Roeddwn yn darllen ymdriniaeth Ifan ar ei flog o'r syniadaeth sydd ynghlwm a chenedlaetholdeb Cymreig yn ychydig ddyddiau'n ol - ac am rhyw reswm gwnaeth hynny i mi feddwl am gyfres o ddigwyddiadau yn Nulyn roeddwn yn dyst iddynt flynyddoedd yn ol. Dylid darllen y blogiad yma yng nghyd destun un Ifan.
Cyn edrych ar y digwyddiadau hynny, efallai y dyliwn ddweud gair neu ddau am gefndir cyfredol blogiad Ifan - y dathliadau brenhinol sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd.
Yr hyn sy'n hynod am boblogrwydd presenol y frenhiniaeth ydi'r ffaith ei fod fel sefydliad yn tynnu mor gyfangwbl groes i syniadaeth yr oes. Mae'r rhan fwyaf o bobl - hyd yn oed ym Mhrydain - yn rhyw led dderbyn gwaddol syniadaethol y Chwyldro Ffrengig - cydraddoldeb, rhyddid yr unigolyn, democratiaeth, hawliau sifil, cyfartaledd cyfle ac ati. Mae'r syniadaeth sydd ynghlwm a'r frenhiniaeth yn gwbl groes i'r rheiny - trefn gaeth o ran dosbarthiadau cymdeithasol, elitiaeth, cyfoeth a phwer wedi ei gyfiawnhau ar sail teuluol ac ati. Pethau sy'n hollol groes i ddaliadau'r rhan fwyaf ohonom.
I'r graddau yna mae'r ffaith bod cymaint o bobl wedi ymgolli'n llwyr mewn delweddau a naratif syml sy'n cuddio gwacter syniadaethol y cwlt brenhinol yn dysteb i rym y cyfryngau i lywio'r ffordd mae pobl yn meddwl - o leiaf mewn perthynas a phethau syml mae'n bosibl eu gwahanu oddi wrth fywyd pob dydd.
Ond ar lefel arall mae'n dysteb i afael cenedlaetholdeb ar bobl. Yn ei hanfod mynegiant modern o hen reddf llwythol o fod eisiau perthyn i grwp yr ydym yn eithaf cyfforddus efo fo ydi cenedlaetholdeb. Yng Nghymru mae yna gymhlethdod oherwydd bod yna hunaniaethau cenedlaethol gwahanol yn ymgiprys efo'i gilydd - un Cymreig ac un Prydeinig. I raddau mae'r ymgiprys hwnnw yn zero sum game - mae'r hyn sy'n cryfhau'r ymdeimlad o Gymreictod yn gwanio'r ymdeimlad o Brydeindod - ac mae'r un peth yn wir i'r gwrthwyneb wrth gwrs. Dyna pam bod yr holl fusnes o ddyrchafu'r frenhiniaeth sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd yn peri diflastod i lawer ohonom sy'n genedlaetholwyr Cymreig.
Ond mae cenedlaetholdeb amgen ynddo'i hun mewn perygl o efelychu gwacter a diffyg perthnasedd cenedlaetholdeb Prydeinig - ac mae hynny yn arbennig o wir os ydym yn ceisio cyfuno cenedlaetholdeb Cymreig efo ymlyniad i'r teulu brenhinol, a'r syniadaeth sydd ynghlwm a hynny. Priod le cenedlaetholdeb Cymreig yr unfed ganrif ar hugain ydi yn agos at werthoedd yr unfed ganrif ar hugain - nid efo'r gwerthoedd sydd bellach wedi dyddio mae'r frenhiniaeth yn eu cynrychioli. Mae cenedlaetholdeb sydd yn ddim mwy na hynny wedi ei seilio ar syniadaeth digon tenau a di sylwedd yn y pen draw.
