Friday, February 24, 2012

Pam bod fy mhleidlais gyntaf yn mynd i Leanne

I Leanne y bydd fy mhleidlais gyntaf yn mynd, bydd yr ail yn mynd i Elin a'r drydydd i Dafydd. 'Dwi'n gobeithio y bydd y sawl yn eich plith sydd efo'r hawl i bleidleisio yn gwneud yr un peth.



Cyn egluro pam, hoffwn roi ambell i fater yn ei wely. Mae'r tri ymgeisydd gyda'u cryfderau, a byddai pob un o'r tri yn arwain y Blaid yn y Cynulliad i safon sydd o leiaf cystal a'r hyn a geir gan arweinwyr y pleidiau unoliaethol. Mae'n fater o ofid i mi bod rhai pleidwyr wedi awgrymu i'r gwrthwyneb, a bod peth drwgdeimlad personol wedi ymddangos ymhlith rhai o gefnogwyr yr ymgeiswyr. Mi fydd rhaid i ni i gyd dynnu efo'n gilydd o dan un arweinydd ar ol Mawrth 15 - cystal i ni gofio hynny rwan.

O ran yr hystings - neu rhai Caernarfon o leiaf - perfformiodd y tri yn dda. Petai rhaid i mi wahaniaethu byddwn yn dweud bod gwell gafael gan Elin a Dafydd ar fanylion wrth ateb y cwestiynau, ond bod araith Leanne yn well i'r graddau ei bod yn fwy teimladwy, a bod ymdeimlad mwy angerddol iddi oherwydd hynny.

Am resymau sy'n ymwneud a lleoliad gwleidyddol y Blaid a'r cyfeiriad mae'n rhaid iddi symud 'dwi wedi gwneud fy newis.

Fydd o ddim o syndod i ddarllenwyr rheolaidd y blog hwn mai Dafydd fydd yn cael y drydydd bleidlais gen i. 'Does gen i ddim oll yn erbyn Dafydd yn bersonol - a dweud y gwir 'dwi'n ddigon hoff ohono, ond mae gen i ofn ei fod yn cynrychioli rhai o'r elfennau hynny sydd bellach yn dal y Blaid yn ol. Yn y gorffennol pan mai datganoli oedd nod tymor byr y Blaid, roedd dyn yn gallu gweld pam roedd yn dderbyniol i fod ychydig yn amwys ynglyn ag annibyniaeth a gwerthoedd creiddiol cenedlaetholdeb. Annibyniaeth oedd y bwgan mawr a ddefnyddid gan wrth ddatganolwyr i golbio datganoli. Mae'r tirwedd gwleidyddol yng Nghymru bellach wedi ei drawsnewid, mae'r pleidiau unoliaethol bellach yn ddatganolwyr, ac mae nhw i gyd wedi mynd yn fwy cenedlaetholgar. 'Dydi'r Blaid ddim wedi addasu yn yr un ffordd, ac o ganlyniad mae wedi colli llawer o'i heglurder ac mae ei phroffeil wedi cymylu a phylu.

Yr unig ffordd y gall y Blaid symud bellach ydi tuag at genedlaetholdeb cliriach, di amwys a di ymddiheuriad. Yn anffodus mae Dafydd yn cynrychioli'r genedlaetholdeb nuenced oedd efo'i defnydd yn y gorffennol, ond sydd bellach yn llesteirio'r Blaid. Nid mater o oed ydi'r peth o gwbl - mater o ymagweddau gwaelodol. Fel 'dwi'n 'sgwennu'r darn yma mae gan Dafydd eirda gan Gwilym Owen ar ei wefan yn ei ganmol am ei wrthwynebiad i annibyniaeth - ac hynny er ei fod bellach yn portreadu ei hun fel cefnogwr brwd i'r cysyniad hwnnw. Byddai geirda o'r fath yn codi cyfog ar wir genedlaetholwr.

