Saturday, December 31, 2011

Diolch _ _ _

_ _ _ i bawb fu mor garedig a galw draw i ddarllen Blogmenai yn ystod y flwyddyn. Gobeithio eich bod wedi cael rhywbeth o fod yma, a gobeithio nad ydw i wedi pechu gormod ohonoch.

Beth bynnag, dyma'r ffigyrau misol a chwarterol ar gyfer eleni ynghyd a'r ffigyrau blynyddol ers i mi ddechrau cyfri ymwelwyr rhywbryd tua diwedd 2008.







Friday, December 30, 2011

Llongyfarchiadau _ _ _

_ _ - i arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards - nid am dderbyn tocyn parcio yng ngorsaf Bangor - ond am wrthod ei dalu oherwydd ei fod yn y Saesneg yn unig, a thrwy hynny berswadio NCB i newid eu polisi a darparu tocynnau Cymraeg.  Gellir gweld y stori gyflawn yma.



Mae'r stori yn esiampl da o safiad personol yn arwain at welliant yn y ddarpariaeth Gymraeg.  Cyfres o safiadau - weithiau gan unigolion ac weithiau gan grwpiau o bobl - sydd wedi ennill y ddarpariaeth sydd gennym ar hyn o bryd.  Mae'n debyg mai safiadau tebyg fydd yn symud pethau yn eu blaen yn y dyfodol hefyd.

Y cecru rhwng Caerdydd a Llundain - bendith di gymysg

Calondid o'r eithaf ydi'r cecru parhaus rhwng llywodraethau Llundain a Chaerdydd.

Mae blogmenai wedi dadlau ers blynyddoedd bod datganoli yn broses sy'n debygol o arwain at annibyniaeth yn y pen draw.  Yr hyn sy'n ddiddorol ydi fel mae'r broses wedi cyflymu'n rhyfeddol ers i ni gael ein hunain mewn sefyllfa lle mae'r llywodraethau yng Nghaerdydd a Llundain o dan arweinyddiaeth pleidiau gwahanol.  Dyna i chi'r refferendwm, y Toriaid yn awgrymu y dylai Caerdydd gymryd peth o'r gyfrifoldeb am drethiant, Llafur yn son am ddatganoli pwerau trethiant ac rwan y ffrae bach ddigri yma am bolisi tramor.

Byddwn yn dadlau gyda llaw bod y llywodraeth Doriaidd yn Llundain yn arwain at yr un broses yn yr Alban, ond i raddau mwy.  Tybed pa ran a chwaraewyd gan ymadawiad Albanwyr adnabyddus iawn, megis  Brown a Darling, a'r llwyfan gwleidyddol Prydeinig a'r newid anferth yn y tirwedd gwleidyddol yn yr Alban ym mis Mai?

Thursday, December 29, 2011

Hywel Williams, y BBC a Capita

'Dwi ddim yn siwr os y dylai Hywel Williams ryfeddu na all neb - ac yn arbennig felly y BBC - ddweud faint o'r pres mae'r gorfforaeth yn ei godi yn flynyddol sy'n dod o'r drwydded deledu.

Mae'n wir bod y Bib yn talu £123.6 miliwn pob blwyddyn i  hel y ffi gorfodol, ond yn anffodus mae llawer o'r arian hwnnw  yn mynd i  goffrau Capita Group - neu Crapita Group - busnes sydd yn enwog am gael  dwsinau o gontractau gan y sector cyhoeddus a gwneud smonach llwyr o'u gweithredu.  Mae'r corff yma sydd a throsiant o tua £2.7 biliwn yn delio efo tua £3.3 biliwn o arian cyhoeddus i gyd.  Cyd ddigwyddiad llwyr wrth gwrs ydi'r ffaith bod Capita a pherthynas glos iawn efo llywodraeth Lafur Tony Blair, a hanes o roi benthyciadau anferth i'r blaid ar gyfraddau llog gostyngol, yn ogystal a phwmpio £4 miliwn i mewn i raglen academiau dinesig Blair.

Mae'r gyfundrefn addysg yn gyfarwydd iawn efo 'gwasanaethau' Capita.  Nhw oedd yn gyfrifol am roi gwyliau estynedig i ddegau o filoedd o blant trwy fethu a delio efo ceisiadau CRB yn ol yn 2002, eu system atal triwantiaeth nhw oedd yn gyfrifol am anfon llythyr at rieni hogan oedd wedi marw yn  bygwth  na chai fynd i'r prom blynyddol oni bai ei bod yn mynychu'r ysgol yn amlach,   nhw wnaeth 'uwchraddio' eu system Simms mewn modd oedd yn ei gwneud yn amhosibl i ysgolion adfer data roeddynt yn statudol gyfrifol am ei gyflwyno i'r llywodraeth  i enwi dim ond llond dwrn o'r llu o gamgymeriadau maent wedi bod yn gyfrifol amdanynt.  Gwnaeth eu  bos  - Paul Pindar gryn argraff yn y cyfryngau yn ddiweddar pan gafodd strop cyhoeddus ar ol cael ei alw'n fat cat ac yntau 'ond' yn ennill £14k yr wythnos.



'Dydi o ddim syndod o gwbl bod gan Capita enw drwg am  anfon llythyrau'n mynnu taliadau at bobl sydd eisoes wedi talu ac i dai nad oes ganddynt deledu, a 'dydi o ddim syndod chwaith nad oes ganddyn nhw syniad faint o bres maent yn ei hel yng Nghymru.

Perswadio llywodraethau a chyrff eraill i roi contractau iddynt ydi arbenigedd Capita - nid gweinyddu'r contractau hynny mewn modd effeithiol.

Wednesday, December 28, 2011

Blogiadau o'r gorffennol 1

'Dwi wedi bod yn rhyw chwarae efo'r syniad o ail gyhoeddi hen flogiadau o'r gorffennol yn achlysurol rwan bod yna swmp go helaeth yn archif blogmenai, ac mi hoffwn i gychwyn efo'r blogiad yma o 2009.

Mae'r blogiad yn ymwneud a sustem ethol aelodau'r Cynulliad ac yn dadlau tros drefn STV gyda'r siroedd fel unedau etholaethol.  Mae ail gyhoeddi'r  blogiad yn amserol oherwydd bod trafodaeth ar y mater ar hyn o bryd gyda Llafur yn awgrymu trefn FPTP fyddai'n sicrhau eu bod nhw'n ennill etholiadau gyda llai na thraean o'r bleidlais, a'r Toriaid o blaid ehangu'r gyfundrefn rhestrau cyfangwbl ddiffygiol a llwgr sydd gennym ar hyn o bryd.  Am rhyw reswm mae'r Blaid yn gogwyddo tuag at awgrym y Toriaid, er mai STV ydi eu polisi swyddogol (os 'dwi'n deall yn iawn).

Yn nhudalen sylwadau fy mlogiad diwethaf dywed Aled - Yn bersonol, mi hoffwn i weld Cymru yn arwain y blaen hefo hyn a chyflwyno system bleidleisio STV. Byddai hyn yn rhoi mwy o rym a mwy o ddewis i etholwyr wrth ethol eu cynrychiolwyr gwleidyddol, ac fe allai annog mwy o ymgeiswyr annibynnol i sefyll fyddai hefyd yn llesol i ddatblygiad democratiaeth yng Nghymru.

