Mae canlyniadau'r gystadleuaeth yma yn dechrau cael eu rhyddhau, gyda Blogmenai yn ddeuddegfed ymysg blogiau adain chwith. Mae Syniadau, Welsh Ramblings, Plaid Wrecsam a Leanne Wood hefyd ar y rhestr.
Mae'n fater o gryn gywilydd i Flogmenai ddod dri lle oddi tan yr arch falwr cachu Alastair Campbell. Ta waeth, mae amser yn gwella pob clwyf.
Ar nodyn arall, mae'n ymddangos na fydd yna restr benodol ar gyfer blogiau Cymreig y tro hwn. Efallai yr af ati i lunio un o'r prif restrau - os ydi'r canlyniadau yn ffafriol wrth gwrs!

Mewn post cynharach yr wyt yn nodi Fel cenedl rydym yn gymharol rhydd o lygredd - 'dydi cymryd amlenni brown sy'n llawn pres ddim at ein dant o gwbl.
ReplyDeleteSut felly bod blog mor bisar â BlogMenai wedi dod mor uchel yn y gystadleuaeth?
Damnia Cysill! Grawnwin Surion oedd awdur y sylw diwethaf i fod!
ReplyDeleteHmm - mi fydd rhaid i mi feddwl am honna.
ReplyDelete