Alun Puw fydd yn sefyll i Lafur yn sgil ymadawiad Ronnie Hughes a'r talwrn etholiadol - neu dyna ydi'r son beth bynnag.
Mae Alun yn brofiadol ac yn gyn weinidog yn y Cynulliad - ond mae ganddo hefyd hanes o golli etholiadau, ac o fethu cael ei ddewis i sefyll tros Lafur mewn nifer o etholaethau. Felly mae'n anodd barnu os ydi gobeithion Llafur yn well ta'n waeth o ffeirio Alun am Ronnie - ond mi fyddwn yn bersonol yn tybio ei fod yn gam yn ol iddynt yn hytrach nag yn gam ymlaen.
Dyna'n wir di'r son yn Aberconwy hefyd. Er fy mod yn hoff iawn o Ronnie (gwrthwynebydd teg a pharchus iawn) dwi'n tueddu i gredu y bydd Alun yn cryfhau y ticed Llafur.
ReplyDeleteFe fu i Alun berfformio'n gryf iawn yn Arfon yn 2010 er iddo gael cwta bedwar mis i wneud argraff. Fe fu iddo hefyd guro Brynle yn 2003 yng Ngorllewin Clwyd er i bawb ddarogan ei dranc. Dim ond ar ôl i David Jones gipio'r sedd yn 2005 y bu i Alun golli yn 2007.
Mantais arall iddo yw'r ffaith fod y North Wales Weekly News yn gefnogol iddo ac nad yw'n dioddef o fod yn Gynghorydd Sir (fel dau o'r ymgeiswyr eraill). Yn fy marn i mae'r dewis hwn yn cymhlethu'r dyfroedd hyd yn oed yn fwy.
Mmm, Guto Bebb yn swcro Llafur. Tybed pam? Poeni'n fwy am y Blaid mae o.
ReplyDeleteNa, ddim o gwbwl. Iwan Huws yn ymgeisydd dymunol iawn ond sedd Gareth oedd hon. Cawn weld wrth gwrs!
ReplyDeleteDiolch Guto.
ReplyDeleteFel ti'n dweud, cawn weld.
Bydd 'na o leiaf pedwar o ddynion am fod yn ymgeisydd Plaid Lafur. Dw i wedi clywed bod James Pritchard yn awyddus i sefyll.
ReplyDelete