Mae gwleidyddiaeth sylfaenol Elin fwy neu lai ymhle y dylai fod o safbwynt lleoli'r Blaid yn briodol. Problem Elin yn anffodus ydi ei delwedd gyhoeddus. Mae yna ganfyddiad - rhagfarn hyd yn oed - tros lawer o Gymru mai rhywbeth egsotig, gorllewinol sy'n rhywbeth i'w wneud efo ffarmio a sydd ar gyfer Cymry Cymraeg ydi'r Blaid. Mae'n ddelwedd sobor o anheg, ond mae'n un sy'n anodd iawn i'w symud. Gwaetha'r modd mae Elin yn ymgorfforiad o'r ddelwedd yma. Mae'n ddigon posibl y gallai newid hynny, ond mae'r ffaith iddi fynegi gobaith y bydd Simon Thomas - gwleidydd arall sy'n cael ei gysylltu efo Ceredigion ym meddyliau'r rhan fwyaf ohonom - yn ddirprwy, yn awgrymu nad ydi hi hyd yn oed yn gweld bod yna broblem. Mi fyddai Elin yn ein gosod ar y man cywir ar y tirwedd gwleidyddol, ond byddai yn minimeiddio'r nifer o bobl fyddai eisiau dod efo ni i'r fan honno.

A daw hyn a ni at Leanne. 'Dwi'n derbyn y byddai yna risg o'i dewis - mae ganddi lai o brofiad o lawer na'r ddau arall. Ond i mi mae'r risg yn llawer is na fyddai dewis arweinydd sydd am ein clymu i amwysterau a chyfaddawdu syniadaethol y gorffennol, neu ddewis un sydd ddim am apelio at drwch poblogaeth y wlad. Mae Leanne yn genedlaetholwraig di gyfaddawd, ac mae llawer o'r brwdfrydedd (a'r aelodau newydd) sydd wedi ymddangos yn ddiweddar i gymryd lle'r iselder a ddilynodd etholiadau'r Cynulliad, yn ganlyniad i ymgeisyddiaeth Leanne.

Canlyniad ydi'r brwdfrydedd hwnnw i ganfyddiad - ymwybodol neu is ymwybodol - bod yr amser wedi dod i'r Blaid dorri'n glir oddi wrth y gorffennol agos ac agor pennod cwbl newydd. Mae'r ffaith bod Leanne yn berson sy'n gallu ysbrydoli a sydd yn debygol o apelio at amrediad eang o bobl yng Nghymru yn rhoi cyfle arbennig i agor y bennod honno gyda phob gobaith y byddwn yn cyrraedd ei diwedd - fel plaid a gwlad - mewn lle llawer gwell nag yr ydym ynddo ar hyn o bryd.

Dyna pam y byddaf i yn rhoi fy mhleidlais gyntaf i Leanne - a dyna pam rwyf yn mawr obeithio y gwnewch chithau hefyd.

Ymlaen!

37 comments:

maen_tramgwydd said...

Yn cytuno efo'r dadansoddiad.

Fe fydd fy mhleidlais gynta i yn mynd i Leanne hefyd.

Dylan said...

Be alla'i ddeud? Dw i'n cytuno efo pob un dim 100%.

Dw i'n eithaf siomedig efo sylwadau Adam Price heddiw a dweud y gwir, a dw i'n falch felly bod Leanne wedi ymbellhau oddi wrthynt.

Ar y pwynt yna, ydw i'n iawn i ddweud mai dim ond ail bleidleisiau cefnogwyr yr ymgeisydd olaf sy'n cael eu cyfri wedi'r rownd gyntaf? Hynny yw, os nad oes unrhyw un yn cael mwyafrif o'r pleidleisiau cyntaf (a go brin y digwydd hynny), a yw'r un sy'n drydydd yn cael ei "gnocio allan" ac ail bleidleisiau cenfnogwyr yr ymgeisydd yna'n unig yn cael eu hail-ddosbarthu? Wedi dechrau amau fy hun heddiw! Mae tudalen FAQ y Blaid braidd yn amwys.

Dylan said...

Hynny yw, gan mai DET fydd yn drydydd dim ond ail bleidleisiau ei gefnogwyr o fydd yn berthnasol. Dw i'n iawn dydw?

Anonymous said...

Ffordd od o ddewis pwy i'w roi gyntaf - creu rhestr o resymau yn erbyn, a gweld pwy sydd ar ol?

Dylai arweinydd newydd ddim tanio'r dychymyg a dod i ben rhestr beth bynnag yw cryfderau neu wendidau'r gweddill?

Anonymous said...

