Cliciwch ar y delweddau os na allwch eu gweld
Llythyr ydi'r cyntaf gan berchenog gwesty - neu Dy Gwledig Plasdinas, sydd wedi ei leoli yn y Bontnewydd, ger Caernarfon at gynghorydd yr ardal honno, Chris Hughes. Mae Chris wrth gwrs yn aelod o Lais Gwynedd. Llythyr uniaith Saesneg gan Chris i Gyngor Tref Caernarfon yn gofyn i gynghorwyr y cyngor hwnnw beth maent yn bwriadu ei wneud i ymateb i ofidiau'r perchenog, Mr Banner-Price ydi'r ail.
Efallai y dylwn ddweud gair neu ddau am dref Caernarfon - i'r rhai ohonoch sydd yn byw ymhell oddi wrthi. Mae'n dref o tua 10,000 o bobl ar arfordir gogleddol Gogledd Orllewin Cymru. Mae'n dref gymdeithasegol gymhleth gydag un o wardiau cyfoethocaf y Gogledd yn ymestyn ar hyd y Fenai, ond un o wardiau mwyaf difreintiedig y Gogledd ymhellach i'r de. Mae i'r dref ddosbarth gweithiol, trefol sylweddol - ond mae iddi hefyd ddosbarth canol. Yr hyn sydd yn taro ymwelwyr nad ydynt yn gyfarwydd a Gogledd Orllewin Cymru ydi cryfder y Gymraeg yma - y Gymraeg a glywir yn llawer amlach na pheidio ar y strydoedd - pob stryd - a'r Gymraeg a ddefnyddir gan amlaf gan bobl o pob dosbarth cymdeithasol. Yn ol cyfrifiad 2001 roedd rhwng 80% a 90% o boblogaeth pob ward yn y dref yn siarad yr iaith. Mae'n dref sydd hefyd wedi derbyn buddsoddiad preifat a chyhoeddus. Lleolir canolfan hamdden a chanolfan denis yn y dref, mae yma hefyd ganolfan gelfyddydol, amgueddfeydd, datblygiad sylweddol wrth Doc Fictoria. Cafwyd gwaith sylweddol diweddar i uwchraddio'r maes a llawer o'r tai cymdeithasol sydd yn y dref. Ceir amrediad eang o siopau sydd at ddant twristiaid, mae yna amrywiaeth o dafarnau a chlybiau nos yn y dref ac mae yna lawer iawn mwy o lefydd bwyta na sydd i'w cael yn ninas Bangor sydd ychydig filltiroedd i ffwrdd. Mae canolfan hwylio Cymru ar gyrion y dref, ceir canolfan ddringo yng Ngheunant, ac mae'r dref yn agos at yr Wyddfa a Pharc Cenedlaethol Eryri. Dyna pam (ynghyd a'r castell wrth gwrs) bod canoedd o filoedd o dwristiaid yn heidio i'r dref yn flynyddol.
Rwan, mae'n ymddangos i mi mai pobl Caernarfon ydi problem Mr Banner-Price yn y bon. Efallai bod yna lawer o bobl ifanc ar hyd strydoedd y dref - ond eu tref nhw ydi hi. Ymhle mae Mr Banner-Price eisiau iddynt fynd i siopa a hamddena? Efallai bod pobl yn smocio y tu allan i dafarnau, ond mae'n anghyfreithlon smocio'r tu mewn i dafarn - mae gan bobl hawl i smocio a mynychu tafarn. Gall y dref fod yn swnllyd - yn arbennig wedi iddi nosi - ond mae'n dref fyrlymus, a bydd pobl yn dod yma o bell ac agos am noson allan - yn arbennig felly Cymry Cymraeg o ardaloedd gwledig. Mae yna ychydig o ethos tref porthladd wedi aros efo'r dref - er nad ydi wedi bod yn dref felly am ddegawdau lawer.