Daw hyn a ni at fy mhrofiad hynod fyrhoedlog o'r traddodiad gweriniaethol yn yr Iwerddon. Mae hi'n ddeg mlynedd ar hugain a mwy yn ol ers i mi gael fy hun ynghanol gwrthdaro sylweddol a digon gwaedlyd yn rhai o strydoedd cyfoethocaf Dulyn. Canlyniad i wrthdystiad y tu allan i lusgenhadaeth Prydain yn ystod yr ympryd newyn yn 1981 oedd y gwrthdaro hwnnw. Doeddwn i ddim yn gwybod dim oll am y brotest hyd y noson cynt pan welais hysbyseb mewn clwb Gwyddelig (yn ystyr ieithyddol hynny). Mi es i St Stephen's Green, lle'r oedd yr orymdaith yn cychwyn, o ran chwilfrydedd mwy na dim arall. Roeddwn wedi synnu dod ar draws torf mor fawr, a mor ymddangosiadol hwyliog - roedd yna hyd 20,000 o bobl yno, ac roedd pedwar o'r ymprydwyr newyn wedi marw, gyda dau arall yn agos at farwolaeth.
Ta waeth, i dorri stori hir yn fyr, diflannodd yr hwyl o gyrraedd y llysgenhadaeth Brydeinig a'r cannoedd o heddlu terfysg oedd yn ei amddiffyn ychydig strydoedd i ffwrdd, a chafwyd rhai oriau o ymladd stryd digon ciaidd rhwng elfennau o'r dorf a'r heddlu. Yr hyn sydd wedi aros efo fi mwy na dim, a'r hyn sy'n berthnasol i'r blogiad yma ydi'r hyn roedd y sawl oedd yn ymladd yn bloeddio ar ei gilydd yn ystod y gwrthdaro - Stand your ground, stand your ground - defend the Republic, defend the Republic.
Rwan, ar un olwg roedd hyn yn rhywbeth eithaf boncyrs i'w weiddi - wedi'r cwbl roeddynt yn ymladd yn erbyn gweision cyflogedig y Weriniaeth Wyddelig swyddogol. Ond - fel llawer o bethau mewn gwleidyddiaeth Gwyddelig, roedd yna gyd destun ehangach. Roedd llawer o'r sawl oedd yn ymladd o'r tu allan i Ddulyn, ond roeddynt yn gwybod mai Stand your ground, defend the Republic oedd aelodau'r IRB yn ei weiddi ar eu gilydd, wrth ymladd y fyddin Brydeinig ychydig strydoedd i ffwrdd o ben y gwahanol adeiladau yr oeddynt wedi eu meddiannu tra'n datgan eu Gweriniaeth wreiddiol yn ol yn 1916.
Ond mewn ystyr arall mae'r gair Republic yn un syniadaethol - ac yn yr ystyr hwnnw roedd protestwyr yn credu eu bod yn amddiffyn rhywbeth haniaethol - rhywbeth roeddynt yn ei gario efo nhw - eu credoau gwleidyddol creiddiol. Mae'r syniadaeth honno i'w gweld ym Mhroclomasiwn 1916 - dogfen sydd wedi ei atgynhyrchu filynau o weithiau, a sydd i'w gweld yn aml ar waliau adeiladau cyhoeddus, tafarnau a thai preifat yn yr Iwerddon.
_ _ _ The Republic guarantees religious and civil liberty, equal rights and equal opportunities to all its citizens, and declares its resolve to pursue the happiness and prosperity of the whole nation and of all its parts, cherishing all the children of the nation equally, and oblivious of the differences_ _ _
Rwan peidiwch a fy ngham ddeall i - mae yna lawer am y traddodiad gweriniaethol Gwyddelig nad ydw i yn ei hoffi - mae'n rhy anhyblyg, rhy barod i ddiffinio ei hun fel gwrth bwynt i Brydeindod, a llawer rhy barod i droi at drais. Ond does yna ddim amheuaeth bod y syniadaeth mae wedi ei seilio arni yn fwy pwerus na'r hyn mae ein cenedlaetholdeb ni wedi ei seilio arno.
Mae'r bobl sydd wedi ei harddel wedi ei chymryd mwy o ddifri o lawer nag ydym ni. Maent wedi bod yn fodlon dioddef (ac achosi dioeddefaint wrth gwrs) trosti mewn ffordd nag ydym ni erioed wedi bod yn fodlon gwneud.