Newyddion gwych, BlogMenai!

Fel yna y byddaf innau'n pleidleisio hefyd:

1 - Leanne Wood
2 - Elin Jones

Dylan - fel yna dwi'n deall y system bleidleisio.

Ymlaen.

Iwan Rhys

Anonymous said...

"... a bod peth drwgdeimlad personol wedi ymddangos ymhlith rhai o gefnogwyr yr ymgeiswyr."

Rhaid i fi ddweud mod i wedi cael llond bol o attack blog hunan-bwysig 'Syniadau'.

Anonymous said...

Cytuno 97% a'r blog.
Yr un peth sy'n fy mhoeni i am LW yw bod hi ddim (wrth siarad o leiaf) hefo tan yn ei bol... ac felly mae hyn anodd iawn i ysbrydoli rywun.

Hwn yw'r UNIG peth sy'n fy mhoeni am Leanne. Ond gyda ychydig o waith gan rywun o ryw cwmni PR - dwi'n siwr y bydd hyn yn cael ei ateb. Yna, fe fyddwn ni hefo arweinydd werth ei chael.

I mi, Leanne fydd rhif un. Mi oedd Elin am fod yn rhif 2 - ond roedd rhaid i mi ofyn i fi fy hyn "ydw i eisiau Elin fel arweinydd" ac dwin gweld hi'n anodd iawn deud "ydw". Efallai neith hyn newid pan mae'r taflen yn cyrraedd y blwch post.

pry pren said...

Dwi dal ddim yn siwr pwy i bledleisio drosto

Nid Dafydd am y rhesymau mae Blogmenai'n nodi. Leanne neu Elin....pam mod i'n poeni gymaint tybed. oes rhaid bwrw ail/drydydd pleidlais, ydi'r papur wedi ei sbwylio os mai dimond un pleidlais sydd arna fo

Anonymous said...

Leanne yn sicr fydd fy rhif un.

Cyn iddi gytuno i gael Simon Thomas fel ei Dirprwy, Elin oedd am gael fy rhif 2. Bellach y mwyaf dwi'n ddarllen o Tweets hunan-bwysig ac ymosodol Simon Thomas, a Tweets "ni wyr orau" rhai o brif gefnogwyr Elin, y lleiaf tebygol yr wyf o roi fy ail mhleidlais iddi.

Un o Eryri said...

Nid yn aml 'rwyf yn anghytuno gyda awdur y Blog yma, ond mae'n braf cael gwneud hynny ambell waith. Byddaf yn pleidleisio fel a ganlyn 1. Dafydd 2. Elin 3. Leanne
Mewn ymated i dy baragraff cyntaf 'rwyf wedi dweud wrth Elin a Leanne, os buasai nhw yn ennill buaswn yn rhoi fy nghefnogaeth iddynt 100%, a trist iawn yw gweld rhai o gefnogwyr Leanne yn dweud y byddent yn rhoi gorau i'r Blaid os buasai Dafydd yn ennill. I mi mae hynny ynddo'i hunan yn codi marc cwestiwn ynglyn a'r math o gefnogwyr mae Leanne yn denu.
'Rwyf yn falch dy fod yn cytuno nad oedd gan Leanne llawer o afael ar atebion y cwestiynau yn yr Hystings yng Nghaernarfon, er bod mwyafrif y cwestiynau wedi eu hanelu yn erbyn Dafydd, ef ddaeth drosodd yn glir fel y person oedd a'r gallu i ddelio a cwestiynau anodd. Mae hwn wrth gwrs yn un o'r prif ddoniau dylsai fod gan unrhyw Arweinydd Plaid gwleidyddol. (Efallai yn y dyfodol bydd Leanne yn gallu delio gyda hyn, ond yn anffodus iddi hi nawr mae'r etholiad am arweinydd)
Mae cryfder Dafydd yn yr hyn mae wedi ei gyflawni a'r hyn y gall ei gyflawni tros Gymru yn y blynyddoedd i ddod. Buaswn yn bersonol wrth fy modd os buasai Cymru yn cael Hunan Lywodraeth (hwn oedd y term pan ymunais i a'r Blaid yn ol yn 1974 ac yn bersonol mae llawer gwell gennyf y term yma ond 'rwyf yn fodlon derbyn y term Anibynniaeth yn Ewrop) yfory nesaf, a roeddwn innau o'r farn am flynyddoedd mai felly y buasai pethau yn gweithio petai Plaid Cymru yn cael mwyafrif o seddi San Steffan. Ond realiti bywyd yw nad felly mae pethau yn gweithio. Mae'r SNP yn yr Alban yn brawf o hynny. Er iddynt fod yn brif Blaid yn Senedd yr Alban yn 2007 a gyda mwyafrif clir yn y Senedd presennol, nid ycynt wedi gallu cael yr Anibynniaeth maent yn son amdano. Yr hyn maent wedi llwyddo i'w wneud wrth gwrs yw sicrhau Refferendwm ar y mater, a d'oes neb yn gobeithio yn fwy na fi y byddent yn llwyddianus yn y Refferendwm. OND a mae hwn yn OND mawr, os ydynt yn methu bydd yr achos dros ragor o rym i'r Alban yn mynd o'r neilltu am o leiaf cenhedlaeth. Buasai yr SNP mewn peryg o golli pob hygrededd yn yr Alban. 'Rwyf yn pwysleisio unwaith eto rhag ofn i rai fy nghamddeall mai gobeithio am ganlyniad positif yno yr ydwyf, a dwi'n sicr o fynd draw draw yno i helpu gyda canfasio.
Mae Dafydd yn gallu gweld y peryglon, a thrwy weithredu dros y Blaid fel Arweinydd fel ac y gwnaeth dros Gymru fel Llywydd y Senedd, 'rwyf yn bendant y gallwn ni fel gwlad gyrraedd y nod holl bwysig o fod yn wlad gyflawn yn y byd sydd ohoni. O weiddi o'r cyrion ni allaf weld hynny yn digwydd byth.

