Mae yna ychydig o ddadl wedi bod tros y blynyddoedd diweddar ynglyn a dyfodol hegemoni Llafur yng Nghymru. Craidd y ddadl oedd y rhesymau tros ddirywiad y bleidlais Lafur yng Nghymru ers 1997.
Ar y naill llaw roedd rhai (Rhodri Morgan er enghraifft) yn dadlau bod seiliau'r gefnogaeth Lafur yng Nghymru yn sylfaenol gadarn, ond bod problemau etholiadol tros dro yn deillio o amhoblogrwydd Llafur yn Llundain.
Y ddadl arall oedd bod strwythurau cymdeithasegol (ar ffurf byddinoedd mawr o bobl yn gweithio mewn diwydiannau trwm) domiwnyddiaeth Llafur wedi datgymalu, a bod cefnogaeth Llafur yn rhwym o ddatgymalu hefyd.
Roedd adegau cyn y llynedd pan roedd yn ymddangos mai'r ddamcaniaeth gyntaf oedd yn gywir - yn arbennig felly yn 2008 a 2009 pan roedd cefnogaeth Llafur yng nghymru yn plymio iselfanau hanesyddol. Bellach mae'r ail ddamcaniaeth yn edrych yn fwy tebygol o fod yn nes ati.
Ond mae yna eglurhad arall - sef bod strwythurau cymdeithasegol cefnogaeth Llafur yn wir wedi mynd, ond bod seiliau eraill i'r gefnogaeth bresennol. Mae llawer iawn, iawn o bobl Cymru yn ddibynol mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ar wariant cyhoeddus, ac mae cryn fygythiad i hynny ar hyn o bryd. Mae'n naturiol felly i lawer o'r bobl hynny ymgynull o gwmpas baner plaid sy'n cael ei chysylltu a gwariant cyhoeddus yn annad dim arall, o dan yr amgylchiadau presennol. Dydi'r math yma o gefnogaeth ddim mor ddibynadwy na sefydlog a'r un draddodiadol, ond mae'n dal yn gefnogaeth sylweddol o bryd i'w gilydd.
Fel mae Syniadau yn awgrymu, mae Llafur Cymru yn cael reid rhad ac am ddim ar y mater hwn oherwydd eu bod mewn sefyllfa i ofyn am fwy a mwy o wariant cyhoeddus heb orfod codi ceiniog o dreth. Petai yna berthynas rhwng trethiant a gwariant yng Nghymru byddai'n llawer anos cadw'r holl elfennau sy'n cefnogi Llafur ar hyn o bryd yn y gorlan. Dyna pam na fydd Llafur byth yn gofyn am hawliau trethu i Gymru, a dyna pam mae'r Toriaid yn gogwyddo tuag at y syniad.
Cytuno fan hyn Cai. Hawliau trethu amdani fe fyddwn yn awgrymu. Sut yn union mae'r blogiad hwn yn cyd=fynd a dy gefnogaeth i Cymru'n 1 / 2 sy'n fater i ti wrth gwrs.
ReplyDeleteDiddorol - hynod ddiddorol
ReplyDelete