'Dwi ddim yn siwr os y dylai Hywel Williams ryfeddu na all neb - ac yn arbennig felly y BBC - ddweud faint o'r pres mae'r gorfforaeth yn ei godi yn flynyddol sy'n dod o'r drwydded deledu.
Mae'n wir bod y Bib yn talu £123.6 miliwn pob blwyddyn i hel y ffi gorfodol, ond yn anffodus mae llawer o'r arian hwnnw yn mynd i goffrau Capita Group - neu Crapita Group - busnes sydd yn enwog am gael dwsinau o gontractau gan y sector cyhoeddus a gwneud smonach llwyr o'u gweithredu. Mae'r corff yma sydd a throsiant o tua £2.7 biliwn yn delio efo tua £3.3 biliwn o arian cyhoeddus i gyd. Cyd ddigwyddiad llwyr wrth gwrs ydi'r ffaith bod Capita a pherthynas glos iawn efo llywodraeth Lafur Tony Blair, a hanes o roi benthyciadau anferth i'r blaid ar gyfraddau llog gostyngol, yn ogystal a phwmpio £4 miliwn i mewn i raglen academiau dinesig Blair.
Mae'r gyfundrefn addysg yn gyfarwydd iawn efo 'gwasanaethau' Capita. Nhw oedd yn gyfrifol am roi gwyliau estynedig i ddegau o filoedd o blant trwy fethu a delio efo ceisiadau CRB yn ol yn 2002, eu system atal triwantiaeth nhw oedd yn gyfrifol am anfon llythyr at rieni hogan oedd wedi marw yn bygwth na chai fynd i'r prom blynyddol oni bai ei bod yn mynychu'r ysgol yn amlach, nhw wnaeth 'uwchraddio' eu system Simms mewn modd oedd yn ei gwneud yn amhosibl i ysgolion adfer data roeddynt yn statudol gyfrifol am ei gyflwyno i'r llywodraeth i enwi dim ond llond dwrn o'r llu o gamgymeriadau maent wedi bod yn gyfrifol amdanynt. Gwnaeth eu bos - Paul Pindar gryn argraff yn y cyfryngau yn ddiweddar pan gafodd strop cyhoeddus ar ol cael ei alw'n fat cat ac yntau 'ond' yn ennill £14k yr wythnos.
'Dydi o ddim syndod o gwbl bod gan Capita enw drwg am anfon llythyrau'n mynnu taliadau at bobl sydd eisoes wedi talu ac i dai nad oes ganddynt deledu, a 'dydi o ddim syndod chwaith nad oes ganddyn nhw syniad faint o bres maent yn ei hel yng Nghymru.
Perswadio llywodraethau a chyrff eraill i roi contractau iddynt ydi arbenigedd Capita - nid gweinyddu'r contractau hynny mewn modd effeithiol.

Superb, what a weblog it is! This website presents helpful facts to us, keep it up.
ReplyDeleteAlso visit my web site - read what he said
Superb, what a weblog it is! This website presents
ReplyDeletehelpful facts to us, keep it up.
My website; read what he said
Also see my page > payday loan no faxing