Felly mae Carwyn Jones o'r farn bod y jiwbili yn gyfle i ddiolch i Elizabeth Windsor am '60 mlynedd o gefnogaeth' i Gymru.
Rwan dwi'n sylweddoli ei bod yn dymor crafu gorffwyll a di feddwl, ond mewn difri beth yn union ydi natur y gefnogaeth yma? Does yna ddim amheuaeth ei bod yn dod yma o bryd i'w gilydd i agor hyn, neu i edrych ar y llall. Ond dyna ydi ei gwaith - ac am wneud y gwaith digon ysgafn a syml hwnnw mae'n cael cyflog anferth ac mae'n cael dal ei gafael ar freintiau sy'n caniatau iddi gynnal a chadw y ffortiwn anferth sydd ganddi hi a'i theulu - ffortiwn sydd wedi ei adeiladu ar freintiau mae ei chyn dadau wedi eu cael neu wedi eu cymryd yn y gorffennol.
Fel mae'n digwydd mae fy mam a fy mam yng nghyfraith wedi eu geni yn yr un blwyddyn a Mrs Windsor - y naill yng Ngogledd Orllewin y wlad, a'r llall yn y De Ddwyrain. Mae'r ddwy wedi byw eu bywydau yma, maen nhw wedi magu eu plant yma, maen nhw wedi gweithio yma, maen nhw wedi chwarae rhan llawn yn eu cymunedau. Mae yna filoedd lawer o bobl tebyg iddyn nhw.
Mi fyddai dyn yn disgwyl y byddai arweinydd y Blaid Lafur Gymreig eisiau diolch i Gymry o'u cenhedlaeth nhw. Mae'r ffaith ei fod yn fwy cyfforddus o lawer yn llyfu a llempian wrth draed aristocratiaid tramor yn dweud y cwbl sydd angen ei ddweud am natur y Blaid Lafur Gymreig.
Diolch am y blog... ond beth ddiawl yw'r llun yna?
ReplyDeleteMrs Windsor yn lladd deryn efo ffon.
ReplyDeleteFaint o Feiri y dref Frenhinol sydd wedi gwrthod freebee i de parti'r frenhines tybed?
ReplyDeleteDisgwyl gwell gan Carwyn wrth gwrs, ond a chofio real politik a fod LLywelyn ei hun wedi talu gwrogaeth i frenin lloegr pan oedd angen, fedrai ddim peidio a theimlo rhyw frisson pan fod llywodraeth etholedig Cymru yn danfon cyfarchion gwladweinyddol i ffigyrau cyhoeddus gwledydd eraill. Wedi'r cyfan, petaen ni'n annibynnol, dyma'r union fath o rybbish fyddai disgwyl i brifwenidog Cymru orfod ei ddanfon allan i arweinwyr eraill Prydain fel rhan o swyddogaeth anffodus gwleidydd cyfrifol.
ReplyDeleteAr wahan i ddwli "disgwyl gwell" gan Carwyn mae Brwynen yn deall natur gwleidyddiaeth a gwladweiniaeth. Mae rhagrith - dan enw protocol - yn dod efo'r diriogaeth yn ymwneud gwladwriaethau rhydd a chyfartal a'i gilydd. Er nad ydym eto'n rhydd, cafwyd enillion mawr yn y degawd diwethaf. Pris bychan i'w dalu ar ein siwrnai tuag at annibyniaeth yw gorfod ystrydebu geiriau gweigion o gyfarchiad. Gresyn nad yw arweinydd y Blaid yn gwerthfawrogi hynny.
ReplyDeleteSylwadau arbennig o dda. Tybed sut mae Mrs Carwyn yn teimlo, a hithau yn dod o deulu gweriniaethol Belfast.
ReplyDeleteTybiaf y buasai wedi hen ddiarddel a gwadu unrhyw egwyddorion gwladgarol a
ReplyDeletegwrthryfelol pan y priododd hi Carwyn Jones.