Monday, June 27, 2011

Toriaid Cymru yn poeni bod y Cynulliad yn cael ei gynnal a'i gadw


Felly mae'r Toriaid yn flin bod costau cynnal a chadw ynghlwm a'r Cynulliad Cenedlaethol - £25,000 y llynedd a £157,000 ers iddo agor. Yn ol eu llefarydd Nick Ramsey:

Mae’r Senedd bellach yn adeilad eiconaidd ac mae Cymru gyfan yn cymryd balchder ynddo

Ond rydyn ni’n pryderu am faint o arian sy’n cael ei wario ar atgyweirio’r adeilad. Dim ond pump oed yw’r adeilad ac roedd disgwyl iddo barhau am 100 mlynedd. Bydd trethdalwyr yn pryderu fod cymaint o arian cyhoeddus yn cael ei wario ar adeilad gostiodd cymaint yn y lle cyntaf

Mae'n ddifyr deall bod y Ceidwadwyr y Cynulliad yn erbyn gwario ar gynnal a chadw adeiladau llywodraethol. Efallai y byddai o ddiddordeb iddynt wybod beth ydi costau cynnal a chadw y lle arall hwnnw yn Llundain mae'r rhan fwyaf ohonynt yn dymuno bod yn aelod ohono mwy na dim arall yn y Byd mawr crwn:

2004-05 £6,183,000
2005-06 £7,524,000
2006-07 £10,057,000
2007-08 £9,743,000
2008-09 £2,559,000


Neu efallai y byddai hefyd o ddiddordeb iddynt ddeall i bron i £100,000,000 gael ei wario ar gartrefi'r frenhines rhwng 2001 / 2002 a 2007 / 2008.

2 comments:

  1. Diddorol iawn!

    Mae'n siwr, fel yn y sector gyhoeddus yn gyffredinol, bod newid soced trydanol o un ochr i ddrws i'r llall yn costio £400.

    ReplyDelete
  2. Dwi'n siwr dy fod yn gor ddweud - mi allaf dy sicrhau nad yw gosod soced yn costio £400 - yn y rhan o'r gwasanaethau cyhoeddus dwi'n gweithio ynddo o leiaf. Mae peth gwirionedd yn y sylw fodd bynnag.

    Y pwynt mwy perthnasol ydi sut goblyn mae'r Toriaid yn meddwl bod £25,000 mewn blwyddyn yn swm mawr i gynnal a chadw adeilad fel un y Cynulliad? Mae yna lawer iawn o ysgolion yng Nghymru yn gwario mwy na hynny.

    Beth oeddyn nhw yn ei wneud cyn mynd yn ACau - gwneud te mewn swyddfeydd neu weithio ar gynlluniau creu gwaith?

    ReplyDelete