Mae'r Cynulliad yn hel pob math o ystadegau, a 'dydi'r wybodaeth mae rhieni yn ei gyflwyno pan maent yn cofrestru eu plant mewn ysgolion am y tro cyntaf ddim yn eithriad yn hynny o beth - mae'n cael ei ychwanegu at y mor o ystadegau sydd wedi ei hel a'i goledu. Mae'r ystadegau hynny ambell waith yn rhoi cip digon diddorol ar ein bywyd cenedlaethol.
Pwrpas un o'r cwestiynau ar y ffurflen gofrestru ydi dod i gasgliadau ynglyn a sut mae rhieni yn diffinio hunaniaeth genedlaethol eu plant. Dengys y tabl isod hunaniaeth Gymreig plant (yn ol eu rhieni) a gofrestwyd am y tro cyntaf yn 2010 yn ol etholaethau seneddol.. Roedd mwyafrif llethol y dewisiadau eraill yn Prydeinig neu Seisnig.
Rwan 'dwi wedi rhestru'r etholaethau yn ol tueddiadau gwleidyddol - ac mae yna berthynas agos rhwng tueddiad i bleidleisio i Lafur neu Blaid Cymru a hunaniaeth Gymreig - ond mae yna batrymau eraill hefyd. Er enghraifft mae tueddiad amlwg i bobl sy'n byw ar y maes glo ac yn y Gymru Gymraeg ddiffinio eu plant fel Cymry. Ceir perthynas hefyd rhwng amddifadedd cymdeithasol a hunaniaeth Gymreig.
Yn naturiol mae hunaniaeth Gymreig yn wanach ar y ffin, ond mae hefyd yn gymharol wan mewn etholaethau dinesig - dim ond etholaeth hynod dlawd Dwyrain Abertawe sy'n uwch na'r cymedr. Mae'n ddiddorol bod pedair etholaeth y brif ddinas yn agos at ei gilydd ac yn is na'r cymedr - gyda Wrecsam, Aberconwy a Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro yn gyfartal neu'n uwch na'r cwbl ohonyn nhw. .
Os ydych yn gweld patrymau neu dueddiadau eraill - teimlwch yn rhydd i'w gwyntyllu nhw ar y dudalen sylwadau.
Ystadegau oll gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Pontypridd, Llanelli ac Islwyn yn siomedig o isel.
ReplyDeleteMae hunaniaeth Gymreig yn gryfach yng nghanolbarth y cymoedd na'r cymoedd sy'n ffinio ar Fynwy/Y Fro Gymraeg. Oes 'na fewnfudwyr yn symud i mewn i'r ardaloedd yma neu ydyn nhw jyst yn teimlo'n llai Cymraeg mewn cymhariaeth a phobl sy'n byw tua'r gorllewin? Mae yna "buffer zone" Cymreig o gwmpas cymoedd Rhondda, Ogwr ayyb.
ReplyDeleteOn i'n byw yn Islwyn (Risca) am 5 mlynedd, 2004-09, ag oedd nifer sylweddol o bobl o Loegr yn symud mewn yr adeg 'ny. Pobl o Birmingham a Llundain ar y mwyaf. Wedodd mwy nag un ohonynt bod nhw wedi symud i ddianc o'r 'immigants'.
ReplyDeleteDwi'n credu bod eisiau bod yn ofalus yn defnyddio'r ystadegau uchod am nad ydynt yn llunio'r darlun cyfan. E.e mae pobl yn dueddol o ddatblygu ar ran eu hunaniaeth wrth iddynt fyw mewn ardal yn hirach neu ennyn profiadau newydd. Hefyd nad oes ond plant yn byw yn yr ardaloedd hyn. Byddwn i'n argymell defnyddio'r Labour Workforce survey o 2004 sydd yn rhoi darlun mwy cyfan o'r gymdeithas i gyd yn hytrach na chanolbwyntio ar ddisgyblion.
ReplyDeleteGan bod y ffigwr uchod yn bendant braidd yn isel na'r cyfraddau cenedlaethol. E.e oddi ar Wikipedia.
According to the 2001/02 Labour Force Survey, 87 per cent of Wales-born residents claimed Welsh ethnic identity.[45] Respondents in the local authority areas of Gwynedd, Ceredigion, Carmarthenshire, and Merthyr Tydfil each returned results of between 91 and 93 per cent.
"87 per cent of Wales-born residents claimed Welsh ethnic identity"
ReplyDeleteCymro i'r Carn.
ReplyDeleteYn union, 'Wales-born residents' fel arfer yn cyfri eu hunain yn Gymry. Ond mwy a mwy o boblogaeth Cymru ddim wedi'u geni yn y wlad. Os mae pethau yn cario ymlaen, fydd y Cymry yn y lleaifrif, fel y maent yn barod mewn sawl ardal.
Mae Penybont yn ardal Seisnig iawn dyddiau 'ma.
ReplyDeleteMae'r cymoedd wedi colli llawer o hyder dros y 10-15 mlynedd diwethaf. Mae acenion pobl ifanc yn troi'n Seisnig oherwydd mae'n anodd cael swydd yn y dinasoedd efo acen gref. Mae'r Fro yn llawn Saeson. Saeson sy'n cael y swyddi gorau o hyd.
ReplyDeleteY realiti yw bod Cymru yn wlad fwy Seisnig na Lloegr.