Sunday, October 09, 2011

Cais bach i ddarllenwyr Blogmenai

Efallai fy mod yn pregethu i berson yma, ond mae'r adroddiad ar wefan y Bib bod y defnydd o'r gwasanaethau Cymraeg sy'n cael eu cynnig gan gwmniau mawr yn isel iawn  yn siomedig.  Roedd y Bib wedi holi nifer o gwmniau - Tesco, Nat West, Nwy Cymru, HSBC ac ati ynglyn a faint o ddefnydd a wnaed o'u gwasanaethau, ac roedd y canlyniadau yn ddi eithriad yn siomedig, er nad ydi pob cwmni yn coledu'r wybodaeth.

 
Mae'r ffaith bod y ganran sy'n defnyddio'r gwasanaethau yn llawer is na'r ganran sy'n siarad Cymraeg yn awgrymu bod Nat West a Tesco yn fwy goleuedig ynglyn a hawliau ieithyddol yng Nghymru nag ydi'r Cymry Cymraeg eu hunain - ac mae hynny yn fater o gywilydd i ni fel grwp ieithyddol.

Felly bois - os oes 'na wasanaethau dwyieithog ar gael, gwnewch ddefnydd ohonyn nhw wir Dduw. 

18 comments:

  1. lionel, Newport12:56 am

    clywch clywch, ma pethau fel hyn yn mynd i gael eu taflu nol atom fwyfwy os ydy Meri yn gneud ei job yn iawn. Mae'n wir bod y lein Gymraeg, neu cael gafael ar yr unig siaradwr Cymraeg yn y lle yn anodd ac i ddeud y gwir yn embarassing weithiau, ond os dan ni ddim yn iwsio'r hyn sydd ar gael yn barod, ma hynny'n rhoi ammunition i elynion y Gymraeg a modd i roi stop ar ehangu'r gwasanaethau dan ni eu hangen

    ReplyDelete
  2. Anonymous7:29 am

    Mae hyn yn hen hanes.

    Pan roedd y feddalwedd cod agored Cymraeg cyntaf ar gael, ac yna Microsoft Windows ac Office roedd ymchwil yn dangos bod NEB yn eu defnyddio:

    http://maes-e.com/viewtopic.php?f=15&t=22148&p=323149

    Mae'r Bwrdd wedi bod yn ceisio annog pobl i ddefnyddio eu dewis,

    http://www.byig-wlb.org.uk/cymraeg/defnyddio/pages/maegentiddewis.aspx

    siomedig oedd dysgu faint o bobl roedd yn eu dewis

    Gyda llaw, yn y darlun, "Codi arian - na derbynneb'. Siawns felly nad oedd gwirio'r cyfieithiad Cymraeg ddim yn ddigon o flaenoriaeth.

    ReplyDelete
  3. Ia, hen broblem. Ond un sy'n ddealladwy o bosibl?

    Mae diffyg hyder gan nifer fawr yn eu Cymraeg ysgrifenedig - yn enwaedig fy nghenhedlaeth i (dwi'n 45) a'r rhai sy'n hyn. I nifer mae Saesneg 'swyddogol' yn haws na Chymraeg 'swyddogol'.

    Fyddai bob tro yn dewis y Gymraeg wrth dynnu arian o'r twll yn y wal (ble mae hynny'n bosibl) - ond mae rhai ffurflenni yn gallu fy ngyrru i'n benwan weithiau.

    ReplyDelete
  4. Rhaid bod yn ofalus am roi'r bai ar y Cymry Cymraeg yma. Ewch i wefan y Natwest - heria i chi ffindio'r tudalenni Cymraeg - ddim yn hawdd a llai o lawer ar gael yn yr iaith Gymraeg na'r Saesneg. Bydd pobl ddim yn defnyddio gwasanaeth eilradd. Y cwestiwn yw be' mae'r cwmniau mawr yn ei wneud i annog y defnydd o'r iaith?

    ReplyDelete
  5. Anonymous6:40 pm

    Ie, dim ond un profiad negyddol sydd ei angen ar rywun, e.e.
    - gweld bod rhywbeth yn cael ei gynnig yn y gwasanaeth Saenseg nad yw'n cael ei gynnig yn y gwasanaeth Cymraeg,
    - gwybodaeth fwy cyfoes yn y fersiwn Saesneg (wele achos y Comisiwn Etholiadol),
    - aros yn hirach i rywun ateb y llinell ffôn Gymraeg
    ac ati, wedyn mae'n anodd beio pobl am beidio defnyddio gwasanaeth y cwmni/sefydliad penodol hwnnw eto.

