Hmm - a chadw at ysbryd y tymor mae George Osborne wedi gwneud datganiad ar yr economi sy'n newyddion da o lawenydd mawr. Ymysg yr uchafbwyntiau ceir y canlynol:
- £111bn mwy nag oedd wedi ei ragdybio i'w fenthyg gan y wladwriaeth tros bedair blynedd.
- Y broses o daflu gweithwyr ar y clwt i'w wneud yn haws i gyflogwyr.
- Codiadau cyflogau sector cyhoeddus i'w cadw o dan 1% tros ddwy flynedd - a hynny yn dilyn cyfnod o ddim codiadau o gwbl.
- 300,000 o swyddi cyhoeddus i'w torri
- Rhewi credydau treth i bobl ar gyflogau isel.
Wrth gwrs, llywodraethau Toriaidd a Llafur yn y degawdau diweddar a greodd y problemau.
ReplyDeleteMae'r Toriaid yn brysur gwaethygu'r broblem
D'oes dim dyfodol i Gymru a'i phobl yn y DU.