Felly mae Jeremy Clarkson wedi agor ei geg fawr drachefn - ar y One Show y tro hwn.
Nid y ffaith bod Jeremy eisiau mynd a fi allan a fy saethu o flaen fy nheulu sydd yn fy mhoeni yn benodol - mae ganddo'n anffodus wendidau seicolegol sy'n gwneud iddo gasau pobl a grwpiau o bobl am resymau cwbl afresymegol - felly 'dydw i ddim yn cymryd pethau yn bersonol.
Yn hytrach y BBC sydd yn fy mhoeni (unwaith yn rhagor). Mae Jeremy Clarkson wedi mynegi ei gasineb at Gymru yn gyffredinol (ceisio rhoi delwedd o'r wlad mewn popty ping ac ati) a thuag at y Gymraeg yn benodol. Mae Alex Jones yn Gymraes sy'n siarad ac yn defnyddio'r Gymraeg, ac mae gan unrhyw gyflogwr ddyletswydd gofalaeth tuag at y sawl sy'n gweithio iddo. Ymddengys i mi ei bod yn afresymol gofyn iddi holi dyn sydd yn ei chasau oherwydd ei hiaith a'i chenedligrwydd. Go brin bod y profiad yn un pleserus iddi hi.
Petai Alex yn ddu, a fyddai disgwyl iddi holi aelod o'r klu klux klan? Mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf mai negyddol ydi'r ateb i'r cwestiwn hwnnw.

Gwranda.....mae Alex Jones yn ddigon parod i'w holi. Mae derbyn arian mawr yn gwneud i ddyn ( neu fenyw) wneud llawer o bethau y byddent yn y gorffenol yn anfodlon i'w gwneud. Edrych ar Huw Edwards fel engraifft heb enwi llawer un arall.
ReplyDeleteYda chi am flogio am y ras i arwain y Blaid? Dwi'n hynod siomedig efo'r dewis hyd yn hyn:
ReplyDeleteDafydd El - sei no mor / Duw a'n helpo ni
Elin - fel IWJ person dymunol a chydwybodol ond dim carisma a hoples ar Question Time
Seimon Thomas - y dyn wnaeth golli Ceredigion. Boring a hunan-bwysig
Siawns fod na rhywun allan yna sydd efo'r gallu i ysbrydoli'r ffyddloniaid ac apelio i ambell i gefnogwr newydd??
Anhysb - Gwranda.....mae Alex Jones yn ddigon parod i'w holi. Mae derbyn arian mawr yn gwneud i ddyn ( neu fenyw) wneud llawer o bethau y byddent yn y gorffenol yn anfodlon i'w gwneud.
ReplyDeletePres mawr neu beidio ddylai contract rhywun ddim ei gorfodi i ymwneud efo rhywun sydd a chasineb afresymegol tuag ati ar sail ei lliw, crefydd, iaith ac ati.
Hello Anon 7:12 pm
ReplyDeleteBeth ? - rwy'n credu mae Elin Jones yw'r un i arwain Plaid Cymru.
Mae ganddi ddigonedd o garisma, a synnwyr cyffredin.
Paid dweud dy fod yn gwylio Question Time gan feddwl eu bod yn rhaglen cytbwys.
Ice Cold in Alex - dwi'n cytuno bod gan Elin ddigon o synwyr cyffredin a'i bod yn wleidydd gwbl ddiffuant OND charismatic??
ReplyDeleteWrth gwrs tydi Question Time ddim ym raglen gytbwys, ond byddai gwleidyddion fel Wigley, Salmond, Price a hyd yn oed dyffar fel Elfyn Llwyd wastad yn gallu landio ambell i ergyd a chael clap neu ddau.
Mae gwahanol gyfnodau yn galw am wahanol fatha o arweinydd ac, ar hyn o bryd, mae gwir angen arweinydd cryf a charismataidd ar y mudiad cenedlaethol.
Cai- mae dweud bod Jeremy Clarkson yn casau iaith a chenedligrwydd Cymru yn hurt. Mae'r boi jest wedi gweld niche iddo'i hun yn dweud pethau pryfoclyd am amryw o grwpiau gwahanol mewn cymdeithas. Pa dystiolaeth sydd yna i gredu fod ganddo farn benodol amdanom ni rhagor nag unrhyw un o'r grwpiau eraill y mae o'n eu cystwyo? Mae dweud ei fod o'n ein "casau" ni jest yn porthi'r victim mentality hyn sy'n gwneud dim i greu Cymreictod eofn a hyderus mae gen i ofn.
ReplyDeleteAdam price pan geith o sedd a dafydd wigley yn ol am 3 blynedd tan neith hynnu ddigwydd.
ReplyDeleteDafydd El - wath i ni gael prince charles na hwnnw.
Simon Thomas - erm na
Elin Jones - diolch byth dim ffermwyr yndi rhan fwyaf o gymru a sa neb arall di clywed amdani.
Na, dafydd wig am 3 blynedd wedym AP i mi.
'Dwi 'mond yn cymryd y dyn ar ei air Aled.
ReplyDeleteMae'n bosibl fod y boi ond yn smalio casau'r holl bobl mae'n myllio amdanynt- ond mae'n well gen i gymryd bod pobl yn dweud y gwir ynglyn a materion fel hyn.
Blog hysteraidd braidd. O wylio'r clip yn ei gyfanrwydd, mae'n amlwg fod Twitter a'r cyfryngau wedi chwyddo jôc reit ddoniol y tuu hwnt i bob rheswm. Dyma ddigwyddodd:
ReplyDelete- Clarkson yn canmol y streic am ei bod hi'n ddistaw yn Llundain
- Dweud y byddai'n well iddo ddweud rhywbeth anffafriol er mwyn cadw balans y BBC.
- Dweud y byddai'n saethu'r streicwyr.
Mae'r bobl sydd wedi bod yn condemnio Clarkson wedi gwneud ffyliaid llwyr ohonynt eu hunain.
Wel dydw i ddim yn mynd ar ol y 'joc' yn benodol - pwynt arall sydd i'r blogiad.
ReplyDeleteOnd cyn dy fod yn codi'r mater efallai y byddet yn egluro pam bod dweud y dylid saethu pobl nad wyt yn eu hoffi yn ddigri. Dydi hi ddim yn ffraeth, gwreiddiol na diddorol.
Yn bersonol or ACau i gyd: Lindsay Whittle fyswn i eisiau. Bwcedi o garisma, hynod o radical, ac yn dod o (sort of!) cymoedd y de.
ReplyDeleteI love it whеn рeople come together and shaгe
ReplyDeleteideas. Grеat websіtе, continue
thе goοԁ work!
Also visit my web-ѕіte blu e cig
Thіs іs my first time visit at here and i am actually pleasѕant to
ReplyDeletereaԁ eνerthing at single plаce.
My ωebpage: related website
buy valium legal buy valium thailand - valium use in dogs
ReplyDelete