Monday, December 19, 2011

Huw Edwards a marwolaeth Kim Jong yr Ail

Mae'n anodd gwybod pa gysur y gellir ei gymryd o'r newyddion  brawychus am farwolaeth anisgwyl arweinydd Gogledd Korea, Kim Jong yr Ail.  Hyd y gallaf farnu yr unig Gymro a all gymryd unrhyw beth cadarnhaol o gwbl o'r digwyddiad dychrynllyd ydi'r darllenwr newyddion enwog,  Huw Edwards.



Ar ol ei lwyddiant rhyfeddol yn ein harwain trwy'r briodas frenhinol yn gynharach eleni, byddai Huw'n  siwr o gael y joban o wneud y datganiad ffurfiol yn ogystal a'n harwain trwy'r cynhebrwng, petai rhywbeth ofnadwy - Duw a'n gwaredo -yn digwydd i'n hannwyl Frenhines.

Y broblem i Huw fyddai'r diffyg model o sut i ymddwyn yn y sefyllfa arbennig yma - wedi'r cwbl  ni fu marwolaeth brenin neu frenhines mewn bron i drigain mlynedd.  Yn ffodus i Huw mae corfforaeth darlledu cenedlaethol Gogledd Korea yn debyg iawn i'r BBC o ran pwrpas, cynnwys  ac yn wir o ran arddull a goslef ei darlledwyr pan maent  yn ymdrin a'r teulu sy'n arwain y wladwriaeth.

Felly mae'r datganiad heddiw gan deledu Gogledd Korea yn berffaith i bwrpas Huw, a 'dwi'n siwr y bydd yn ei astudio'n fanwl gyda'r bwriad o'i efelychu yn weddol agos pan, ac os, y daw'r amser i wneud hynny.  'Dwi'n siwr y bydd y darllediad o gynhebrwng Kim Jong o gryn ddiddordeb proffesiynol iddo hefyd.


1 comment:

  1. maen_tramgwydd2:25 pm

    Mae'r BBC yn mynd yn fwyfwy fel organ y llywodraeth Brydeinig bod dydd.

    Faint ohonom sydd wedi sylweddoli nad oes modd bellach roi sylwadau ar flogiau gwleidyddol y BBC yn yr Alban? Cynt roedd rhan fwyaf o'r sylwadau arnynt yn gefnogol i'r SNP. Yn naturiol roedd rhaid i'r Gorfforaeth roi stop ar hynny.

    Hyd y gwn i dydy'n nhw ddim wedi rhoi unrhyw eglurhad.

    Wrth gwrs, ni ddigwyddodd y fath beth yng Nhgymru, lle mae rhan fwyaf o sylwadau ar flog Betsan Powys yn gyson yn wrth-genedlaethol, wrth-Gymreig ac wrth-ddatganoli.

    Byddaf yn edrych reit aml ar newyddion o dramor, fel Press TV (Iran), i gael tipyn o gydbwysedd ar ddigwyddiadau yn ein byd.

    Mae'n rhyfeddol beth mae'r BBC yn anwybyddu ac ni chlywid unrhyw son amdanynt ar ei newyddion neu ar ei rhaglenni materion cyfoes.

    Rydym yng Nghymru yn talu treth uchel am wasanaeth sal iawn gan y BBC, yn enwedig y Newyddion, lle mae Cymru, a phethau Cymreig yn cael llai a llai o le neu eu hanwybyddu yn gyfan gwbl.

    Felly dylid datganoli y cyfrifoldeb am ddarlledu i Lywodraeth Cymru.

    Dwi wedi hen laru clywed son am y tywysog hwn neu'r llall o linach Saesnig/Almaenig sydd a ychydig o gysylltiad a fy ngwlad. Yn fy marn i, fel gweriniaethwr, roedd gan a Ffrancwyr yn 1793 a'r Rwsiaid yn 1917 yr ateb cywir i'r fath rai.

    Ni fydd dagrau yn fy llygaid pan fydd Huw'n pendroni ar y newyddion am farwolaeth y wraig o Windsor. Fydd dim colled i mi ar ei hol. Gwaetha'r modd ni chaiff pobl Cymru siawns i ddewis ei holynydd.

    ReplyDelete