Un o'r pethau trawiadol am y gwrthdaro ar Merion Road yr holl flynyddoedd yna yn ol oedd dewrder pobl - gyda genod bach un ar bymtheg oed yn taflu eu hunain ar heddlu oedd wedi eu harfogi gydag offer atal terfysg. Mae'n debyg i ddegau o filoedd o Wyddelod gael eu lladd a'u carcharu yn ystod y ddau gan mlynedd diwethaf oherwydd eu hymlyniad i'w syniadaeth. Mae'r syniadaeth wedi galluogi llawer iawn o bobl i ddangos dewrder personol sylweddol er ei mwyn. Does dim rhaid i ni gytuno efo'r dulliau treisgar sydd wedi bod yn nodwedd llawer rhy amlwg o'r traddodiad Gwyddelig i allu cydnabod hynny.
Y rheswm am hyn ydi bod y syniadaeth ei hun yn un sy'n apelio at bobl ar sawl lefel. Mae'n bwydo ar y traddodiad gweriniaethol Ewropiaidd ac addewid hwnnw am well bywyd i'r sawl sy'n ei arddel. Mae'n cyfuno delfrydau gwleidyddol pobl, eu gobeithion materol a'r ymdeimlad o chwarae teg a chydraddoldeb mae'r rhan fwyaf ohonom bellach yn ei arddel. O ganlyniad mae ardrawiad emosiynol y syniadaeth yn aml haenog - mae hyn yn ei dro yn ei gwneud yn haws i'w chymryd o ddifri ac i ymroi iddi.
Dwi'n deall pam bod pobl yn dweud y dylai'r Mudiad Cenedlaethol syrthio i mewn i'r consensws sefydliadol ynglyn a'r frenhiniaeth - wedi'r cwbl mae methiant i wneud hynny yn rhwym o arwain at ymysodiadau hysteraidd gan y cyfryngau torfol - ac mae'r rheiny yn hynod bwerus. Ond mae creu syniadaeth genedlaetholgar Gymreig sydd wedi ei seilio ar hanfodion cenedlaetholdeb Prydeinig cyfoes yn debygol o arwain at syniadaeth amherthnasol a di sylwedd - un nad oes neb mewn gwirionedd yn ei chymryd o ddifri.
Hoffwn i weld Leanne yn esbonio pam nad yw baner yr Union Jack yn dderbyniol. Dyma faner y Welsh Not, y Rhyfel byd Cyntaf, coloneiddio, genocide byd eang.
ReplyDeleteMae cenedlaetholwyr yn ofn esbonio i bobl yr union rheswm pam iddynt ddod yn genedlaetholwyr yn y lle cyntaf. Petai Leanne yn dweud ar lawr y Senedd nad yw'r Union Jack yn dderbyniol fe fydd hi'n cael mor o atgasedd yn cael ei lluchio arni,ond os wnaeth hi dal ei thir a esbonio pam fydd miloedd yn cytuno a hi a bydd yn dadnormaleiddio'r faner ai syniadaeth.
Lle mae Llyr H-G, Alun Ffred, Lyndsey etc a Leanne yn dweud yn glir fod yr Unoion Jack yn offensive. Nid rhyw 'ddewis' yw hi neu 'amrywiaeth' dyma'r faner sy'n cynriocholi y syniadaeth wleidyddol sydd wedi milwriaethu yn erbyn pob consesiwn bychan mae'r Gymraeg a Chymru wedi ei hennill mewn dros ganrif. Dyma'r faner wnaeth danfon miloedd ar filoedd o Gymry i farw yn y ffosydd. Mae'r faner yn tainted. Mae fel chwifio baner yr Undeb Sofietaidd yn Estonia.
Leanne, Llyr, Elin, Simon - byddwch yn ddewr peidiwch bod yn gachgwn. Symudwch yr agenda yn ei flaen. Byddwn ni'n colli os adawn ni i'r BritFest yma barhau.