Mi fydd y sawl yn eich plith sydd yn byw mewn etholaethau lle mae'r Blaid Lafur yn cystadlu yn hen gyfarwydd efo'r naratif ddi ddiwedd honno bod gan Llafur rhyw bwerau goruwch naturiol bron i hybu'r economi a chreu gwaith.
Ond o edrych ar gyfraddau di weithdra Cymru mae'n weddol amlwg fod y naratif hwnnw wedi ei seilio ar ffantasi. Mae di weithdra yn uchel mewn etholaethau sy'n cael eu cynrychioli gan Lafur, ac mae'n is mewn etholaethau sy'n cael eu cynrychioli gan y pleidiau eraill. Mae'r berthynas rhwng diweithdra a thuedd i bleidleisio Llafur yn un rhyfeddol o gyson a rhagweladwy - fel mae'r tabl isod yn dangos.
Dwi wedi lliwio'r etholaethau i ddynodi'r blaid sy'n cynrychioli pob etholaeth ar lefel Senedd Cymru a San Steffan.
Ffigyrau i gyd yn cyfeirio at gyfraddau budd daliadau di waith i ddynion ac wedi eu cymryd o'r wefan Datablog.

Un problem bach, ers pryd oedd Ieuan yn Dori ;) Mae Sir Fôn yn las ar ochr y Senedd Cymru?
ReplyDeleteShit - mi newidia i fo.
ReplyDeleteA Threfaldwyn yn goch!
ReplyDeleteAhhh!
ReplyDeleteDwi'n hynod o ddall i liw.
Hehe bydd Ieuan yn eich cynddeiriogi chi nawr :P. Tabl da, wi'n synnu serch hynny pa mor isel yw pobl sydd allan o waith o fewn y Fro, hynny yw Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Meirionydd yn enwedig :/. Ond eto i gyd falle bod yma swyddi ond rhai nad ydynt yn talu fel y mae'r swyddi sha C'dydd :/
ReplyDeleteTabl gwych ar gyfer taflen etholiadol fe dybiwn i !!!!!!
ReplyDeleteYdy'r awgrym fod gan aelod seneddol unigol y grym i ddylanwadu yn fawr dros lefel cyflogaeth ei etholaeth yn un teg?

ReplyDeleteNag ydi - ond dyna ydi pitch Llafur yn aml iawn - fotiwch i x er mwyn cael jobs lleol.