- am roi Blogmenai ar frig ei flogiau amatur cyfrwng Cymraeg eto eleni. Diolch iddo hefyd am gynnig cyfarwyddiadau cywir a perthnasol iawn ynglyn a sut y dylid ymateb os byth y daw'r blog i ben. Nid bod rhaid i chi boeni - rhag ofn i'r gwaethaf ddod i'r gwaethaf mae olynydd eisioes wedi ei ddewis i gynnal y blog -fe'i adwaenir fel yr Olynydd Gogoneddus.
ON Mae'n dda iawn nodi i Anffyddiaeth ddod yn ail. Er nad ydw i yn cytuno efo Dylan pob tro 'does yna ddim llawer o bobl gyda gafael digon da ar y Gymraeg i 'sgwennu dadleuon digon cymhleth mewn ffordd mor eglur a darllenadwy.
I ti mae'r diolch, Cai - fel arfer byddai sylwebydd gwleidyddol cystal yn cael ei dalu'n hael, ond rwyt ti'n gwneud y gwaith am ddim!
ReplyDeleteTi'n rhy ffeind o lawer Ifan.
ReplyDeletea thithau efo fi! Diolch!
ReplyDelete