Mae’r dull wedi ei ddefnyddio dro ar ol tro ar ol tro mewn etholiadau lleol yn ardaloedd trefol Cymru, ac mae’r patrwm yn rhyfeddol o gyson – os ydi un aelod o blaid arbennig yn cael ei ethol tros ardal, yna mae’n hynod debygol y bydd pob aelod arall tros yr ardal honno yn cynrychioli’r un blaid. ‘Does ond rhaid i ni edrych ar y ddinas lle mae pencadlys y Blaid Lafur yng Nghymru wedi ei leoli ynddi i ddangos hyn yn weddol glir. ‘Dwi’n rhestru isod ganlyniadau’r etholiadau yng Nghaerdydd yn 2008 yn y wardiau aml aelod. Mae yna lond dwrn o wardiau un aelod yn y brif ddinas – ‘dwi ddim yn cynnwys y rheiny yn y tabl.
Ward | Lib Dems | Llafur | Toris | Plaid | Annibynnol |
Adamsdown | 2 | ||||
Caerau | 2 | ||||
Treganna | 3 | ||||
Cathays | 4 | ||||
Cyncoed | 3 | ||||
Elai | 3 | ||||
Tyllgoed | 3 | ||||
Gabalfa | 2 | ||||
Grange | 3 | ||||
Heath | 1 | 2 | |||
Llandaf | 2 | ||||
Llandaf (Gog) | 2 | ||||
Llanishen | 4 | ||||
Llanrymni | 3 | ||||
Pentwyn | 4 | ||||
Penylan | 3 | ||||
Plasnewydd | 4 | ||||
Pontprennau | 2 | ||||
Rhiwbina | 3 | ||||
Glan yr Afon | 3 | ||||
Rhymni | 2 | ||||
Splott | 1 | 2 | |||
Trowbridge | 1 | 2 | |||
Eglwys Newydd | 4 |
Felly o’r 70 aelod sydd wedi ei ethol mewn seddi aml aelod mae 61 (87%) yn cynrychioli wardiau lle mai aelodau o’u plaid nhw yn unig sydd wedi eu hethol. Rhywbeth tebyg i hyn ydi’r patrwm yn gyffredinol.
Mae yna reswm cwbl syml pam bod Llafur yn ffafrio’r dull hwn – mae o fantais etholiadol iddyn nhw. Llwyth o gelwydd ydi’r holl rwdlan i’r gwrthwyneb.
A fyddai'r deg cael ryw fath o system 'PR' dau aelod ym mhob sedd? Felly e.e. yng Ngheredigion fe fyddai yna un aelod PC ac un aelod LD. Dw i'n siwr y byddai yna ddau aelod Llafur yn rhai o gymoedd y de, a dau aelod PC yn Dwyfor-Meirionydd, ond fe allai fod yn system tecach? Y broblem wrth gwrs yw y byddai yn tynnu dipyn o'r angerdd allan o'r frwydr etholiadol ei hun!
ReplyDeleteMi fyddai hynny'n cynhyrchu canlyniad mwy cyfrannol. Byddai'n rhaid i ti gael 50%+ i gael y ddau aelod. O dan y cynlluniau Llafur gallai circa 35% roi'r ddau aelod i blaid.
ReplyDeleteSut mae'r cynlluniau dau aelod ma yn gweithio? Hynny yw, dwi'n deall sut byddai dull PR yn gweithio, gan olygu y byddai gofyn i'r blaid ar y blaen gael 50%+ er mwyn cael y ddau aelod, ond beth yw'r dull sy'n rhoi'r ffigur 35%?
ReplyDeleteIwan Rhys
Pawb efo dwy bleidlais a'r ddau sydd ar ben y rhestr yn cael eu hethol.
ReplyDelete