Friday, July 06, 2012

Gwilym Owen - rhif 196

I'r sawl yn eich plith sydd ddim yn prynu Golwg, canmol yr Arglwydd Elis-Thomas, yr Arglwydd Morris, gwadu unrhyw gysylltiad efo Gwalchmai a beirniadu'r blogiwr yma mae colofn Gwilym Owen yn Golwg yr wythnos yma. Wele rhan o'r feirniadaeth honno isod:

Enw'r celpiwr yw Cai Larsen, sydd wrth ei waith bob dydd yn brifathro ysgol rywle ar lannau'r Fenai. Mae rant y blogiwr o'r stafell ddosbarth yn dystiolaeth o fethiant o leiaf un prifathro i ddeall cynnwys colofn newyddiadurol ddigon syml a ymddangosodd yn y cylchgrawn hwn bythefnos yn ol.

Yr hyn sydd wedi ypsetio'r colofnydd ydi bod Blogmenai wedi dehongli'r frawddeg ganlynol (mewn colofn oedd yn cwyno nad oedd y cyfryngau wedi mynd ar ol stori am Bethan Jenkins yn sgil sylwadau trydar ganddi) fel awgrym bod gan Gwilym ddiddordeb arbennig mewn rhoi sylw negyddol i wleidyddion sy'n Gymry Gymraeg. Mi gewch chi benderfynu:

Ydi mae hi'n stori fach dda. Stori am wleidydd Cymraeg ei hiaith, ond dim ond ar dudalennau Saesneg y Western Mail a gwefan Golwg360 y cyhoeddwyd hi.

Mae cwpl o bwyntiau yn codi o hyn oll. Mae Gwilym yn rhyw frolio nad yw'n gwybod nemor ddim am ddulliau cyfathrebu diweddar. Efallai y bydd yn syndod iddo ddeall bod pob blogiad ar Flogmenai - a'r rhan fwyaf o flogiau eraill - wedi ei logio mewn modd sy'n dynodi'r amser y cychwynwyd ar y blogiad. Cychwynwyd ar y blogiad mae Gwilym yn cyfeirio ato am 19.07 ar ddydd Iau, Mehefin 21.

Beth bynnag mae Gwilym yn ei feddwl o fy 'rant', dydi hi heb ei throsglwyddo o ystafell ddosbarth. Mi fydda i adref, fel y rhan fwyaf o bobl eraill am saith o'r gloch nos. Mae yna 1,470 o flogiadau ar Flogmenai - ac mae amser a dyddiad pob un wedi ei logio yn gyhoeddus. Does yna ddim un o'r rheiny yn cofnodi i ddarn gael ei gynhyrchu yn ystod amser pan mae rhywun yn talu cyflog i mi am wneud rhywbeth arall. Byddai gwneud hynny yn amhriodol ac yn amhroffesiynol. Mae ensyniad Gwilym felly yn enllibus.

Mae'r math yma o ensyniadau wedi eu gwneud yn y gorffennol pan mae'r blog yma wedi anghytuno efo barn neu feirniadu sylwadau rhywun neu'i gilydd. Mewn sefyllfaoedd felly bydd yna'n aml gyfeiriadau at yr hyn 'dwi yn ei wneud i ennill bywoliaeth, er nad oes yna ddim cysylltiad o unrhyw fath rhwng cynnwys y sylwadau a natur fy ngwaith - ynghyd ag ensyniadau fy mod yn blogio yn hytrach nag ennill bywoliaeth gonest.

Efallai y dyliwn gymryd munud neu ddwy i egluro pethau i Gwilym a'i debyg.

Mae yna swyddi lle mae'r sawl sydd yn eu dal wedi ei wahardd rhag cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. 'Dydw i ddim mewn swydd felly, ac o ganlyniad mae gen i hawl i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd - yn fy amser fy hun. Un ffordd o gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd ydi blogio gwleidyddol.

Mae gen i ddigon o wendidau, ond 'dydi dineweitrwydd ddim yn un ohonynt. 'Dwi'n deall yn iawn bod rhai o'r sylwadau sy'n cael eu gwneud yma yn tramgwyddo, a 'dwi'n derbyn bod pobl am fy meirniadu a dweud pethau cas. 'Dwi'n deall hefyd y bydd fy sylwadau o bryd i'w gilydd yn cael eu darnio, eu beirniadu a'u cam ddehongli. Does gen i ddim problem efo hynny - dim oll.

Ond mae gen i broblem efo honiadau ac ensyniadau sydd wedi eu seilio ar wybodaeth sy'n ffeithiol anghywir, a sydd gyda'r potensial i beri niwed proffesiynol. Cryn broblem.

Serch hynny dwi ddim yn bwriadu gadael i neb fy mwlio i gau fy mhig trosiadol - hyd yn oed Gwilym Owen.

