Mae Valleys Mam yn gwbl gywir - fel y bydd yn amlach na pheidio - i nodi bod creu canfyddiad bod y Blaid yn rhyw fath o blaid atodol i'r Blaid Lafur yn codi cwestiwn hynod niweidiol i'r Blaid - if you can vote for the real thing, why vote for the middle man?. Mae yna wirionedd hefyd yn yr hyn mae Gareth Hughes yn ei awgrymu ynglyn a'r perygl o droi Cymru yn rhyw fath o wladwriaeth un plaid os ydi'r Blaid yn ymwrthod a'i dyletswydd i fod yn wrthblaid effeithiol.
Serch hynny fy mhrif wrthwynebiad yn bersonol i lyfu a llempian o gwmpas y Blaid Lafur ydi'r ffaith bod y blaid honno wedi methu, methu a methu eto. Rydym - fel gwlad - wedi pleidleisio trosti ym mhob etholiad o bob math yn ddi eithriad ers 1918 - ac eto mae ein perfformiad economaidd cymharol (a chymharu a gweddill y gweddill y DU) yn waeth nag ydi wedi bod ers hynny. Mae'r rhesymau am hynny yn ddigon hawdd i'w harenwi - 'does gan Llafur ddim diddordeb o gwbl mewn gadael i Gymru gael ei dwylo ar y lefrau trethiannol a chyllidol fyddai'n caniatau iddi fynd i'r afael efo'i phroblemau strwythurol.
Mae'n iawn i'r Blaid glymbleidio o bryd i'w gilydd efo Llafur pan mae manteision amlwg i'r Blaid ac i Gymru o wneud hynny, ond ddylai hynny byth ein dallu i'r ffaith mai'r ffordd orau i symud Cymru yn ei blaen ydi trwy ddifa cefnogaeth etholiadol Llafur - plaid sydd wedi bod yn faen melin o gwmpas gwddf Cymru ers yn agos i ganrif bellach.
Cytuno gyda chdi fan hyn, ond mae hefyd yn hollol wallgo datgan nad oes gennym ddiddordeb mewn clymbleidio, a datgan ein bod yn edrych ymlaen i fod yn wrthblaid. Dyna'r sefyllfa sydd ohoni ar y funud.
ReplyDeleteAi fi sydd wedi methu rhywbeth ?
ReplyDelete1.Ydi'r cwestiwn o glymblaid rhwng PC a Llafur ar yr agenda yng Nghaerdydd?
Nac ydi. Ac eithrio ym meddwl DET a Cynog.
2. Ydi Llafur yn chwilio am bartneriaid? Nac ydynt.
Maent wedi llwyddo i aros mewn grym am flwyddyn yn barod. 30 AC + Llywydd = sefydlogrwydd
3. Pam fysa Carwyn isio ypsetio ei gefnogwyr ei hun, drwy ddod a DET (neu rhywrai eraill) i mewn i'w lywodraeth ? Dim ond creu tensiwn dianghenraid a chodi cnecs yn rhengoedd Llafur fysa hyn.
Felly. Clymblaid? Sgersli bilif!
Gwaith DET a'r gweddill am rai blynyddoedd bellach fydd bod mewn gwrthblaid. Craffu, cwestiynu, holi, ia - a weithiau gwrthwynebu polisiau Llafur.
Mae hyn hefyd yn waith pwysig!
Cytuno'n hollol.
ReplyDeleteTrefniant efo Llafur ydi'r peth gwaetha all Plaid wneud.
Hyd y gwela i, dim ond mewn un amgylchiad y dylid gwneud hynny - os ydi Llafur yng Nghymru yn fodlon pleidleiso i gael annibyniaeth i'n gwlad.