    Iwan Rhys

    ReplyDelete
  6. Anonymous7:07 pm

    Oes yna broblem gyda Chymraeg rhy berffaith?

    Dwi wedi gweld nifer o'm ffrindiau yn troi at fersiwn Saesneg o ffurflen swyddogol er mwyn deall yn union beth mae'r geirau 'mawr' yn ei feddwl!

    Oes angen rhywbeth tebyg i Campaign for Real English?

    ReplyDelete
  7. Anonymous8:00 pm

    "....os dan ni ddim yn iwsio'r hyn sydd ar gael yn barod, ma hynny'n rhoi ammunition i elynion y Gymraeg a modd i roi stop ar ehangu'r gwasanaethau dan ni eu hangen"



    http://www.gogwatch.com/2011/10/10/time-to-call-time-on-the-excesses-of-the-welsh-language-lobby/

    ReplyDelete
  8. Efrogwr - dydi hi ddim yn anodd defnyddio peiriant ATM Cymraeg - eto yn ol HSBC mae 1,700 o 600,000 yn defnyddio'r opsiwn Cymraeg.

    Mae'n rhaid i ni gymryd cyfrifoldeb ein hunain am bethau fel hyn mae gen i ofn.

    ReplyDelete
  9. Anonymous8:41 pm

    "Yn ôl HSBC mae ganddyn nhw tua 600,000 o gwsmeriaid yng Nghymru ac ar ddiwrnod arferol ym mis Medi tua 1,700 o bobl ddewisodd yr opsiwn Cymraeg yn y peiriant twll yn y wal."

    Ond nid yw pob un o'r 600,000 mil yn defnyddio'r twll bob diwrnod. Efalle nad wyf i'n 'typical' ond y tro diwethaf i mi ddefnyddio'r twll yn y wal oedd tair wythnos yn ol. Os fyddai pawb fel y fi, yna 1700 o bobl allan o tua 28000 yw'r ffigwr i edrych arno. Nid yw'r ffigwr hynna mor wael ag y mae'n edrych ar yr edrychiad cynaa'.

    ReplyDelete
  10. Anonymous8:44 pm

    Yn ychwanegol i'r uchod....faint o'r 600,000 cwsmer sydd a cyfrif o'r math sydd a cerdyn atm? Beth yw cwsmer? Pa fath o gyfrif?

    ReplyDelete
  11. Hyd yn oed petai pawb yn defnyddio ATM mor anaml a thi (a dwi'n amau hynny), 5% fyddai'r ffigwr - mae'n debyg bod 5 gwaith cymaint a hynny efo'r gallu i ddefnyddio'r fersiwn Gymraeg.

    ReplyDelete
  12. Anonymous9:52 pm

    Dydy pob ATM HSBC (na unrhyw fanc arall) yng Nghymru yn rhoi'r dewis Cymraeg i ti, hyd yn oed yn rhai trefi'r cadarnleoedd.

    Felly faint o'r 600,000 cwsmer sy'n gallu hyd yn oed gweithredu dewis.

    Mae'n fy atgoffa o'r rhesymau rhoddwyd (gan Gymry Cymraeg) am atal cyfieithu'r Cofnod. 'Does neb yn darllen y fersiwn Cymraeg...' er roedd y testun yn gyfochrog yn yr un ddogfen gyda'r fersiwn Saesneg.

    Mae 'na lot o Gymry Cymraeg sydd ddim yn gallu darllen a deall Cymraeg. Mae 'na Gymry Cymraeg sydd yn gallu iawn, ond dal yn dewis y Saesneg pan mae rhywbeth yn dechnolegol.

    Mae 'na fai ar y darparwyr hefyd am roi gwasanaethau Cymraeg ofnadwy neu tocynistaidd.

    Mae 'na fai ar dechnoleg am fethu hyd yn hyn hwyluso normaleiddio a chynorthwyo'n well dewisiadau ieithyddol.

    Ond does ddim esgus i'r rhai sy'n ceisio twyllo ffigyrau a'r wybodaeth defnydd er mwyn cynorthwyo naratif a nod o dynnu nôl gwasanaethu yn y Gymraeg.

    ReplyDelete
  13. Ond does gennym ni ddim rheswm i feddwl bod HSBC yn bwriadu tynnu eu gwasanaethau yn ol. Yn wir y patrwm tros y blynyddoedd diwethaf ydi mwy ac nid llai o ddefnydd o'r Gymraeg gan gwmniau mawr.