Anonymous said...

Dwi'n synnu clywed fod Leanne wedi perfformio yn wan yn yr hustings yng Nghaernarfon - wedi dweud hynny tybed sut y daeth y ddau arall drosodd yn yr hustings yn y de?

Un o'r rhesymau rwyf yn bwriadu cefnogi Leanne Wood yw gan ei bod wedi perfformio llawer gwell ar Question Time nag a wnaeth Elin Jones yn ddiweddar.

Anonymous said...

Un o Eryri: "Er iddynt fod yn brif Blaid yn Senedd yr Alban yn 2007 a gyda mwyafrif clir yn y Senedd presennol, nid ycynt wedi gallu cael yr Anibynniaeth maent yn son amdano. Yr hyn maent wedi llwyddo i'w wneud wrth gwrs yw sicrhau Refferendwm ar y mater, a d'oes neb yn gobeithio yn fwy na fi y byddent yn llwyddianus yn y Refferendwm."

Wel, wrth gwrs, sut arall byddet ti'n disgwyl iddyn nhw fynd o gwmpas cael annibyniaeth ond drwy gynnal refferendwm ar ol cael mandad i'w gynnal?!

Un o Eryri: "OND a mae hwn yn OND mawr, os ydynt yn methu bydd yr achos dros ragor o rym i'r Alban yn mynd o'r neilltu am o leiaf cenhedlaeth. Buasai yr SNP mewn peryg o golli pob hygrededd yn yr Alban. "

Dwi'n anghytuno â'th ddadansoddiad. Yn wir, yn gwbl i'r gwrthwyneb. Drwy anelu mor uchel â cheisio mwyafrif, ac wedyn anelu'n uwch a chael mwyafrif clir, gan osod refferendwm ar annibyniaeth ar yr agenda, mae'r SNP bellach wrthi'n gwireddu'r weledigaeth.

A hyd yn oed pe collir y refferendwm, fe fydd hi wedi bod yn agos iawn, ac o fewn ychydig flynyddoedd bydd gan yr Alban rymoedd tebyg i'r hyn sydd dan sylw nawr yn 'DevoMax'.

Wrth anelu at lefel 4, byddi di'n lwcus i gyrraedd lefel 2. Ond wrth anelu at lefel 8, mae lefel 5 yn ddigon posib.

Iwan Rhys

Cai Larsen said...

Mae,n hwyr a does gen i ddim amser i ymateb i bob dim. Ond Dylan ti'n iawn mai ond os ydi DET yn drydydd y bydd ei ail bleidleisiau yn cael eu cyfri.