Wel Maen Tramgwydd fel ti'n gwybod mae'n siwr, yr hyn 'rwyt yn ei ddweud er syndod i lawer iawn o bobl mae'n siwr yw polisi Plaid Cymru ar y funud. Yn groes i ti wrth gwrs credaf nad oes gan Plaid Cymru unrhyw obaith etholiadol hyd nes newidir y polisi hurt yma. Yr unig sail ar gyfer clymblaid ddylsai fod a yw o les i Gymru i'r Blaid glymbleidio. Os ydyw Clymblaid amdani
ReplyDeleteUn o Eryri
ReplyDeleteFel hyn mae fy meddwl yn mynd:
Plaid Cymru yw'r unig blaid sydd am annibyniaeth i'n gwlad. Annibyniaeth yw'r unig obaith i Gymru ffynnu. Mae clymblaid efo Llafur wedi niweidio'r a gwanhau'r Blaid. Os ydi'r Blaid yn cael ei niweidio, mae'r obaith am annibyniaeth yn pellhau.
Felly nid yw clymbleidio efo Llafur yn lles i Gymru. Yr unig eithriad yw'r un y nodais uchod.
Efallai dy fod yn meddwl bod trefn fy rhesymeg yn rhy syml.
I ti, ac eraill sy'n meddwl yr un peth, fel DET a Dafis, mae'r dyletswydd i egluro sut fydd clymblaid neu trefniant efo Llafur yn gwella safonau byw ein pobl. Mae'r Blaid Lafur wedi llywodraethu Prydain am dros 37 o flynyddoedd, ac yng Nghaerdydd am 13. Gweler cyflwr Cymru heddiw, fel un or gwledydd tlotaf yn Ewrop.
D'oes dim dyfodol i'r Blaid os cefnogi Llafur yw ei nod, ac felly d'oes dim dyfodol i Gymru.
Rydw i'n cytuno na ddylai Plaid Cymru ymddwyn fel ryw fath o Lafur-lite. Y broblem yw mai ryw fath o Lafur-lite yw hi. Fersiwn ychydig yn fwy cenedlaetholgar o'r Blaid Lafur yw Plaid Cymru ar hyn o bryd.
ReplyDeleteFe fyddai osgoi clymbleidio yn rhoi'r argraff eu bod nhw'n wahanol i'r Blaid Lafur, ond fyddai ddim yn newid y ffaith eu bod nhw'n debyg iawn mewn gwirionedd.
A dweud y gwir does dim lot o wahaniaeth rhwng yr un o'r pleidiau yng Nghymru. Fel y dywedodd Vaughan Roderick yn ddiweddar maen nhw'n debycach i enwadau crefyddol na pgleidiau gwleidyddol.
Hyd y gwela i y prif resymau dros ethol PC yw:
a) Mae'r Blaid Lafur wedi bod mewn grym yn rhy hir, mewn safle etholiadol anorchfygol, ac felly yn gorffwys ar eu rhywfau i raddau. Fe allen nhw alw am rymoedd trethi ond beth yw'r pwynt gwneud rhywbeth allai niweidio gobeithion etholiadaol y blaid pan mae nhw gymaint ar y blaen i bawb arall, a chreu ffrae fewnol efo ASau sy'n gwrthwynebu'r newid? Fe fydda'n beth iach i Gymru petaen nhw'n colli eu gafael ar rym, dim ond er mwyn rhoi cic i fynu eu tinnau a gwneud iddyn nhw feddwl y tu allan i'r bocs.
b) Maen nhw'n blaid unoliaethol ac felly mae yna ddrwgdybiaeth bod rhai penderfyniadau yn cael eu cymryd er mwyn hybu gobeithion y blaid ar lefel Brydeinig yn ehangach yn hytrach na Chymru. E.e. mae nhw i weld yn gwneud capital gwleidyddol allan o fethiant economaidd Cymru, er mwyn ymosod ar y Glymblaid yn San Steffan, yn hytrach na cheisio mynd i'r afael a'r broblem.
Maen Tramgwydd
ReplyDelete"Mae clymblaid efo Llafur wedi niweidio'r a gwanhau'r Blaid."