Ag anghofio am ennyd na fyddai Cymru ar y blaen - defnyddir STV (neu STV gydag etholaethau aml sedd i fod yn fanwl) ym mhob etholiad ag eithrio etholiadau San Steffan yng Ngogledd Iwerddon, ac mewn etholiadau lleol yn yr Alban, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno.
Wna i ddim egluro'r dull yn y blogiad hwn - os oes gennych ddiddordeb gallwch ddarllen amdano yma.
Mi fyddwn serch hynny yn nodi bod i'r dull yma o bleidleisio sawl mantais - rhestraf rai isod:
(1) Mae'n fwy cyfrannol na First Past The Post (FPTP).(2) Mae'n rhoi mwy o rym i'r etholwyr a llai i beiriannau pleidiol.(3) Nid oes unrhyw bleidlais yn cael ei gwastraffu - os nad ydi'r person mae rhywun yn rhoi ei bleidlais gyntaf iddo / iddi, gall yr ail, trydydd neu bedwaredd dewis helpu i ethol rhywun.(4) Nid oes yna etholaethau sydd ond yn cael eu cynrychioli gan un blaid am cyhyd a chanrif.(5) Mae'n caniatau i bleidiau llai gystadlu am seddi a chael bod yn rhan o lywodraethau.(6) Mae'n gorfodi cynrychiolwyr etholedig i weithio'n galed.(7) Mae'n cynnal, ac yn wir yn atgyfnerthu'r cysylltiad rhwng aelodau etholedig ag etholaethau penodol.(8) Mae diwrnod y cyfri yn hwyl i bawb ond yr ymgeiswyr.

Y ffordd y byddwn yn gwneud hyn ar lefel Cymru gyfan fyddai trwy ddiddymu'r etholaethau presennol a gwneud pob sir yn etholaeth seneddol, a dosbarthu seddi yn ol poblogaeth y siroedd hynny. Er enghraifft gellid rhoi un sedd ar gyfer pob 50,000 o bobl sy'n byw mewn sir, ac un arall ar ben hynny i pob sir. Byddai hyn yn rhoi tair sedd i Wynedd, dwy i Fon ac efallai 7 i Gaerdydd. Mi fyddai gan o leiaf dwy o'r pleidiau gynrychiolaeth ym Mon a Gwynedd, ac mae'n debyg y byddai pob un o'r prif bleidiau gyda chynrychiolaeth yng Nghaerdydd.
Byddai hyn yn golygu cynnydd yn y nifer o ASau Cymreig - i tua 82 (o 60), ond mae'n debyg y bydd hyn yn digwydd beth bynnag os enillir refferendwm y flwyddyn nesaf.
Oes yna unrhyw un efo dadl yn erbyn?

Tuesday, December 27, 2011

Slovenia, Cymru a llwyddiant economaidd

Mae'n werth ymweld a'r blog Syniadau (unwaith eto) i weld blogiad sy'n cymharu perfformiad economaidd Cymru a gwlad digon tebyg iddi o ran maint a phoblogaeth - Slovenia.

Y gwahaniaeth rhwng y ddwy wlad wrth gwrs ydi bod Slovenia yn annibynnol tra bod Cymru yn rhan o endid llawer mwy, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn eu  perfformiadau economaidd cymharol.  Mae Slovenia yn tyfu'n gyflym yn economaidd, tra bod twf Cymru yn llawer arafach.

Mae'r blog yma wedi dadlau yn y gorffennol bod mai dadleuon economaidd ydi'r unig rai gwerth eu cyflwyno yng nghyd destun ennill annibyniaeth i Gymru, ac mae'n galondid bod y dadleuon hynny yn cael eu cyflwyno ar y blogosffer.

Wedi dweud hynny, mae'n anffodus nad ydynt eto yn agos at galon y ddadl rhwng y pleidiau gwleidyddol yng Nghymru.  

Monday, December 26, 2011

Cip cychwynol ar etholiadau lleol 2012

Reit - cip bach cychwynol ar brif ddigwyddiad gwleidyddol y flwyddyn nesaf - yr etholiadau lleol.  Mi gymerwn ni bethau fesul plaid.

1)  Llafur.  Mae yna hen batrwm mewn gwleidyddiaeth Cymreig bod Llafur yn adeiladu cefnogaeth yn gyflym  pan maent allan o rym yn San Steffan - ac mi ddigwyddodd hynny eleni yn etholiadau'r Cynulliad, er i Lafur fethu cael mwyafrif llwyr o drwch blewyn.  Byddwn yn disgwyl i hynny barhau yn etholiadau lleol fis Mai y flwyddyn nesaf gyda Llafur efo cyfle eithaf da o gipio'r dinasoedd oddi wrth y gwahanol glymbleidiau Lib Demaidd a'u rheoli ar eu liwt eu hunain.  Byddant hefyd yn disgwyl ail adeiladu yn y Cymoedd gan gipio rhai o'r cynghorau a gollwyd yn 2008.  Roedd eu perfformiad yn 2008 yn drychinebus - collwyd 124 o gynghorwyr.  Maen nhw'n siwr o wella ar y 342 cynghorydd a etholwyd bryd hynny.

2)  Toriaid.  Mae'r Blaid Doriaidd wedi ail adeiladu yng Nghymru ers erchyllderau 1997 - 2001.  Maent bellach yn ail yng Nghymru ar lefelau San Steffan a'r Cynulliad ac roedd cael chwarter y bleidlais yn yr etholiad honno yn gryn gamp. Fodd bynnag mae'n ddigon posibl eu bod wedi cyrraedd eu penllanw ar hyn o bryd - mae'r toriadau mewn gwariant cyhoeddus yn fwy niweidiol yng Nghymru nag ydyw yn Lloegr - ac mae yna lawer iawn o bobl yn ddibynol ar wariant cyhoeddus mewn rhyw ffordd neu'i gilydd mewn ardaloedd sy'n dda i'r Toriaid, megis Gogledd Caerdydd a Chonwy.  Maent yn debygol iawn o ddal Mynwy, a byddant yn gobeithio dal Bro Morgannwg - er eu bod yn fwy agored i gael eu niweidio gan yr adfywiad Llafur yma.  Mae ganddyn nhw bresenoldeb sylweddol yng Nghonwy a Dinbych (maent yn rhannu grym yn Ninbych) ond dydw i ddim yn rhagweld y byddan nhw symud ymlaen llawer yma.  Byddai'n llwyddiant i't Toriaid aros ym mhle y maent ar hyn o bryd, ac mae am fod yn anodd iawn iddynt wella ar y 174 cynghorydd a gawsant yn 2008.  .

3)  Y Lib Dems.  Gallant ddisgwyl cweir mae gen i ofn.  Er i'r blaid wneud yn well na'r disgwyl yn nhermau seddi yn etholiadau'r Cynulliad (colli un yn unig), roeddynt yn lwcus iawn, iawn i beidio a cholli dwy sedd arall a chael eu hunain ar dair yn unig.  Tros y ddegawd diwethaf maent wedi llwyddo i adeiladu cryn bresenoldeb mewn llywodraeth leol mewn aml i ran o Gymru, ac yn arbennig felly yn y dinasoedd ac yn rhai o'r Cymoedd. Mae'n ffaith anffodus iddyn nhw mai ar draul Llafur maent wedi ennill seddau, a bydd yr adfywiad ym mhleidlais y blaid honno yn ogystal a'r cwymp anhepgor ym mhleidlais y Lib Dems yn golygu y bydd y rhan fwyaf o'u dylanwad mewn llywodraeth leol yng Nghymru yn cael ei golli - am y tro o leiaf.  Byddant yn gwneud yngymharol dda i gael 100 sedd, o gymharu a 162 yn 2008.