Gwynfor - wnes i ddim dweud nad oedd gan Leanne afael ar ei hatebion - son am fanylder oeddwn i. Dydi'r ddau ddim yr un peth.

Pry pren - dydi peidio a mynd 1,2,3 ddim yn difetha'r bleidlais, ond dwyt ti ddim yn niweidio dy ddewis cyntaf trwy roi ail a thrydydd pleidlais.

Anon 10.22 - mi berfformiodd Leanne yn gryf yng Nghaernarfon.

Anonymous said...

Un o Eryri:

Dw i'n cytuno efo awdur y blog. Fe aiff fy mhleidlais cyntaf i Leanne. Mae'n bosib y byddaf yn rhoi yr ail i Elin. Ni gaiff Dafydd fy nghefnogaeth o gwbl.

Yn bendant byddaf yn ymadael a'r Blaid am nifer o resymau os caiff ei ethol. Mi fuaswn yn gwneud hynny pwy bynnag fuasai'n sefyll, neu os buasai dim ond ef yn sefyll.

Nid yw fy mhenderfyniad yn adlewyrchu ar Leanne mewn unrhyw ffordd. Mae hi wedi rhedeg ymdrech deg ac yn haeddu fy nghefnogaeth. Mae'n hollol annheg ac yn anghywir i wneud y cyhuddiad yna. Does dim sail iddo. Dyliwch ei atal.

Ni welaf ddyfodol etholiadol i Blaid Cymru os yw mwyafrif o'r aelodau yn barnu mai Dafydd ddylid eu harwain. Mae gen i bethau gwell i wneud efo'r ychydig flynyddoedd sydd gennyf ar ol na gwastraffu amser ac egni ar fudiad heb ddyfodol.

Mae Cai yn llygad ei le i ddweud bod rhaid i ni anelu'n uchel er mwyn llwyddo fel cenedl.

Uchelgais Dafydd yw bod rhyw fath o gi bach y Blaid Lafur.

Aled GJ said...

Cytuno hefo'r dadansoddiad hwn.

O ran ymyrraeth Adam Price yn hyn oll, doedd dim angen bod cweit mor ddeifiol am Elin sydd wedi rhedeg ymgyrch gref dros annibyniaeth o'r canol.

Wedi dweud hynny, mae AP yn iawn bod angen targedu ail-bleidleisiau DET os am sicrhau bod Leanne yn ennill. Yn bersonol, dwi'n meddwl ei bod hi'n ddigon posib y bydd carfan o'r rhain yn meddwl" wnawn ni chwarae'n saff hefo'n pleidlais gyntaf ond mi fedran ni fod yn fwy anturus hefo'n hail bleidlais". Os oes unrhyw fath o "rapprochement" i'w weld ar waith rhwng AP a DET, pa mor bynnag ryfedd y mae hynny'n ymddangos ar yr wyneb, gallai hynny annog mwy o'r ysbryd anturus hwnnw.

Dwi'n ryw feddwl y bydd yr Arg yn cael 25% ar y bleidlais gyntaf, felly bydd angen i Leanne gael o leiaf hanner y rheini ar yr ail ddewis. Mae yna lot yn dibynnu ar sut y bydd pethau'n datblygu dros yr wythnos nesaf mi greda'i.

Anonymous said...

Er gwaethaf radicaliaeth Leanne a'r ffresni sydd wedi dod gyda'i hymgyrch fe brofodd hystings C'narfon ei bod yn llawer rhy fuan i'w hystyried fel arweinydd Plaid a darpar arweinydd Cymru. Ond mae rhywbeth arall yn fy mhryderi: cofiaf un aelod o'r Blaid yn dweud mewn cynhadledd un tro, os nad ydych yn mynd i gefnogi'r cynnig hwn yna byddaf yn gadael y Blaid. Ac mae rhyw flas felly ar synnau cefnogwyr Leanne dwi'n ofni. Un Blaid, Un Gymru, Un achos.

Anonymous said...

Ar ran EJ neu DET da chi'n spinio felly 12:38? Dwi'n aelod o'r Blaid ym Meirionnydd Dwyfor ers dros 20 mlynedd, dwi'n fotio i LW a dwi ddim yn mynd i unrhyw le!