Ni allaf ddeall o lle'r wyt yn cael y ffaith yma. Mae bron pawb yn gytun mai'r llywodraeth orau ers ffurfio'r cynylliad oedd Llywodraeth Cymru'n Un. Fe gafodd y Blaid fwy o sylw yn ystod y cyfnod yno nac unrhyw gyfnod arall yn ei hanes. Yr un niwed a wnaethpwyd i'r Blaid oedd yr ymgyrch etholiad, lle wnaethom fethu ar y cyfle o ganmol ein hunain.
A wyt ti felly yn condemnio Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd am ddod i ddealltwriaeth gyda'r Blaid Lafur i ffurfio Llywodraeth yno, ac a fuasai yn well gennyt weld yno clymblaid o'r holl wrthbleidiau yn rheoli y Cynngor. Dyna beth fuasai trychineb i bobl Gwynedd, ond o leiaf buaswn yn gwneud yr hyn yr wyt ti yn ofyn.
Gyda llaw yn bersonol nid oes gennyf broblem cael clymblaid gyda'r Toriaid neu'r Rhyddfrydwyr os mai ni fuasai yn arwain y clymblaid.
Buaswn yn dweud wrth Ifan Morgan Jones bod llawer iawn o resymau dros bleidleisio dros y pleidiau gwahanol yng Nghymru, gormod o lawer i restru yma ar flog rhywun arall
Un o Eryri
ReplyDeleteBeth ydi sefyllfa'r Blaid heddiw, ar ôl y cytundeb efo Llafur? Ydi'r Blaid yn gryfach neu yn wanach?
Efallai mae Cymru'n Un oedd y llywodraeth gorau gafodd Cymru, ond digon gwael oedd y rhai cynt, hefyd yr un sydd yn bodoli yn awr. Os cafodd y Blaid sylw, beth oedd y canlyniad etholiadol?
Os wyt ti'n meddwl mai diffyg hunan-ganmoliant oedd y broblem - roedd IWJ wedi argraffu taflenni, fel ryw fath o bapur newydd, i ddosbarthu gyda darlun ohono'i hun ac eraill yn cymryd y clod am y llwyddiant yn y refferendwm. Ond ddaeth y pleidleisau ddim i ganlyn.
Ond dim yna ydi'r cwestiwn. Mae Cymru heddiw yn gymharol dlotach nag yr oedd hi hyd yn oed chwe mlynedd yn ôl. Ychydig iawn o wahaniaeth wnaeth Cymru'n Un i sefyllfa ariannol ein gwlad, na cyflwr ei phoblogaeth.
Yn y bôn, d'oes gan Llafur lawer o ddiddordeb mewn gwella safonau byw pobol Cymru - eisiau poblogaeth dibynnol ar y wladwriaeth maent, sydd debygol o bleidleiso iddynt, rhag ofn i'r Toriaid dorri eu buddiannau. Diben Llafur yw ennill etholiad cyffredinol ym Mhrydain er mwyn cael grym yn San Steffan. Diben Plaid Cymru ydi gwella Cymru. Mae diben y ddwy blaid yn hollow groes i'w gilydd.
Pan ddaeth y dewis flwyddyn diwethaf yn yr etholiad, Llafur gafodd y llwyddiant, nid y Blaid. Fe ddigwyddodd rhywbeth tebyg i'r Democratiaid Rhyddfrydol ar ôl ei clymblaid nhw efo Llafur.
Cwestiwn cwbl wahanol yw'r sefyllfa yng Ngwynedd - y Blaid yw'r cryfaf o'r ddwy blaid (hefyd am resymau eraill).
Efallai ei fod yn werth nodi fod y Blaid mewn clymblaid gyda Llafur yn y 3 chyngor maent yn arwain.
ReplyDelete"Buaswn yn dweud wrth Ifan Morgan Jones bod llawer iawn o resymau dros bleidleisio dros y pleidiau gwahanol yng Nghymru, gormod o lawer i restru yma ar flog rhywun arall"
ReplyDeleteAllet ti plis rhoi gwybod i mi beth ydyn nhw? Fe fyddai wir gen i ddiddordeb clywed dy farn ar y mater. (dw i ddim yn bod yn sarcastic fan hyn!)