4)  Plaid Cymru.  Yn rhyfedd iawn gallai'r etholiad fod yn un cymharol lwyddiannus i'r blaid er gwaethaf ei phroblemau ehangach.  Mae'n wir y bydd rhaid iddynt sefyll yn erbyn yr adfywiad Llafur mewn ardaloedd megis Caerffili, Rhondda Cynon Taf a  rhannau o Sir Gaerfyrddin, ond 'dydi'r adfywiad Llafur heb gyrraedd Gwynedd na Sir Geredigion - ac mae'n ddigon posibl y bydd yn cadw y mwyafrif llwyr sydd newydd ei ail ennill yng Ngwynedd, a manteisio ar wendid y Lib Dems yng Ngheredigion.  Yn wir hyd yn oed mewn nifer o leoedd lle mae Llafur yn gryf mae lle i obeithio y bydd y Blaid yn dal ei thir yn eithaf - mae llawer o'i chynghorwyr wedi hen sefydlu eu hunain, ac mae perfformiad Cyngor Caerffili wedi bod yn ddigon clodwiw.  Bydd yn anodd cadw'r 205 cynghorydd a etholwyd ym mherfformiad penigamp 2008, ond mae'n fwy na phosibl y bydd yn cadw ei lle fel yr ail blaid fwyaf mewn llywodraeth leol yng Nghymru.  Y prif berygl i'r Blaid ydi y gallai llwyddiant cymharol argyhoeddi ei harweinwyr nad oes yna broblemau arwyddocaol i fynd i'r afael efo nhw.  Byddai hynny'n gryn gamgymeriad.


Saturday, December 24, 2011

Friday, December 23, 2011

Tegwch y Toriaid a'r Lib Dems

Mae Plaid Wrecsam yn gwbl gywir i dynnu sylw at y ffaith nad ydi’r pensiynau ‘gold plated’ mae’r Toriaid mor hoff o siarad amdanynt  mor euraidd a hynny yng Nghlwyd – gyda 72% o’r sawl sydd yn derbyn pensiwn o Gynllun Pensiwn Clwyd yn derbyn llai na £5,000 y flwyddyn.

A’r gwir plaen ydi mai isel ydi pensiynau cyfartalog sector cyhoeddus yn gyffredinol trwy’r DU o gymharu a – dyweder – cyflog Aelod Seneddol.  Mae Aelod Seneddol cyffredin yn ennill £65,738 + yr enwog dreuliau wrth gwrs, tra bod pensiwn cyfartalog sector cyhoeddus tua £7,000.  Pan rydych yn clywed aelod seneddol – Guto Bebb dyweder  gan bod ganddo gymaint i’w ddweud ar y pwnc – yn son am ‘degwch’ pan mae’n dod i bensiynau, efallai ei bod werth cofio na fydd y cyfryw Aelod Seneddol byth yn gorfod ceisio cael dau ben llinyn ynghyd efo £7,000 y flwyddyn.   

Yn wir petai Nick Clegg neu Danny Alexander yn gadael y senedd yn 2015 byddai’n derbyn pensiwn blynyddol o £26,403.  Byddai Francis Maud yn derbyn £43,835 y flwyddyn, Vince Cable  £32,977 ac mi fyddai Andrew Lansley yn cael £39,825.  Dyna beth ydi pensiynau euraidd.  

Rwan mae’n wir bod yna wahaniaeth rhwng pensiynau sector cyhoeddus a sector preifat.  Er bod rhai gweithwyr yn y sector preifat yn derbyn pensiynau uchel iawn, tra bod eraill mewn cynlluniau tebyg i’r rhai sector cyhoeddus, ‘dydi’r rhan fwyaf o ddigon ddim. Yn wir ‘dydi tua 65% o weithwyr sector preifat ddim yn gwneud unrhyw baratoadau pensiwn o gwbl (16.1% ydi’r ffigwr yn y sector cyhoeddus).   Tua £28,000 ydi pot pensiwn mwyafrif gweithwyr y sector preifat  – cyfanswm sy’n creu pensiwn blynyddol o tua £1,650.  ‘Dydi £1,650 na £7,000 ddim yn bensiynau sy’n mynd i roi bywyd arbennig o gyfoethog i neb, a byddai dyn yn meddwl petai’r Toriaid a’r Lib Dems o blaid tegwch yn yr ystyr mae'r rhan fwyaf ohonom yn ei ddeall y byddant yn ceisio meddwl am ffyrdd o gynyddu pensiynau’r sector preifat.  Ond na – tegwch i Dori neu Lib Dem ydi ceisio cael pensiynau sector cyhoeddus yn is – nid cael rhai’r sector preifat yn uwch*

Yr economi sy’n cael y bai am hyn wrth gwrs, a’r angen i argyhoeddi’r marchnadoedd pres bod cynllun gan lywodraeth  y DU i leihau gwariant cyhoeddus.  Prif strategaeth y llywodraeth o fynd ati i wneud hynny ydi trwy wasgu ar un rhan, ac un rhan yn unig o’r gweithlu – gweithwyr sector cyhoeddus.  Gwneir hyn trwy docio’n sylweddol ar wariant cyhoeddus a weithwyr sector cyhoeddus ar y clwt, rhewi cyflogau’r rhan fwyaf ohonynt am dair blynedd mewn cyfnod pan mae chwyddiant i’r gogledd o 5% y flwyddyn, gwneud i’r cwbl gyfranu llawer mwy tuag at eu pensiwn a thalu llai  o bensiwn iddynt ar ben hynny.

Cwestiwn gwleidyddol ydi pa mor fforddiadwy ydi pensiynau sector cyhoeddus mewn gwirionedd.  Mae yna ffyrdd eraill o argyhoeddi’r marchnadoedd arian bod y gwahaniaeth rhwng gwariant cyhoeddus a’r arian mae’r wladwriaeth yn ei godi o dan reolaeth -  codi trethi er enghraifft.  Fel rydym wedi trafod mewn blogiad blaenorol byddai gwneud i gwmniau mawr dalu’r dreth maent i fod i’w dalu yn unol a deddfwriaeth bresenol yn ddechrau go lew.  Gan mai’r sector ariannol (a diffyg goruwchwyliaeth y llywodraeth tros y sector hwnnw) sy’n gyfrifol am y llanast y cawn ein hunain ynddo byddai yna elfen o degwch (a defnyddio hoff derm newydd y Toriaid)  mewn trethu’r banciau, neu drosglwyddiadau ariannol neu beth bynnag  yn hytrach na mynd ar ol gweithwyr yn y sectorau addysg ac iechyd (a dyna beth ydi’r rhan fwyaf o weithwyr sector cyhoeddus) nad oedd ddim oll i’w wneud ag achosi’r argyfwng.  

Mae’r penderfyniad i fynd ar ol y sector cyhoeddus ynghyd a’r dealltwriaeth rhyfeddol  sydd gan y Toriaid a'r Lib Dems o degwch wedi eu seilio ar yr un peth mewn gwirionedd – syniadaeth adain Dde.  Mae’r syniadaeth honno yn diffinio’r berthynas rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus yn nhermau zero sum game – os ydi un ar ei ennill, yna mae’r llall ar ei golled.  Felly trwy ddiffiniad os ydi rhywbeth yn niweidiol i’r sector cyhoeddus, yna mae’n dda i’r sector preifat.  Pan mae ein cyfeillion Toriaidd / Lib Dem yn son am y sector preifat, son maent am gyflogwyr sector preifat yn hytrach na gweithwyr wrth gwrs.  Nid oes rhaid dweud bod yr uchod yn nonsens o'r radd flaenaf.

Ond ag edrych ar bethau o’r safbwynt hwnnw mae’n hawdd gweld pam mai’r sector cyhoeddus sydd o dan y sawdl.  Mae cyflogau  ac amodau sector cyhoeddus uchel hefyd yn llesol i gyflogau ac amodau gweithwyr sector preifat.  Y rheswm am hynny ydi bod cyflogau ac amodau da yn y sector cyhoeddus  yn gorfodi cyflogwyr sector preifat i edrych ar ol eu gweithwyr er mwyn eu cadw rhag chwilio am waith yn y sector cyhoeddus.  O lwyddo i leihau’r nifer o swyddi yn y sector cyhoeddus yn ogystal a lleihau’r cyflogau a difetha’r amodau, mae’n haws i gyflogwyr sector preifat dalu llai i’w gweithwyr  a chynnig amodau salach iddynt.  

