yn cael eu taro gan sgandalau fwy neu lai yr un pryd ydi oherwydd bod disgwyliadau'r cyhoedd wedi newid - mae pobl yn parchu sefydliadau llai bellach ac yn disgwyl tryloywder, atebolrwydd a pharch at y gyfraith ganddynt.
Does dim rhaid dweud bod hyn yn rhywbeth cwbl gadarnhaol.

ReplyDeleteHere is my web page - payday loan online
Review my site ... payday loans
ReplyDeletemy blοg - payday loan online
Also visit my web page :: payday loans
where to buy valium generic valium appearance - expired medication valium
ReplyDelete