Mae'r Bib (Newyddion 6) newydd ddweud wrthym mai'r llofruddiaethau ym Maenceinion heddiw ydi'r tro cyntaf i ddwy blismones gael eu lladd ar yr un pryd yn 'unrhyw le yn y DU'. Dydi hynny ddim yn wir - lladdwyd dwy blismones - Ivy Kelly a Rosemary McGookin - ynghyd a saith o heddweision gwrywaidd ar Chwefror 28, 1985 mewn ymysodiad ar orsaf heddlu Newry gan un o unedau'r IRA o Dde Armagh.
Rwan mae'r ffaith nad ydi'r BBC yn cyfri'r ddwy Wyddeles yn adrodd cyfrolau am agweddau gwaelodol y Gorfforaeth. Trwy gydol y rhyfel yng Ngogledd Iwerddon roedd y Bib yn cael ei ddefnyddio yn feunyddiol i'n hargyhoeddi mai problem droseddol ac nid un wleidyddol oedd un Gogledd Iwerddon, ac o ganlyniad mai plismona effeithiol oedd un o'r prif atebion.
Rwan roedd yn weddol amlwg nad oedd yr hyn roedd y Bib yn ei honni yn dal dwr. Roedd y gwasanaeth heddlu yn anferth, yn llwyr Brotestanaidd i bob pwrpas ac yn aml wedi ei barafilwreiddio. Roedd hyfyd yn llwyr ddibynol ar gefnogaeth milwrol - milwyr, gwasanaethau cudd wybodaeth, hofrenyddion, tyrau gwylio, cerbydau arfog ac ati ac ati. Ar un adeg roedd yna 50,000 o aelodau lluoedd diogelwch yn ceisio cadw trefn ar y lle. Roedd y system droseddol yn llwyr ddibynol ar gyfreithiau 'arbennig' i ganiatau iddo weithio - llysoedd di reithgor, carcharu heb achosion llys, hawliau i'r heddlu nad oedd ar gael yn yr unman arall, talu am dystiolaeth celwyddog ac ati.
Yn y diwedd - wedi chwarter canrif - cafwyd datrysiad i'r broblem - Cytundeb Dydd Gwener y Groglith - datrysiad gwleidyddol i broblem wleidyddol. Roedd propoganda di ddiwedd y BBC - propoganda oedd yn troi problem oedd yn ei hanfod yn un wleidyddol yn un droseddol - yn un o'r rhesymau pam aeth y sefyllfa rhagddi cyhyd.
Ond rwan bod problem Gogledd Iwerddon yn diflannu i'r gorffennol mae'r Bib wedi anghofio am yr heddlu a laddwyd yno. Roedd Ivy Kelly a Rosemary McGookin yn ddwy blismones oedd yn cyflawni swyddi milwrol. Ar wahan i ddangos amharch digon anymunol mae'r ffaith nad ydi'r Bib yn gwybod dim oll amdanynt yn awgrymu nad ydi'r Gorfforaeth yn credu ei phropoganda ei hun.
Nid oedd y 'cysylltiad' yma yn golygu dim i mi mae'n rhaid dweud ond dioch am dynnu fy sylw ato. Ond beth wyf wedi penderfynnu dweud yma yw rhywbeth mwy cyffredinol am y BBC....sef, dwi wedi hen orffen edrych ar y sianel am unrhyw newyddion o bwys. Gellir cael canlyniadau chwaraeon oddi wrthi ond am unrhyw beth a mwy o sylwedd.....gwell edrych ar ffynonhellau eraill.
ReplyDelete