11 comments:

  1. Fel un sydd yn anghytuno a dy sylwadau ambell i dro, cytunaf yn llwyr a chdi yma. Credaf fod dy gyfraniad i wleidyddiaeth yn arbennig. Nid oes rhaid i neb gytuno a chdi a 'rwyt yn hollol barod i adael pawb anghytuno a chdi yn gyhoeddus ar dy Flog dy hunan. Buaswn hefyd yn cael fy synnu os oes mwy o bobl yn darllen y cylchrawn Golwg na sydd yn yn darllen dy flog di. Dwi'n gwybod un peth, mae llawer haws gennyf gredu yr hyn sydd yn cael ei ddweud yn dy flog di, na sydd yn cael ei ddatgan yn nhudalennau Golwg. O leiaf mae dy flog di o safon. Dalier ati, o leiaf 'rwyf yn cael pleser o droi at dy Flog yn achlusrol, rhywbeth nad ydwyf wedi ei gael ers blynyddoedd gyda y cylchgrawn Golwg

    ReplyDelete
  2. Fel un arall sydd yn anghytuno a dy farn ambell i dro yr oeddwn innau hefyd y siomedig efo sylwadau Gwilym Owen. Mae Gwilym yn honni bod blogio yn gwbl ddiarth iddo, ond er gwaethaf y dieithrwch mae o'n gallu dy gyhuddo o flogio yn blentynnaidd!. Mae Gwilym yn gwneud sylwadau rheolaidd am newyddiaduraeth a llenyddiaeth Cymraeg ond eto rhywun, y mae'n amlwg nad ydyw Gwilym yn gwybod dim amdano yw'r newyddiadurwr blaenllaw a'r llenor cenedlaethol sydd wedi ennill Gwobr Daniel Owen - Ifan Morgan Jones.

    Mae erthygl gan un o brif newyddiadurwyr Radio, Teledu a Phrint Cymru, sy'n brolio ei anwybodaeth, cyn ymosod ar unigolyn arail ar sail ei anwybodaeth yn adrodd cyfrolau am safonau newyddiaduriaeth broffesiynol Cymraeg cyfredol!

    Roedd colofn Gwilym ar dudalen 10 o Golwg, mae 'na lawer gwell colofnydd ar dudalen 11!

    ReplyDelete
  3. Anonymous9:03 am

    Annwyl Blogmenai

    Yn rhinwedd dy rol fel sylwebydd gwleidyddol, rwyt yn dweud pethau diddorol, cynhennus a threiddgar.

    O ddweud pethau diddorol, cynhennus a threiddgar, byddi'n plesio rhai, cythruddo eraill ac anghytuno efo llawer. Mae'n debyg iti dynnu i'th ben sen hen hac. Arwydd o lwyddiant: llongyfarchiadau.

    ReplyDelete
  4. Ia, roeddwn yn gweld y golofn Alwyn - pwynt digon diddorol - mi wna i ymateb os ga i amser - mae'n amser prysur iawn o'r flwyddyn.

    ReplyDelete
  5. M Owen10:18 pm

    Deinosor ydy Gwilym Owen, paid a gwrando dim arno. Rwy'n wrth fy modd darllen dy flog, dalied ati Cai!

    ReplyDelete
  6. Anonymous9:59 pm

    Nid mod i'n cefnogi Cameron na ddim byd felly ond fe ddwedodd am Gordon Brown: 'an analogue politician in a digital age'. Yn yr un modd, wele Gwilym Owen, newyddiadurwr analog mewn oes digidol.

    ReplyDelete
  7. Anonymous12:30 am

    Politics by smear ydi ffordd Llafur a dyna ydi ffordd hacs Llafur hefyd.

    ReplyDelete
  8. Anonymous12:06 pm

    I read this article completely on the topic of the
    comparison of latest and preceding technologies,
    it's awesome article.
    My site ; free weight loss programs online

    ReplyDelete
  9. Anonymous8:44 pm

    Touche. Solid arguments. Keep up the good spirit.


    My site - Haarwuchs
    my site :: Haarwuchs

    ReplyDelete
  10. Anonymous10:48 pm

    Appreciate the recommendation. Let me try it out.

    Feel free to surf to my webpage ... haarwuchs
    My web site - Haarwuchs

    ReplyDelete
  11. Anonymous11:47 am

    Oh my goodness! Amazing article dude! Thank you so
    much, However I am going through problems with your RSS.
    I don’t understand why I am unable to subscribe to it.
    Is there anyone else having identical RSS issues?

    Anyone who knows the solution will you kindly respond? Thanks!

    !
    Visit my weblog ; Ephedrine cafeine aspirine

    ReplyDelete