A dyna mae gen i ofn y cefndir syniadaethol sydd y tu ol i benderfyniad y cabinet o filiwnyddion Toriaidd a Lib Dem i bloncio’r sector cyhoeddus yng nghanol storm a greuwyd gan eraill.  Edrych ar ol eu cyfran fach  o’r boblogaeth ar draul pawb ydi canlyniad gweithredu yn unol a'r syniadaeth yma yn y bon.  Dim llai, dim mwy.

* Mae'r ffigyrau wedi eu cymryd o flog Polly Curtis ar safle'r Guardian. Gan nad ydi'r ffigyrau mae yn eu defnyddio yn hollol gyson o flogiad i flogiad (oherwydd nad yr un set o bobl sy'n cael eu cymharu pob tro) 'dwi'n defnyddio rhai sydd tua chanol yr amrediad cymharol fach.

Thursday, December 22, 2011

Diolch i Ifan ar Golwg360 --

- am roi Blogmenai ar frig ei flogiau amatur cyfrwng Cymraeg eto eleni. Diolch iddo hefyd am gynnig cyfarwyddiadau cywir a perthnasol iawn ynglyn a sut y dylid ymateb os byth y daw'r blog i ben. Nid bod rhaid i chi boeni - rhag ofn i'r gwaethaf ddod i'r gwaethaf mae olynydd eisioes wedi ei ddewis i gynnal y blog -fe'i adwaenir fel yr Olynydd Gogoneddus.

ON Mae'n dda iawn nodi i Anffyddiaeth ddod yn ail. Er nad ydw i yn cytuno efo Dylan pob tro 'does yna ddim llawer o bobl gyda gafael digon da ar y Gymraeg i 'sgwennu dadleuon digon cymhleth mewn ffordd mor eglur a darllenadwy.

Wednesday, December 21, 2011

Beth ydi biliwn yma ac acw rhwng ffrindiau?

Mae'n gyd ddigwyddiad bach rhyfedd bod cost blynyddol pensiynau sector cyhoeddus i'r wladwriaeth a chyrff cyhoeddus eraill, sydd yn ol y llywodraeth  yn anferthol (£26.5bn), mor debyg i'r £25bn nad ydi Swyddfa Dreth wedi trafferthu i'w godi mewn trethi gan gwmniau mawr megis Vodaphone, Goldman Sachs ac ati.

Ymddengys bod arfer o drafod rhwng swyddogion y Swyddfa Dreth a swyddogion cwmniau mawr, faint o dreth y dylai'r cwmniau ei dalu tros ginio mewn rhai o dai bwyta drytaf y DU.  Mae nifer o'r dywydiedig gwmniau yn cyfranu symiau sylweddol i'r prif blaid lywodraethol Brydeinig wrth gwrs.

Dydi'r naill ddim yn talu am y llall wrth gwrs - ffigwr blynyddol ydi'r un am bensiynau ac un llwyr ydi'r un treth.  Ond mae'r £2.8bn blynyddol mae'r llywodraeth yn gobeithio ei arbed wedi gweithredu'r newidiadau yn edrych braidd yn dila wrth ymyl y £25bn nad ydynt yn trafferthu i'w gymryd gan eu cyfeillion.

'Dwi ddim eisiau difetha 'Dolig neb ond _ _ _

_ _ _ cymrwch olwg ar y graff isod:

Ia dyna chi - os ydan ni'n ychwanegu pob dyled yn y DU at ei gilydd (yn hytrach na dyledion y llywodraeth ac unigolion yn unig) mae'r ddyled bron yn 1000% o GDP'r wlad - llawer, llawer uwch na'r Undeb Ewropiaidd sydd ar hyn o bryd yng nghanol y storm.

Gweler yma am fanylion.

Monday, December 19, 2011

Huw Edwards a marwolaeth Kim Jong yr Ail

Mae'n anodd gwybod pa gysur y gellir ei gymryd o'r newyddion  brawychus am farwolaeth anisgwyl arweinydd Gogledd Korea, Kim Jong yr Ail.  Hyd y gallaf farnu yr unig Gymro a all gymryd unrhyw beth cadarnhaol o gwbl o'r digwyddiad dychrynllyd ydi'r darllenwr newyddion enwog,  Huw Edwards.



Ar ol ei lwyddiant rhyfeddol yn ein harwain trwy'r briodas frenhinol yn gynharach eleni, byddai Huw'n  siwr o gael y joban o wneud y datganiad ffurfiol yn ogystal a'n harwain trwy'r cynhebrwng, petai rhywbeth ofnadwy - Duw a'n gwaredo -yn digwydd i'n hannwyl Frenhines.

Y broblem i Huw fyddai'r diffyg model o sut i ymddwyn yn y sefyllfa arbennig yma - wedi'r cwbl  ni fu marwolaeth brenin neu frenhines mewn bron i drigain mlynedd.  Yn ffodus i Huw mae corfforaeth darlledu cenedlaethol Gogledd Korea yn debyg iawn i'r BBC o ran pwrpas, cynnwys  ac yn wir o ran arddull a goslef ei darlledwyr pan maent  yn ymdrin a'r teulu sy'n arwain y wladwriaeth.

Felly mae'r datganiad heddiw gan deledu Gogledd Korea yn berffaith i bwrpas Huw, a 'dwi'n siwr y bydd yn ei astudio'n fanwl gyda'r bwriad o'i efelychu yn weddol agos pan, ac os, y daw'r amser i wneud hynny.  'Dwi'n siwr y bydd y darllediad o gynhebrwng Kim Jong o gryn ddiddordeb proffesiynol iddo hefyd.


Saturday, December 17, 2011

Hybu annibyniaeth a hybu'r economi - ydyn nhw'n anghydnaws?

Reit pos bach.  Edrychwch ar y ddau ddyfyniad diweddar isod - pwy sydd yn gyfrifol amdanynt?


Dyfyniad 1:


This is just totally irrelevant to the real politics of Wales. The economy is in crisis, unemployment is rising month by month and someone wants to talk about a concept no-one fully understands.Unfortunately, because the SNP are holding a referendum on Scottish independence, some people think we should be doing the same in Wales. I suggest they go to Scotland.

Dyfyniad 2:
 I do know that the most urgent issues facing the Welsh Government today are the economy, an under-performing education system and the health service. Why would any sane minister take his or her eye off those problems to worry about esoteric constitutional issues that have not even presented themselves yet?
Rhodri Glyn Thomas (Plaid Cymru) sydd biau'r cyntaf a Peter Black (Lib Dems) sy'n gyfrifol am yr ail.  Mae'r pwyntiau sy'n cael eu gwneud gan y ddau yn union yr un peth i bob pwrpas - sef:

1)  Ni ddylid ymddiddori yn y newidiadau a allai ddigwydd yn sgil y refferendwm Albanaidd.
2)  Y rheswm am hyn ydi bod yr economi yn bwysig, bwysig, bwysig ac mae ymddiddori mewn materion cyfansoddiadol yn ei gwneud yn anodd i hybu'r economi.

A gadael o'r neilltu am ennyd naifrwydd treuenus yr awgrym sydd ymhlyg yn nyfyniadau'r ddau gyfaill na fyddai ymadawiad yr Alban a'r DU ag oblygiadau i Gymru, a gadael o'r neilltu'r ffaith  bod plaid Mr Black efo obsesiwn am faterion cyfansoddiadol cwbl esoteric, onid ydi'r syniad nad oes cysylltiad rhwng statws cyfansoddiadol Cymru a'i heconomi yn un rhyfedd?