Anonymous said...

Di Enw 12:59

Ie, mae ganddi ffresni.

Mae DET wedi bod yn ffigwr blaenllaw yn y Blaid am flynyddoedd lawer ac yn ei harwain am gyfnod yn yr wythdegau.

Ni llwyddodd i adfer y Blaid pryd hynny, ac ni wnaiff yn awr yn fy nhyb i.

D'oeddwn i ddim yna ar y noson, ond yng ngeiriau awdur y Blog yma, "mi berfformiodd Leanne yn gryf yng Nghaernarfon."

Pan glywais hi yn un o'r cyfarfodydd eraill, roeddwn o'r un farn - fe wnaeth yn dda.

Dw'i ddim yn dweud y byddaf yn gadael y Blaid os na etholir Leanne, ond y gwrthwyneb, os caiff Dafydd ei ethol. Credaf mai gwastraff amser ac egni fydd cefnogi y Blaid dan ei arweiniad. Dwi'n mynd yn rhy hen i wneud hynny. Fy mhenderfyniad personol yw hwn, ac nid wyf am argyhoeddi neb arall i wneud yr un peth.

Dwi'n eitha parod i dderbyn Elin fel arweinydd, hyd yn oed os nad ydw i'n credu mai hi yw y gorau.

Anonymous said...

Wy'n ddigon henffasiwn i gredu y dylai Plaid Cymru gael ei harwain gan genedlaetholwr/wraig Cymreig. Mae'n arwydd o mor bell y mae'r blaid wedi symud nad oes ond un person yn y drafodaeth yma yn ystyried pleidleisio dros Elin Jones, yr unig genedlaetholwr(aig)(Cymreig) yn y ras

Anonymous said...

Di-enw 3:05

Wyt ti'n credu mai dim ond Cymru Cymraeg sy'n perthyn i'n cenedl?

Plaid genedlaethol yw Plaid Cymru - yn agored i bob unigolyn sydd yn byw yn ein gwlad, pa bynnag iaith neu ieithoedd maent yn gallu siarad.

Gobeithiaf na fydd mwyafrif yr aelodau yn teimlo mor 'hen ffasiwn'.

Anonymous said...

"Wyt ti'n credu mai dim ond Cymru Cymraeg sy'n perthyn i'n cenedl?"

Soniais i ddim byd am Gymry Cymraeg. Pam na wnewch chi ddarllen yr hyn ysgrifenais i cyn traethu?

Anonymous said...

Roeddwn i wirioneddol yn bwriadu rhoi fy ail bleidlais i DET ond, unwaith eto, mae o'n dweud pethau gwyrion am y frenhiniaeth ar Twitter - mae'r boi yn benderfynol o weindio aelodau'r blaid i fynny am laff Wel dyna hi rwan. Twat.

Anonymous said...

Dienw 3:05pm a 6:38pm, mae Leanne yn bendant yn genedlaetholwraig Gymreig. Pam wyt ti'n awgrymu nad yw hi?

Iwan Rhys

O.N. A allai'r holl bobl ddi-enw naill ai ddefnyddio eu henw go iawn neu ddewis ffug-enw, os gwelwch yn dda? Mae'n gwneud cyfeirio at sylwadau penodol yn llawer haws, ac yn osgoi drysu rhwng un person di-enw a'r llall.

Dylan said...

Dw i'n rhoi fy ail bleidlais yn ddigon bodlon i Elin Jones. Er mai Leanne yw fy ffefryn, byddai Elin yn ddigon derbyniol. Ond er nad oes unrhyw ots ymarferol, gadael blwch DET yn wag fydda i o ran egwyddor.

Mae DET fel petai'n mwynhau mynd yn groes i gyfansoddiad y Blaid pob cyfle, ac am y rheswm yna byddai ei weld yn arweinydd eto'n drychineb a'n gam anferth yn ôl. Er fy mod yn edmygu llawer o'r hyn y mae DET wedi'i gyflawni yn ei yrfa, nid oes gen i unrhyw awydd o gwbl ei weld yn arwain fy mhlaid.

Anonymous said...

