Mi fydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr y blog yma efo'r hawl i bleidleisio yr wythnos nesaf, ond bydd yn agos i 140,000 o bleidleiswyr yn colli cyfle i wneud hynny - y sawl sy'n byw mewn wardiau lle mae'r cynghorydd wedi ei ddychwelyd yn ddi wrthwynebiad.
Mae yna 96 o wardiau heb eu cystadlu yng Nghymru - felly mae 58,024 o etholwyr Gogledd Cymru a 55,160 o bleidleiswyr yng Nghanol a Gorllewin Cymru ddim am gael dewis i ethol eu cynghorydd. Mae 23 o 73 sedd Powys (31.5%) heb eu llenwi a 20 o 74 sedd Gwynedd (27%).
Rwan, beth bynnag ein barn wleidyddol, os ydym yn credu mewn democratiaeth iach siawns y gallwn gytuno nad ydi'r sefyllfa yna yn un boddhaol. Mae yna ddwy ffordd o fynd i'r afael a hyn - lleihau'r nifer o gynghorwyr, neu newid y gyfundrefn bleidleisio. Mae'r blog yma wedi argymell defnyddio dull STV efo wardiau aml aelod. Dyma'r dull a ddefnyddir mewn etholiadau lleol yn yr Alban, ym mhob etholiad yng Ngweriniaeth Iwerddon, ac ym mhob etholiad ag eithrio un San Steffan yng Ngogledd Iwerddon. Mae'n ddull cymharol gyfrannol sydd hefyd yn cadw cysylltiad rhwng aelod ac ardal benodedig. Mae hefyd yn dileu'r diffyg democrataidd a geir yng Nghymru.
Gellir cael manylion llawnam y diffyg democratiaeth yng Nghymru yma gan Gymdeithas Newid Etholiadol Cymru.
Da gallu dweud bod pob ward yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei gystadlu eleni. Bydd rhaid i un o'r Annibendods gystadlu am ei sedd am y tro cynta ers yr wythdegau - mae'r un hen foi yn aelod o'r Bwrdd Gweithredol ers blynydde mawr hefyd - heb i unrhywun bleidleisio drosto.
ReplyDeleteDyna ddemocratiaeth i chi!
Y cynghorydd Wyn Evans, yn Ward Llanddarog, sydd dan sylw gan Cneifiwr. Ward fy magwraeth. Pentrefi Llanddarog, Porth-y-rhyd a Llanarthne.
ReplyDeleteRwy'n nabod Wyn. Gwr digon dymunol, ac mae'n wr poblogaidd iawn yn y ward - yn ffrindie mawr gyda phob carfan, gan gynnwys pleidleiswyr naturiol 'parchus' Plaid Cymru ar y naill law a'r rhai sy'n mynd am beint neu bedwar i'r Prince bob prynhawn yn eu sgidie gwaith ar y llaw arall, ac mae'n arddel perthynas gyda thros hanner trigolion y ward, rwy'n siwr (teulu fy mam yn gynwysedig)!
Ond mae'n hen, hen bryd iddo orfod cystadlu am ei sedd, yn enwedig ag yntau wedi bod yn helpu i gadw Meryl yn ei lle am cyhyd.
Rwy'n cael y teimlad bod y Blaid wedi bod yn aros ac aros iddo ymddeol, gan feddwl y gallai wneud fwy o ddrwg nag o les i'r Blaid yn lleol wrth sefyll yn ei erbyn. Ond ac yntau dros ei 70 oed ac yn sefyll eto, rwy'n falch iawn gweld bod y Blaid yn cynnig ymgeisydd eleni.
Iwan Rhys