Mae'r blog yma wedi dadlau ar sawl achlysur yn y gorffennol mai dadl economaidd ydi'r unig un sy'n bwysig mewn gwirionedd yng nghyd destun y ddadl annibyniaeth.  Y rheswm pam bod Cymru yn tan berfformio yn economaidd yn barhaol ac yn barhaus ydi oherwydd ei statws cyfansoddiadol.  Mae ein diffyg  gallu i addasu ein trethi busnes a chorfforaethol yn ein hatal rhag cynnig cymhelliad i fusnesau sefydlu mewn gwlad sydd ymhell oddi wrth marchnadoedd poblog Ewrop, ac mae ein anallu i reoli ein cyfraddau llog yn ein gadael yn aml efo cyfraddau anaddas o uchel i'r math o economi sydd gennym.

Ac wrth gwrs mae yna'r penderfyniadau llywodraethol diwrnod i ddiwrnod.  Yr wythnos diwethaf aeth David Cameron ati i dorri ei bontydd efo Ewrop er mwyn amddiffyn buddiannau'r diwydiant gwasanaethau ariannol sy'n anferth yn Lloegr ond yn fychan yma yng Nghymru.  Mae'r penderfyniad hwnnw yn debygol o wneud drwg sylweddol i'r sector cynhyrchu yng Nghymru - ond 'does yna ddim oll allwn ei wneud am y peth oherwydd nad oes gennym ein llais ein hunain yn Ewrop.  A'r rheswm am hynny wrth gwrs ydi natur ein sefyllfa gyfansoddiadol.

Yr hyn fyddai'n hybu economi Cymru yn annad dim arall fyddai ennill yr hawl i wneud penderfyniadau economaidd a fyddai er lles ein economi.  'Dydi  hynny ddim yn bosibl yn y cyd destun cyfansoddiadol presenol.  

Friday, December 16, 2011

Dyn sy'n edrych ar ol ei deulu

Yn yr oes sinicaidd a di deimlad sydd ohoni mae'n braf iawn dod ar draws dyn sy'n edrych ar ol ei deulu. Son ydw i wrth gwrs am Mohammad Asghar, sy’n Aelod Cynulliad Ceidwadol (ar hyn o bryd o leiaf) dros Ddwyrain De Cymru.

 Byddwch yn cofio i Mohammad Asghar, neu Oscar fel y bydd hefyd yn cael ei alw weithiau ,adael Plaid Cymru yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad wedi iddo gael ar ddeall nad oedd Ieuan Wyn Jones am gyflogi ei ferch Natasha fel ei swyddog i'r wasg.  Cyd ddigwyddiad hapus oedd hi i Nick Bourne addo iddo na fyddai'n rhaid iddo ymladd am enwebiad y Toriaid yn Nwyrain De Cymru - dydi'r Toriaid Gymreig ddim yn rhai mawr am ddemocratiaeth mewnol.



Ta waeth -ymdrech ddiweddaraf Oscar i edrych ar ol ei deulu oedd ei ymgais i ddyladwadu ar Doriaid Casnewydd i gefnogi ei wraig Firdaus Asghar am enwebiaeth i sefyll i fynd ar gyngor Casnewydd yn ward Allt yr Yn, wedi marwolaeth y cynghorydd o Dori, Les Knight oedd wedi cynrychioli'r ward ers 1964.  Yn wir cymaint ei frwdfrydedd i helpu ei wraig fel na thrafferthodd i ddisgwyl i gorff Les oeri'n iawn nag i ddiferyn o formaldehyde gael ei chwistrellu i'w wytheinau cyn cychwyn ar ei ymgyrch i gael ei wraig ar y cyngor.

Talodd Cyngor Casnewydd £873,597.70 mewn lwfansau cynghorwyr y llynedd.

Thursday, December 15, 2011

Sylwadau Dafydd Ellis Thomas a Rhodri Glyn Thomas a rhai Neil McKevoy.

Mae'n ddiddorol i'r Blaid gynnal y gwyn yn erbyn sylwadau anoeth a wnaed gan Neil McKevoy ynglyn a mudiad Cymorth i Fenywod, tra'n gwrthod cynnal cwyn a ddaeth o gyfeiriad awdur y blog Syniadau ynglyn a sylwadau a wnaed gan ddau o Aelodau Cynulliad y Blaid - sylwadau oedd yn datgan eu bod yn erbyn un o bolisiau creiddiol y Blaid, sef annibyniaeth.  Yn wir mae'n ymddangos i Dafydd Ellis Thomas fynd mor bell a dweud ei fod yn erbyn unrhyw newidiadau cyfansoddiadol o gwbl.

Rwan 'dydw i ddim yn amddiffyn sylwadau Neil am funud - ond mi fyddwn wedi tybio y byddai'n fwy o broblem i blaid genedlaetholgar fod  rhai o'i harweinwyr yn dadlau'n gyhoeddus ar y cyfryngau prif lif  yn erbyn y brif ddadl tros ei bodolaeth ac o blaid safbwyntiau ei gwrthwynebwyr, nag y byddai sylwadau brysiog a di feddwl gan gynghorwydd o Gaerdydd ar wefan gymdeithasol.  Ond na - mae dweud rhywbeth cas am gorff allanol yn fwy o broblem nag ydi hi i aelodau Cynulliad y Blaid danseilio ei raison d'etre.

Mae yna reswm am y sefyllfa ymddangosiadol afresymegol yma, ac mae wedi ei wreiddio yn y ffaith ein bod fel Pleidwyr wedi bod yn barod iawn i dderbyn amwyster mewn perthynas ag annibyniaeth yn y gorffennol.  Ceir rheswm syml am hyn yn ei dro.

Un o brif ddadleuon y sawl oedd yn erbyn datganoli grym i Gaerdydd yn y gorffennol oedd bod gwneud hynny yn ein rhoi ar y llwybr llithrig tuag at annibyniaeth.  Roedd llawer ohonom oedd o blaid annibyniaeth hefyd yn ddistaw bach yn rhannu'r dadansoddiad hwnnw - ac oherwydd hynny rydym wedi tueddu i gymryd yr agwedd mai cychwyn ar y broses ddatganoli oedd y peth pwysig, ac os oedd gwadu'r angen am annibyniaeth yn gwneud hynny'n haws yna roedd yn bris bach i'w dalu.  'Dwi'n digwydd credu bod cymryd yr agwedd honno wedi bod yn gamgymeriad, a'i bod yn gyfrifol am lawer o'n problemau cyfoes - ond 'dwi hefyd yn deall pam oedd pobl yn rhesymu yn y ffordd arbennig yma ar un adeg.

Ond rwan ydi rwan a'r gorffennol ydi'r gorffennol.  Mae datganoli wedi newid pethau - 'does yna ddim esgys tros amwyster bellach.  Yn wir mae'r amwyster hwnnw bellach yn llesteirio ar ddatblygiad Blaid ac yn ei gwneud yn destun sbort.  Mae datganoli wedi ei wireddu, a'r ddau gwestiwn cyfansoddiadol i Gymru bellach ydi i ble'r ydym yn mynd? a pa mor gyflym ydym yn mynd yno?  Mae'r tirwedd gwleidyddol oedd yn bodoli pan roedd Dafydd Ellis Thomas a Rhodri Glyn Thomas yn wleidyddion ifanc wedi marw - ni ddaw byth yn ei ol.


Bellach mae pob un o'r pleidiau unoliaethol Cymreig o blaid datganoli i rhyw raddau neu'i gilydd.  'Dydi o ddim yn gwneud synnwyr i'r Blaid leoli ei hun yn yr un lle (fwy neu lai) yn gyfansoddiadol a'r pleidiau Prydeinig.  Mae hynny yn arbennig o wir mewn byd lle mae gwledydd llai eraill y DU yn symud i gyfeiriad annibyniaeth beth bynnag.