    'Dwi'n cytuno nad ydi pob gwasanaeth yn foddhaol, ac nad ydynt yn cael eu marchnata cystal ag y gallant.

    Ond mae yna gyfrifoldeb arnom ni fel Cymry Cymraeg i edrych ar ol ein buddiannau ein hunain. Dydi trosglwyddo'r gyfrifoldeb yna i eraill yn gwneud dim i hyrwyddo'r Gymraeg - i'r gwrthwyneb.

    ReplyDelete
  14. Dwi'n methu cael gwasanaeth Cymraeg pan yn defnyddio twll yn y wal HSBC gyda fy ngherdyn Natwest Visa/Debit. Dim ond Saesneg sydd ar gael! Dwi wedi cwyno, ond dywedwyd "defnyddia wasanaeth natwest felly" ond un HSBC sydd mwyaf cyfleus i mi, enghraifft arall o orfod mynd allan o'ch ffordd er mwyn cael gwasanaeth Cymraeg.

    Y broblem ydy nad yw pobl yn disgwyl bod gwasanaeth Cymraeg yn bodoli, felly does dim syndod bod y defnydd o'r ychydig wasanaethau tameidiog sy'n bodoli yn isel. Mae cael mynediad at y gwasanaethau Cymraeg sydd yn bodoli hefyd yn aml yn llawer anos na'r gwasanaethau Saesneg. Rhaid normaleiddio'r Gymraeg fel bod pobl yn gwybod bod modd defnyddio'r Gymraeg yn y sector gyhoeddus a'r sector breifat heb feddwl, a wedyn byddwn yn gweld llawer iawn mwy o ddefnydd o wasanaethau Cymraeg.

    ReplyDelete
  15. Anonymous10:16 pm

    Nid oedd gwananaeth Cymraeg i gael yn y atm HSBC yng Nhastellnewydd Emlyn.

    ReplyDelete
  16. Dienw Caerdydd3:59 pm

    O'r 600,000 o gwsmeriaid sydd gan HSBC yng Nghymru byddai rhyw 120,000 yn medru'r Gymraeg - a derbyn eu bod yn cydymffurfio'n fras a chanlyniadau'r cyfrifiad diweddaraf. A derbyn fod rhyw 90% o'r rhain yn defnyddio'r twll-yn-y-wal (A dyweder, 10% - tebyg i minnau -byth yn ei ddefnyddio), mae hyn yn golygu fod 120,000 x 90% = c.108,000 o Gymry Cymraeg yn gwsmeriaid 'twll-yn-y wal gan y Banc. Dyweder ymhellach fod y cwsmeriaid hyn yn tynnu arian allan unwaith bob pythefnos (fel y byddaf i yn gwneud trwy ddefnyddio sieciau yn y banc), mae hyn yn golygu fod c. 7700 o gwsmeriaid Gymraeg yn defnyddio twll-yn-y-wal bob dydd. O'r rhain, a defnyddio ystadegau'r Banc ei hunan, byddai rhyw 1800 felly yn defnyddio gwasanaeth Cymraeg, h.y. c. 21% - canran lawer mwy parchus na'r hyn a awgrymir gan y banciau trwy gamddefnyddio'r ystadegsu.

    ReplyDelete
  17. Anonymous10:21 pm

    Dwi'n defnyddio atm yn achlysurol. Fel arfer, byddaf yn defnyddio 'cash-back'. Hefyd, rwy'n fodlon betio fod llawer llai na 600 mil o gwsmeriaid gan HSBC. Faint o'r cyfrifion yma sydd yn 'dormant'?

    ReplyDelete
  18. Anonymous10:31 pm

    "Oes angen rhywbeth tebyg i Campaign for Real English?"

    Plain English ti'n feddwl, ie? Mae yna rywbeth o'r enw Cymraeg Clir. Ond, dwi'n meddwl bod rhaid bod yn ofalus gyda Cymraeg Clir. Os ydy pethau'n mynd i gael eu hysgrifennu mewn cywair is a geiriau symlach yn Gymraeg nac yn Saesneg, wnaiff pobl byth ddod i arfer a Chymraeg swyddogol. Mae eisiau rhyw fath o gyfaddawd rhwng y ddau. Defnyddiwyd Cymraeg Clir ar gyfer y Cyfrifiad (http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9420000/newsid_9421900/9421939.stm) ond mae'n debyg mai bach iawn oedd y ganran o bobl lenwodd y ffurflen yn Gymraeg.

    ReplyDelete