Sunday, April 24, 2011

Mwy o newyddion da i'r SNP

Yn ol y Sunday Mail mae'r blaid genedlaetholgar ar y blaen o hyd.

3 comments:

  1. Yn dy bost diwethaf yr oeddet yn amau dilysrwydd polau Cymreig oedd yn ffafrio'r Blaid Lafur, yn y post hwn yr wyt yn rhoi hygrededd i bolau Albaneg sydd yn ffafrio'r SNP!

    Peth gwael yw coelio polau sydd o dy blaid ac amau dilysrwydd y rhai sydd yn darogan gwau i dy achos!

    Yn bersonol rwy'n amau'r ddau, mae'n hynod annhebygol bydd yr SNP yn yr Alban na Llafur yng Nghymru yn wneud cystal ag mae'r polau yn awgrymu.

    Y broblem bennaf yw bod y polau yn cael eu pwyso ar sail Brydeinig, ond nid Prydain bach mo Chymru na'r Alban!

    ReplyDelete
  2. This comment has been removed by the author.

    ReplyDelete
  3. 'Dwi'n meddwl dy fod ychydig yn anheg alwyn. 'dwi ddim yn rhoi hygrededd i'r pol - 'dwi 'mond yn tynnu sylw ato. 'Doedd y stori ond wedi ei rhyddhau ers dwy awr pan welais hi, a 'dwi'n meddwl mai blogmenai oedd y blog cyntaf yn y DU i'w rhyddhau. Dwi hefyd wedi tynnu sylw at bolau sy'n anffafriol i'r Blaid yn y gorffennol.

    Os ti am i ni fod yn dechnegol gywir mae gan polau'r Alban hanes o or gyfri'r bleidlais SNP - ond nid o cymaint a mae rhai Prydeinig yn gor gyfri'r un Llafur. Mae'r dulliau pwysiad a ddefnyddir yng Nghymru yn gallu bod yn broblem, ond ymdrin a ffaeleddau mewn methodoleg Prydeinig oedd fy mlogiad i.

    ReplyDelete