Sunday, April 22, 2012

Pregeth am ddewrder gwleidyddol o gyfeiriad anisgwyl

Paul Williams, y Tori o Fon sydd wrthi yn pregethu am ddewrder gwleidyddol ar ei flog. Ei gwyn ydi nad ydi arweinydd newydd y Blaid, Leanne Wood wedi bod efo digon i'w ddweud am y datblygiadau diweddar yn hanes hir a chymhleth Wylfa B.

Hwn ydi'r un Paul Williams nad oedd yn fodlon cyfaddef ei fod yn Dori nes i'r Toriaid ei ddewis i sefyll trostynt yn etholiadau'r Cynulliad y llynedd. Ei modus operandi cyn hynny oedd cynhyrchu naratif Toriaidd, argymell i bobl bleidleisio i gwahanol Doriaid a beirniadu'r sawl nad ydynt yn Doriaid, tra' grwgnach yn flin nad Tori mohono pob tro roedd rhywun yn awgrymu hynny.

Mae'n anodd meddwl am well esiampl o lyfdra gwleidyddol nag anfodlonrwydd i gyfaddef teyrngarwch gwleidyddol.

1 comment:

  1. Anonymous10:00 am

    Yn anffodus, mae ganddo bwynt!
    Mae'r busnes Wylfa B, yn mater WMD i'r Blaid - os ydy Leanne (ag yn fy marn mae hi yn anghywir) yn erbyn Wylfa B... pam nath hi ddim mynd ar y newyddion a 'croesawu' bod Horizon yn tynnu allan?

    ReplyDelete