Mae llwyddiant datganoli yn eironig wedi difa'r angen am blaid sy'n diffinio ei hun yn nhermau hyrwyddo datganoli.  Mae'r Pleidwyr hynny sydd yn dal i weld datganoli fel y prif flaenoriaeth cyfansoddiadol yn y blaid anghywir - neu maent yn dal i fyw mewn cyfnod gwleidyddol sydd wedi hen gilio.


Wednesday, December 14, 2011

Leanne i sefyll

Newydd sylwi fy mod wedi fy nghuro i'r stori roeddwn yn cyfeirio ati isod gan Golwg360 - ymysg eraill. 

Gweler yma.

Pedwerydd ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid?

'Dyna ydi'r sibrydion o leiaf - bod ymgeisydd arall am ddatgan ei bwriad yn y dyfodol agos iawn.

Tuesday, December 13, 2011

Swnian diweddaraf Carwyn Jones

Mae'n anodd cydymdeimlo llawer efo Carwyn Jones pan mae'n swnian am y niwed mae'n feddwl fydd yn cael ei achosi i economi Cymru gan fethiant David Cameron i ddod i delerau efo gweddill gwledydd yr Undeb Ewropiaidd.



Y ffaith syml amdani ydi mai unoliaethwr Prydeinig ydi Carwyn o ran ei wleidyddiaeth, ac mae unoliaethwr Prydeinig yn derbyn bod ystyriaethau'r llywodraeth Brydeinig mewn materion sydd y tu allan i gwmpawd cyfrifoldebau'r Cynulliad yn bwysicach nag ydi rhai'r llywodraeth Gymreig.

Mae Carwyn yn y bon yn cwyno yn erbyn rhesymeg creiddiol ei wleidyddiaeth ei hun.  

Sunday, December 11, 2011

Drodre.co

Un o'r ffyrdd gorau o ddysgu am dref neu ddinas nad ydych yn gyfarwydd a hi ydi trwy fynd am dro efo'r un o'r bobl (leol gan amlaf) hynny  sy'n hebrwng grwpiau o bobl o gwmpas, ac yn dweud wrthynt am hanes yr ardal a dangos adeiladau lleol o bwys ac ati.

Un o'r manteision ydi eich bod yn aml dysgu llawer mwy na sydd i'w gael yn y llyfrau teithio - mi'r ydych yn dysgu am hanes answyddogol ardal yn ogystal a'r hanes swyddogol. 

Er enghraifft felly y deuthym i wybod am yr unig dafarn ar Ynysoedd Prydain sy'n parhau i wrthod gadael i ferched groesi'r trothwy (y Thomas Marr yn Waterford os ydych chi eisiau gwybod), bod pobl efo toiledau y tu mewn i'w tai yn Ffrainc ers canrifoedd, bod pob warws yn agos iawn at y dociau yn Lerpwl oherwydd bod cymaint o'r cargo yn cael ei ddwyn pan roedd rhaid ei gludo mwy nag ychydig ganoedd o fetrau o'r dociau, mai yn y dafarn gyferbyn a gorsaf drenau Connolly y cynllunwyd digwyddiadau Pasg 1916 yn Nulyn, bod daeargryn yn 1667 wedi lladd llawer iawn mwy o drigolion Dubrovnik na lwyddodd y Serbiaid i'w lladd yn ystod gwarchau 1991 /1992 ac ati. 

Mae gwasanaeth felly i'w gael yn nhref Caernarfon ers rhai blynyddoedd bellach - ac ni allaf feddwl am wasanaeth arall o'r fath y gellir ei gael trwy gyfrwng y Gymraeg - er efallai fy mod yn anghywir.  Emrys Jones sy'n cynnal y teithiau yn ei ffordd unigryw a hwyliog - a gellir dod o hyd i'r manylion ar ei wefan Drodre.co.



Rwan blog gwleidyddol ydi hwn wrth gwrs, nid un sy'n hyrwyddo'r diwydiant twristaidd yng Nghaernarfon - ond mae yna bwynt gwleidyddol hynod bwysig i hyn oll.  Mae'r hyn mae Emrys yn ei wneud yn bwysig yn y ffaith ei fod yn esiampl o hanes lleol yn cael ei feddiannu a'i ddiffinio gan bob lleol. 



Petai rhywun o'r tu allan i Gaernarfon yn gwneud yr hyn mae Emrys yn ei wneud, byddai'r hanes y byddwch yn clywed amdano yn dra gwahanol - byddai'n hanes sefydliadol ei naws ac wedi ei ganoli ar castell, yr waliau a'r hanes brenhinol sy'n dennu llawer o bobl yma.  Mae llawer o'r hyn mae Emrys yn son amdano yn ymwneud a phobl gyffredin sydd wedi byw yng Nghaernarfon - mae'n ymwneud a'r sawl sydd wedi gwneud Caernarfon yr hyn ydyw mewn gwirionedd - tref werinol, fyrlymus, liwgar a Chymreig iawn.  Ein hanes ni ydi hwnnw - ac mae'n hanes llawer pwysicach na'r un sy'n ymwneud efo llwydni'r strwythurau mawr carreg. 

ON - mae gan Emrys daith sy'n cychwyn am 6.30 wrth ymyl Lloyd George ar y Maes y nos Iau yma.  Cost y daith ydi £7.50.

Saturday, December 10, 2011

'Dydi Rod druan heb gael gwobr eleni chwaith

Hmm - felly'dydi Rod Richards ddim yn hoff o'r syniad o wobreuo gwleidyddion Cymreig.

Mewn datganiad nodweddiadol o emosiynol a dryslyd mae'n ymosod ar safon trafodaethau'r Cynulliad, ar y 'ffaith'  bod y rhan fwyaf o aelodau'r sefydliad yn cywain eu barn am faterion y dydd o'r Western Mail, ar Leighton Andrews, ar y llywodraeth Lafur, ar Eluned Parrott ac ar Cheryl Gillan. Yn wir mae pawb yn ei chael hi ag eithrio Angela Burns a Chris Bryant.  'Dwi ddim yn siwr pam bod Angela yn osgoi'r lach, ond casineb Chris tuag News of the World - papur a aeth ati i groniclo rhai o anturiaethau 'carwriaethol' Rod mewn manylder lliwgar os brawychus - sy'n ei achub o.

Y brif broblem efo'r gwobreuon 'da chi'n gweld ydi eu bod yn gwobreuo gwleidyddion sy'n tynnu sylw atyn nhw eu hunain (ag eithrio Ms Parrott sydd ddim yn tynnu unrhyw sylw o gwbl ati'i hun).  Rwan fyddai yna neb yn gallu cyhuddo Rod o fynd ati i dynnu sylw at fo'i hun na fyddai? 

Thursday, December 08, 2011

Helynt yr arholwyr a bandio ysgolion

Mae'n debyg bod yna rhywbeth addas yn y ffaith i fandiau perfformiad y Cynulliad gael eu rhyddhau ar yr un diwrnod ag ymddangosodd stori yn y Telegraph am dwyllo honedig gan arholwyr - gan gynnwys rhai sy'n gweithio i CBAC.  Os ydi'r stori honno'n wir, yna mae'n un gwbl syfrdanol.

Y berthynas rhwng y ddwy stori ydi bod adeiladu pwysau a chystadleuaeth chwyrn i mewn i unrhyw gyfundrefn - fel mae cyhoeddi bandiau ysgolion yn ei wneud - yn siwr o arwain at rhywfaint o ymdrechion eithafol, ac o bryd i'w gilydd  cwbl amhriodol gan ambell un  i achub y blaen ar eraill.

Os ydi llywodraeth Cymru yn benderfynol o greu cyfundrefn mwy cystadleuol yn y byd addysg Cymreig, yna mae'n bwysig eu bod yn sicrhau bod eu dulliau o fesur a chymharu yn wrthrychol ac yn effeithiol, a bod y strwythurau sy'n mesur ac yn cymharu yn hollol dryloyw a gwrthrychol.