Cyd fynd yn hollol gyda Cai.Pleidlais cyntaf i Leanne, yr ail i Elin ac efallai roi dri ar un DET.Roeddwn yn yr hystings yng Nghaernarfon ac roedd ei ymateb i'r cwestiwn ar addysg yn warthus.Allwch chi ddim cymharu Ysgol Llawrybetws gyda Ysgol yr Hendre.Ysgolion bach yw magwrfa'r iaith ac mae'n rhaid eu cadw yn agored doed a ddel.Ydy o wedi darllen Buchedd Garmon ysgwn i!!!Ymlaen gyda Leanne--croesi bysedd yn de!

Cai Larsen said...

Roedd y gymhariaeth rhwng Llawr y Betws a'r Hendre yn anffodus. Cau ei hun wnaeth Llawr y Betws wrth gwrs - ond arian cyfalaf (llawer ohono'n grant Cynulliad) adeiladodd ysgol newydd Yr Hendre. Arian refeniw a arbedwyd pan gauodd Llawr y Betws.

Anonymous said...

“@ElisThomasD: A bright spring day at Bangor Cathedral thanksgiving service for the Queen's diamond jubilee organised by Gwynedd Council”

Oes angen dweud mwy?

Anonymous said...

Anon 11:44 Nag oes.

Hogyn o Rachub said...

Dwi wedi bod i ddau hystings, ac wedi bod yn hollol feddwl agored o ran p'un a ddylwn i bleidleisio i Elin neu Leanne. Roedd pethau'n eithaf cyfartal ym Mhonty, ond roedd EJ ben ac ysgwydd uwch Leanne yng Nghaerdydd - wir-yr ben ac ysgwydd hefyd.

Dw i'n rhyw deimlo bod llawer iawn o bobl sy'n cefnogi LW yn blinkered i'w gwendidau hi. Doedd hi ddim yn dda yng Nghaerdydd ond roedd ei chefnogwyr yn mynnu ei bod hi. Dwi heb weld dim o gwbl i gyfiawnhau'r heip amdani.

Cofiwch dw i'n licio LW yn fawr iawn - ond dwi jyst ddim yn ei gweld hi fel arweinydd. Fydda i'n pleidleisio

1) Elin Jones
2) Leanne Wood

Anonymous said...

Cytuno'n aml efo BlogMenai ond nid y tro hwn.O leiaf mae ganddo'r gras i gydnabod y byddai ethol Leanne yn risg. Ond y gwir ydy y byddai ei hethol yn fwy na hynny.Slogannau nid sylwedd sydd ganddi.Dyna'r caswir. Mae'r ffaith bod meddyliwr fel Adam yn ei chefnogi yn awgrymu i mi bod ganddo ryw agenda gudd.Os ydi o eisiau cymryd rhan ystyrlon o hyd yn y Blaid,adra mae ei le fo.

Anonymous said...

DET newydd ddatgan ar Sianel62 ei fod am fwrw ei ail bleidlais i Leanne Wood. Leanne Wood am roi ei hail bleidlais i Elin Jones, ac Elin Jones ddim am roi ei hail bleidlais i neb.

Hmm.

David said...

Gwych o ddadansodiad eto. Yn bendant mae gyda ni dri ymgesiydd sy'n well nag unrhyw un sy gan yr unoliaethwyr i'w cynnig.

Y neges o hyn allan? Digon syml.
Leanne mewn: Carwyn mâs!

Anonymous said...

If you wish for to get a great deal from this article then you have to
apply these strategies to your won webpage.


My blog ... zetaclear nail fungus relief

Anonymous said...

This is really interesting, You're a very skilled blogger. I've
joined your rss feed and look forward to seeking more of your wonderful post.
Also, I have shared your website in my social networks!


My weblog - click through the up coming webpage
My webpage > hardwood floors

Anonymous said...

WOW just what I was looking for. Came here by searching for Fionan

My web-site - http://imonthefloor.webnode.com
Also see my website > http://floorsare.weebly.com/

Anonymous said...

I am really delighted to read this blog posts which contains
tons of useful information, thanks for providing these data.


Feel free to visit my site ... http://bookmark-aachen.de/preventative-cure-hair-loss

Anonymous said...

Thanks to my father who stated to me on the topic
of this blog, this web site is genuinely remarkable.


my webpage - zetaclear
Also see my page - zetaclear side effects