Tuesday, September 25, 2012

Enillydd y wobr wythnosol am am bowldrydd ydi _ _

_ _ _   David Hume - un o arweinwyr yr Urdd Oren yng Ngogledd Iwerddon.

Ymddengys bod David o'r farn y dylai pobl sy'n ystyried eu hunain yn drigolion Ulster o dras Albanaidd gael pleidleisio yn y refferendwm ar ddyfodol cyfansoddiadol yr Alban.  Unoliaethwyr ydi pobl sy'n ystyried eu hunain yn drigolion Ulster o dras Albanaidd wrth gwrs.  


Felly ymddengys bod rhai o arweinwyr  yr  Urdd Oren yn credu y dylai Unoliaethwyr Gogledd Iwerddon gael atal annibyniaeth i'r Alban yn ogystal ag atal ail uno'r Iwerddon.



2 comments:

  1. Beth amdanom ni Gymry o'r Hen Ogledd! Rydyn ni wedi chwarae rhan alweddol yn hanes yr Alban hefyd. Fe ddylen ni gael pleidlais... ad nauseum...

    ReplyDelete