Os ydi honiadau'r Telegraph yn wir, 'dydi pethau ddim wedi cychwyn yn arbennig o dda.

Gellir dod o hyd i fandiau'r Cynulliad yma.  

Wednesday, December 07, 2011

Cyngor Gwynedd a sterics Mr Scrooge AS

Mae gen i ofn fy mod yn anghytuno a sylwadau hysteraidd braidd fy nghymydog Ebenezer Scrooge ynglyn a phenderfyniad Cyngor Gwynedd i beidio a thocio cyflogau’r sawl aeth ar streic tan fis Chwefror.





Yn wir, byddwn yn mynd ymhellach ac yn llongyfarch y cyngor am ddangos hyblygrwydd a chonsyrn tuag at ei weithwyr yn ystod amser digon anodd. Mae’r deilydd portffolio sy’n gyfrifol am gyllid y sir, Sian Gwenllian yn gwbl gywir pan mae’n nodi:



Mae’n bwysig bod yn hyblyg mewn cyfnod sydd mor heriol yn ariannol.  Does dim codiad cyflog wedi bod ers dwy flynedd (yn sgil polisiau cenedlaethol) ac mae llawer o’n gweithwyr sy’n cynnig gwasanaethau pwysig ar y rheng flaen yn teimlo’r esgid yn gwasgu erbyn hyn.
Fydd gohirio’r tocio yn rhoi mymryn mwy o arian yn eu pocedi dros y Nadolig sy’n adeg drud i deuluoedd a rhaid cofio mai gohirio’r tocio ydan ni, ac nid gwneud i ffwrdd ag o yn gyfan gwbl.
“Mi fydd y gweithwyr yn dal i golli diwrnod o dâl os fuon nhw ar streic felly does dim cyfiawnhad i’r ddadl y bydd y trethdalwyr rhywsut ar eu colled.
Yn wir mae’n anodd peidio a chwerthin wrth ddarllen rhai o sylwadau Ebenezer ynglyn a thegwch.

Pwy sy’n mynd i ddigolledu’r gweithiwr Asda neu’r gweithiwr Morrisons sy’ wedi gorfod cymryd diwrnod i ffwrdd er mwyn edrych ar ôl eu plant? Pwy sy’n mynd i’w digolledu nhw?

Rwan ‘dydw i ddim yn gwybod yr ateb i’w gwestiwn, nag i faint o weithwyr Asda a Morrisons a gafodd eu hunain yn y sefyllfa yma, ond byddai dyn yn rhyw obeithio  bod y cyfryw gwmniau wedi ymddwyn yn gydymdeimladol , hyblyg a chyfrifol a gwneud yr hyn allant i ail drefnu shiftiau ac at.


Mae’n bosibl na ddigwyddodd hynny – ond meddyliwch am y rhesymeg mewn difri – os nad ydi Morrisons ac Asda yn ymddwyn yn gydymdeimladol, hyblyg a chyfrifol yna mae’n ofnadwy, ofnadwy, ofnadwy o anheg i Gyngor Gwynedd ymddwyn yn gydymdeimladol , hyblyg a chyfrifol


 Dyma resymeg Tori i’r dim – os ydi rhai cyflogwyr yn ymddwyn yn gas tuag at eu gweithwyr, yna mae’n anheg nad ydi pob cyflogwr yn gwneud hynny.




Efallai y bydd Ebenezer yn caniatau i mi dynnu sylw at y gwir anhegwch yn y sefyllfa yma – sef bod y sector bancio wedi cael rhyddid i ymddwyn yn gwbl anghyfrifol am flynyddoedd, ac wedi i’r hwch fynd trwy’r banc, bod rhaid i bawb arall – yn y sectorau cyhoeddus a phreifat fel ei gilydd - dalu trwy eu trwynau am y llanast.


Ond wnewch chi ddim clywed gair am yr anhegwch sylfaenol hwnnw gan ein cyfeillion Toriaidd. Wnewch chi ddim clywed gair chwaith am y cyflogau enfawr mae penaethiaid yn y sector bancio yn dal i’w hawlio. Mae’n well o lawer ganddynt dynnu sylw at pob anghyfartaledd rhwng grwpiau o bobl sy’n mynd allan pob dydd i wneud diwrnod gonest o waith. 


 Peidiwch a disgwyl gwobr gan Flogmenai am egluro pam nad ydi anhegwch sylfaenol y sefyllfa sydd ohoni hyd yn oed yn ymwthio i ymwybyddiaeth Toriaid fel Ebenezer.

Tuesday, December 06, 2011

Mwy o bres yn cael ei sugno gan y Gemau Olympaidd


Felly mi’r ydan ni i gyd yn yr argyfwng ariannol sydd ohoni efo’n gilydd – wel pawb bron o leiaf.

Un o’r sefydliadau sy’n sicr ddim ynddi ydi’r Gemau Olympaidd. Mi’r ydan ni eisoes wedi edrych ar sawl achlysur ar y llo sanctaidd hwnnw – yma er enghraifft.

Y peth diweddaraf i adrodd arno ydi bod David we’re all in this together Cameron wedi penderfynu cyfrannu £41 miliwn tuag at yr ychydig oriau fydd yncwmpasu’r seremoniau agor a chau. Bydd hyn yn dod a chyfanswm y gwariant ar yr achos hynod deilwng yma i tua £80 miliwn.

Piso dryw yn y mor ydi hynny wrth gwrs a chymharu a chyfanswm cost yr holl  sbloets – £9.3 biliwn ar hyn o bryd – ac yn debygol o ddringo hyd yn oed ymhellach. Ddoe diwethaf yr oeddym yn cael ar ddeall y bydd £271m mwy na’r disgwyl yn cael ei wario ar swyddogion diogelwch.

Pan mae ffigyrau mor uchel a hyn mae’n anodd gwerthfawrogi’n iawn am faint o bres yr ydym yn son amdano. Pan geir mwy na phum sero mewn rhif, mae'r pen yn dechrau troi.  Fodd bynnag mae'n haws eu deall wrth gymharu a'r gwariant ar bethau eraill.

Er enghraifft  £14.5 biliwn ydi cyllideb y Cynulliad yn ei gyfanrwydd am y flwyddyn, gyfan gron hon. Tros y tair blynedd nesaf bydd yn cael ei thorri £1.8 biliwn mewn termau real.

Mae gwariant ar addysg yng Ngwynedd eleni yn tua £89m – rhif digon tebyg i gyfanswm y sioeau agor a chau yn Llundain. Mae gwariant cyfalaf ar ysgolion yn y sir yn tua £8 miliwn, neu ddegfed o gost y sioeau agor a chau.

Llai nag wythfed o gost y gemau ydi cyllideb gyfredol Ymddiriedolaeth Betsi Cadwaladr - oddeutu £1.1 biliwn.  Efo’r swm yna maent yn cyflogi tua 18,000 o bobl. Maent hefyd yn cynnal tri ysbyty cyffredinol sylweddol, yn ogystal â 22 o ysbytai llym a chymunedol eraill, a rhwydwaith o dros 90 o ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl. 

Tua £6 biliwn ydi cost gwariant ar iechyd trwy Gymru. Mi fydd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn wynebu toriad o 6.3% mewn termau real y flwyddyn nesaf – mae hyn yn gyfwerth a 4% o gost y gemau Olympaidd.

'Dwi'n gwybod y bydd y puryddion yn eich plith yn gwahaniaethu rhwng gwariant cyfalaf a gwariant refeniw, rhwng gwariant loteri a gwariant trethiant cyffredinol ac ati- ond yn y pendraw, gwariant ydi gwariant, pres ydi pres a blaenoriaethau ydi blaenoriaethau.  Ymddengys bod cynnal sioe fawr ddrud yn un o ddinasoedd cyfoethocaf y Byd yn flaenoriaeth hynod bwysig.

