Mae'n dda cael nodi i dri cyn garcharor o Kenya ennill eu hachos yn erbyn llywodraeth y DU yn yr Uchel Lys. Gellir gweld y dyfarniad yma.
Cafodd y tri eu harteithio gan yr awdurdodau trefedigaethol pan oeddynt yn garcharorion yn ystod rhyfel annibyniaeth Kenya yn y pump degau. Mae'n debyg y bydd hyn yn agor y ffordd i hyd at 2,000 o'r cyn garcharorion sy'n dal yn fyw (allan o gyfanswm o tua 70,000) ddod ag achosion hefyd. Mae hefyd yn fwy na phosibl y bydd achosion gan garcharorion o wledydd eraill maes o law - Cyprus er enghraifft.
Wnes i (yn amlwg) ddim gweld sioe agoriadol y Gemau Olympaidd, ond dwi'n deall i hanes ymerodrol Prydain gael ei ddileu bron yn llwyr o'r naratif a gyflwynwyd - er bod cynnal ymerodraeth wedi bod yn rhan ganolog o hunaniaeth Prydeinig am y rhan fwyaf o hanes y wladwriaeth.
Mae yna pob math o gwestiynau ynglyn a'r Ymerodraeth Brydeinig, ac mae'r rheiny yn mynd yn llawer pellach na cham drin carcharorion yn ystod dyddiau olaf yr ymerodraeth honno. Er enghraifft, roedd trigolion rhai o drefedigaethau Prydain (ac ymerodraethau eraill) yn llwgu i farwolaeth mewn niferoedd rhyfeddol o uchel yn ystod Oes Fictoria, ac yn wir yn ystod y ganrif ddiwethaf. Ychydig iawn (mewn cymhariaeth) a fu farw yn yr un ffordd wedi i'r Ymerodraeth ddod i ben.
I unrhyw un a diddordeb yng ngwir natur yr Ymerodraeth Brydeinig, byddwn yn awgrymu eu bod yn darllen llyfr Mike Davies - Late Victorian Holocausts. Mae'r llyfr yn dylunio'n glir y syniadaethau oedd ynghlwm a'r Ymerodraeth Brydeinig, ac effeithiau gweithredu'r syniadaethau hynny ar ddegau o filiynau o bobl.

Lle ti'n sefyll ar mater y Cofnod ma? Yn bersonol dwi'n mega pissed off efo safbwynt mwyafrif aelodau Grwp y Blaid
ReplyDelete