Ymddengys i'r daflen isod gael ei dosbarthu ym Mryncrug yn ystod y dyddiau cyn yr is etholiad diweddar. Dydi dosbarthu taflenni ddim yn beth anarferol mewn etholiad wrth gwrs - ond yr hyn sy'n anarferol am y daflen yma ydi'r ffaith ei bod yn anghyfreithlon. I ddechrau dydi hi ddim yn ateb y gofyn cyfreithiol ar y sawl sy'n cyhoeddi gohebiaeth etholiadol i ddarparu enw a chyfeiriad.
Yn bwysicach, mae'r honiadau a wneir yn y ddogfen yn rhai nad ydynt yn wir. Mae'r cyntaf yn cyfeirio ynglyn ag anghydfod lleol ynglyn a phlant yn cerdded i'r ysgol lle daethwyd i gyfaddawd efo'r Awdurdod Addysg. Fel sy'n gyffredin yn y sefyllfaoedd hyn - ac yn arbennig yn ystod cyfnod is etholiad - roedd nifer yn hawlio cyfrifoldeb am y cyfaddawd hwnnw - ond roedd gan yr ymgeisydd Plaid Cymru, Alun Wyn Evans cystal dadl a neb i hawlio cyfrifoldeb. Roedd wedi tynnu sylw'r deilydd portffolio addysg at y sefyllfa, roedd hithau wedi dod i'r ardal ac roedd cyfaddawd wedi ei gyrraedd yn sgil hynny. 'Does yna ddim gwirionedd o gwbl yn yr honiad i Alun Wyn Evans bleidleisio tros gau Ysgol Bryncrug - roedd rhaid iddo atal ei bleidlais oherwydd cysylltedd. Mae dweud celwydd am ymgeisydd yn ystod ymgyrch etholiadol yn groes i gyfraith etholiadol.
Rwan 'dydi hi ddim yn glir pwy oedd yn gyfrifol am y pamffled, ac yn wir 'does yna ddim tystiolaeth bod yr un o'r ymgeiswyr efo unrhyw gysylltiad o gwbl efo'r mater - er ei bod yn weddol amlwg mai ymgais i ddyladwadu ar y ffordd roedd pobl am bleidleisio oedd yr ymarferiad. Serch hynny mae'n anffodus bod mater fel hyn wedi effeithio ar etholiad yng Ngwynedd, ond 'dydi o ddim y tro cyntaf na'r olaf mi dybiwn i'r math yma o beth ddigwydd
Rhyfedd bod Facebook LL G bron yn uniaith Saesneg
ReplyDeleteRhyfedd bod Facebook LL G bron yn uniaith Saesneg
ReplyDeleteUnrhyw son am pwy fydd ymgeiswyr y Blaid ar gyfer Commissioners yr Heddlu??.
ReplyDeleteFydd ni yn rhedeg rywun yn 4 (gwastraff arian yn y De/Gwent swnin feddwl) yntau dim ond rhai?
Neb mi fyddwn yn meddwl.
ReplyDeleteBe fedar rhywun neud am y math yma o beth (dim o angen rheidrwydd yn Bryncrug ond yn ehangach);
ReplyDeleteGan y byddai'n nesa peth at amhosib i brofi dim, oes mecanwaith i alw is-etholiad arall? Sut arall mae stopio pobl rhag torri cyfraith etholiadol yn y modd yma?