Sunday, December 04, 2011

Leighton yn anfon cwyn at Fwrdd yr Iaith.

Felly mae Leighton Andrews yn cwyno i Fwrdd yr Iaith oherwydd iddo dderbyn llythyr uniaith Saesneg gan adran addysg San Steffan.



Tybed os ydi hynny'n awgrymu y byddwn bellach yn derbyn llythyrau dwyieithog yn ddi eithriad gan y Cynulliad?

Saturday, December 03, 2011

Cymorthdaliadau'r Cyngor Llyfrau a Gwilym Owen

Mae’n ddiddorol darllen erthygl Gwilym Owen mewn cylchgrawn sy’n derbyn cymhorthdal sylweddol gan y Cyngor Llyfrau (Golwg Rhagfyr1af) ynglyn a chymorthdaliadau i gylchgronau Cymraeg.  Cwyno'n groch mae Gwilym bod nifer o gylchgronau eraill  hefyd yn derbyn cymorthdaliadau - er bod y rheiny'n cael llai o bres o lawer na mae Golwg yn ei gael.

Yr hyn sydd gan Gwilym ydi bod y cylchgronau nad yw eisiau i’r Cyngor Llyfrau eu cynnal yn rhai ‘dosbarth canol’ ac ‘elitaidd’, ac o’r herwydd dylid rhoi’r arian sy’n cael ei wario arnynt i’r Cymro – sydd o bosibl yn nhyb Gwilym  yn denu darllenwyr nad ydynt yn ddosbarth canol nag yn elitaidd. Mewn geiriau eraill mae am i holl arian cymhorthdal y Cyngor Llyfrau gael ei ddosbarthu rhwng tri chylchgrawn yn unig – yr un mae’n ysgrifennu iddo, Barn a’r Cymro. Hynny yw, dau bapur cymharol debyg i’w gilydd i’r graddau eu bod yn bapurau wythnosol sy’n delio yn bennaf a newyddion a materion cyfoes, ac un arall sy’n fwy eclectic a dadansoddol o ran cynnwys.

Rwan mae yna sawl problem gweddol amlwg efo hyn oll. Fel rheol defnyddir cymorthdaliadau o'r math yma i sicrhau amrywiaeth darpariaeth yn hytrach nag i roi cymorth i’r cylchgronau sydd a’r cylchrediad uchaf – er mai isel ydi cylchrediad Golwg a’r Cymro hefyd mewn gwirionedd. Byddai dilyn cyngor Gwilym yn arwain at sefyllfa lle byddai’r rhan fwyaf o’r cymorthdaliadau yn mynd at ddau gylchgrawn tebyg i’w gilydd sy’n dyblygu gwaith ei gilydd i raddau helaeth. Hynny yw, byddai’r amrywiaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn diflannu i bob pwrpas.

Yn ychwanegol ,mae yna gwestiwn yn codi unwaith eto ynglyn a rhagfarnau Gwilym. ‘Dydi hi ddim yn glir (hyd y gwn i) faint o bobl wahanol sydd yn darllen yr amrywiol gylchgronau Cymraeg. Er bod gwahaniaethau rhwng cynnwys Y Cymro a Golwg, tybed faint o ddarllenwyr sy’n darllen y ddau? Ac ymhellach, tybed faint o ddarllenwyr Taliesin sydd hefyd yn darllen Y Cymro? ‘Dydw i ddim yn gwybod, ond ‘dydi Gwilym ddim yn cyflwyno unrhyw dystiolaeth nad cyfran go lew o ddarllenwyr Y Cymro a Golwg sydd hefyd yn darllen y stwff 'elitaidd'.

Fel sy’n arferol efo Gwilym, mae’r erthygl yn ddiog i’r graddau nad oes yna ddim tystiolaeth o waith ymchwil annibynnol ynddi. Mae ei holl dystiolaeth yn dibynnu ar ffigyrau darlleniad a chymhorthdal a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Golwg. Mi fyddai gan Gwilym ddadl petai’n gallu dangos bod yna wahanol bobl yn darllen Y Cymro o gymharu a’r papurau eraill. Byddai ganddo ddadl gryfach petai’n gallu dangos bod yna swmp o ddarllenwyr potensial i’r Cymro yn rhywle neu’i gilydd. Ond ‘dydi o ddim yn gwneud hynny, nag yn wir yn ceisio gwneud hynny. Felly mae Gwilym eisiau anfon Barddas, Y Traethodydd a Thaliesin i’r un bun sbwriel a Thu Chwith heb hyd yn oed geisio dangos sut y byddai hynny’n cynhyrchu mwy o ddarllenwyr Cymraeg, heb son am gynyddu’r amrywiaeth sydd ar gael.

Cyn gorffen efallai y dyliwn gyfeirio at ymysodiad Gwilym ar Bethan Jenkins. Ymysg y sylwadau sarhaus mae'n disgrifio ei sylw y dylid rhyw led wladoli’r Western Mail fel un o’r ‘sylwadau mwyaf twp a glywyd yn ddiweddar’. Mi fyddwn yn rhyw gytuno nad hwn ydi’r syniad gorau i Bethan ei gael erioed – ond ydi’r syniad mor dwp a syniad Gwilym ynglyn a sut y dylid penderfynu sut i ddosbarthu cymorthdaliadau i’r wasg Gymraeg ? Dyma sydd ganddo i’w ddweud ar y pwnc – _ _ _ o gofio bod y papur (Y Cymro) bellach yn cyflogi Karen Owen un o’r hacs gorau yn yr iaith Gymraeg onid yw’n amser ailystyried _ _ (faint o gymhorthdal mae’r Cyngor Llyfrau yn ei roi i’r Cymro).

Rwan ‘dwi’n gwybod bod Karen yn effeithiol a rhyfeddol o gynhyrchiol – ond wir Dduw ‘dydi hi ddim yn bosibl llywio polisi dosbarthu cymorthdaliadau ar sail pwy sydd yn gweithio yn lle. Beth goblyn fyddai Gwilym yn ei ddweud petai Tu Chwith yn recriwtio Karen – a’r arian mae eisiau ei anfon i’w dilyn o gwmpas y wlad.

Thursday, December 01, 2011

Alex Jones, Clarkson a'r Bib

Felly mae Jeremy Clarkson wedi agor ei geg fawr drachefn - ar y One Show y tro hwn.

Nid y ffaith bod Jeremy eisiau mynd a fi allan a fy saethu o flaen fy nheulu sydd yn fy mhoeni yn benodol - mae ganddo'n anffodus wendidau seicolegol sy'n gwneud iddo gasau pobl a grwpiau o bobl am resymau cwbl afresymegol - felly 'dydw i ddim yn cymryd pethau yn bersonol.



Yn hytrach y BBC sydd yn fy mhoeni (unwaith yn rhagor).  Mae Jeremy Clarkson wedi mynegi ei gasineb at Gymru yn gyffredinol (ceisio rhoi delwedd o'r wlad mewn popty ping ac ati) a thuag at y Gymraeg yn benodol.  Mae Alex Jones yn Gymraes sy'n siarad ac yn defnyddio'r Gymraeg, ac mae gan unrhyw gyflogwr ddyletswydd gofalaeth tuag at y sawl sy'n gweithio iddo.  Ymddengys i mi ei bod yn afresymol gofyn iddi holi dyn sydd yn ei chasau oherwydd ei hiaith a'i chenedligrwydd.  Go brin bod y profiad yn un pleserus iddi hi.

Petai Alex yn ddu, a fyddai disgwyl iddi holi aelod o'r klu klux klan?  Mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf mai negyddol ydi'r ateb i'r cwestiwn hwnnw.