Cynhalwyd is etholiad heddiw yn ward mwyaf dwyreinol Gwynedd - Arllechwedd - yn dilyn marwolaeth y cynghorydd Lib Dem, J R Jones yn gynharach eleni.
Y canlyniad oedd:
Douglas-Pennant, Edmond Hugh | Lib Dems 93 | |
Edwards, David Gwynfor Lewis, Jennie Meurig, Dafydd | Llafur 72 Tori 35 Plaid Cymru 255 |
Mae'n arbennig o galonogol gweld Llafur yn gwneud mor sal ar ol i'w hoelion wyth lleol a chyn aelod seneddol weithio cymaint trostynt yn ystod yr etholiad.
Canlyniad anhygoel o dda, lle i'r Rh Dem boeni hefyd. Pryd mae is-etholiad Penrhosgarnedd?
ReplyDeleteDwi ddim yn siwr os oes yna ddyddiad eto.
ReplyDeletePethau'n edrych yn ddu i'r Torïaid yn Arfon - Douglas Pennant yn sefyll dros y Rhyddfrydwyr!
ReplyDeleteBydd beddau ei gyn teidiau megis chwyrligwgan.
He, he - digon gwir Alwyn.
ReplyDeleteMi fyddwn i'n meddwl bod y ffaith bod y Lib Dems yn apelio at y teulu yma yn dweud llawer am lle maen nhw heddiw cofia.
ia, da iawn, ond beth am Uwchaled?
ReplyDeleteMae 'na is-etholiad yn ward Llangedwad Cyngor Sir Gár ar y 23ain ddydd Iau nesaf hefyd. Mae gan y Blaid ymgeisydd cryf iawn sef Mansel Charles. Gobeithio gallwn gipio'r ward hwn hefyd (cynt yn annibynnol) bydd cyfres o lwyddiannau bychain ond adeiladol ar lawr gwlad yn hwb cadarnhaol i'r Blaid :).
ReplyDeleteOnd beth am golli Uwchaled heb ymdrech?, Dwin dallt na fydd gan y Cynghorydd newydd ryw lawer o gydymdeimlad tuag at ddiwylliant Cymraeg ardal Cerrigydrudion!
ReplyDeleteAngen ymgeisydd ar gyfer etholiadau 2012 i neud siwr fod y Blaid yn dal i arwain Cyngor Sir Conwy.
Cytuno a Phlaid Gwersyllt, braidd yn anghyfrifol oedd peidio a sicrhau ymgeisydd o leia gan fod hyn mewn gwirionedd nawr yn golygu bod buddugoliaeth Arfon yn cael ei gwrthbwyso gyda cholled Uwchaled.
ReplyDeleteMater o drefniadaeth ydi dod o hyd i ymgeiswyr yn y bon.
ReplyDeleteOs nad ydi cangen leol yn gallu dod o hyd i ymgeisydd (neu lle nad oes cangen leol) yna dylai'r Blaid ar lefel etholaeth ymgymryd a'r dasg o ddod o hyd i rhywun.
Newydd gael rhyw bwt o sgwrs ac mae'n ymddangos i'r Blaid ddod o hyd i ddau i sefyll yn Uwchaled ac i'r ddau orfod tynnu yn ol - un ohonynt ar y munud diwethaf.
ReplyDeleteBeth sy'n anhygoel yma yw bod yna fwy o bobl yn fodlon pleidleisio dros rhywun gyda Douglas-Pennant yn ei enw nac ymgeisydd y blaid Lafur ! .( Mae hi'n fwy du byth ar y blaid Lafur, felly ). Bydd Penrhosgarnedd yn ddipyn o frwydyr - mae'r lle'n wedi newid yn sylweddol ers i Dai Rees-Jones gael ei ethol yn gyntaf.
ReplyDeleteOnd ddim ers i Dai gael ei ethol ddiwethaf yn 2008.
ReplyDelete