'Dydi hyn oll ddim yn broblem i'r rhan fwyaf o'r canoedd o filoedd o bobl o'r ochr arall i Glawdd Offa a thu hwnt sydd yn ymweld a'r dref yn flynyddol - ac yn aml yn dychwelyd. Problem Mr Bonner-Price ydi natur ei sefydliad, a'r cleiantel sy'n dod i aros yno. Gall aros ym Mhlasdinas gostio cymaint a £250 y person y noson (er os ydych yn rhannu 'stafell ac yn mynd ar amser distaw gallwch gael cryn fargen). Mae'n debyg gen i y byddai pobl sy'n gallu talu cymaint a hyn yn fwy cyfforddus yn Stratford Upon Avon nag ydynt yn Nhre'r Cofis, ac mae'n ddigon posibl nad ydynt yn teimlo'n saff ac yn gyfforddus pan fyddant yn dod i gysylltiad a phobl o ddosbarthiadau cymdeithasol eraill. Ond eu problem nhw ydi hynny - nid problem trigolion Caernarfon. Mae'n ddigon posibl bod person sydd wedi treulio ei fywyd mewn pentref cefnog yn Surrey yn teimlo'n anghyfforddus yn cystadlu am sylw wrth y bar ar nos Sadwrn brysur yn y Goron - ond felly mae pethau mae gen i ofn - pan mae'r rhan fwyaf o bobl yn mynd ar eu gwyliau, maen nhw'n derbyn bod pethau ychydig yn wahanol i'r hyn ydynt adref.
Mae Caernarfon yr hyn ydyw - tref fyrlymus, fler, ddiddorol, Gymreig sydd a'r rhan fwyaf o'i phoblogaeth o gefndir dosbarth gweithiol. Felly y bu am ganrifoedd, ac felly y bydd gobeithio. Mae gen i ofn na fydd pobl y dref yn cowtowio i gleiantel cyfoethog Mr Bonner-Price, ta waeth faint mae hwnnw'n cwyno, a tha waeth faint o gefnogaeth mae'n llwyddo i'w ddenu gan gynghorwyr Llais Gwynedd.
Diolch i anhysbys 1:50 am ei sylwadau.
ReplyDeleteHwyrach bod gennych bwynt - a 'dwi wedi gweithredu yn unol a hynny.
Synnu fod Chris Hughes wedi sgwennu at glerc Cyngor Tref Caernarfon yn Saesneg!
ReplyDeleteY mae nifer o Gynghorwyr, ACau ac ASau Plaid Cymru yn ysgrifennu llythyrau at gyrff cyhoeddus yn iaith yr etholwr a gyflwynodd y cwyn iddynt. Mae beirniadu Cynghorydd y Bontnewydd am wneud yr hyn mae AC Arfon neu AS Dwyfor Meirion yn eu gneud yn rheolaidd braidd yn unllygeidiog pleidiol dan din.
ReplyDeleteWedi cachu brics wrth gerdded gyda'r wraig a'r plant trwy Gaernarfon am 7:30 ar noswaith Sadwrn, mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad a sylwadau Andy Banner-Price, hefyd. Mae 'na iobs trahaus ar y strydoedd, mae yna ymddygiad bygythiol ac mae yna ymddygiad gwrth cymdeithasol ar strydoedd y dre; a digon teg yw ymofyn i'r awdurdodau i ddelio ag ef.
Da ni'n flin bore 'ma Alwyn?
ReplyDeleteOs wyt ti'n cael dy hun yr ochr anghywir i ymddygiad gwrth gymdeithasol (rhywbeth sydd erioed wedi digwydd i mi yng Nghaernarfon gyda llaw, er i mi fyw yn, neu yn agos at y dref trwy fy mywyd) mi fedri di fynd at yr awdurdodau priodol - yr heddlu.
Mae'n anodd gweld gwerth swnian wrth y cyngor tref am hynny, ynghyd a swnian bod pobl yn gwneud swn, yn smocio tu allan i dafarnau a bod eu presenoldeb yn ei gwneud yn anodd i dy gleiantel fynd i mewn dafarnau.
Tydi cael y person sydd yn rhedeg CoL yn rhoi links hyll yn dangos y gwaethaf o'r dre ddim yn help.Mae'n amlwg fod ganddo goeden ar ei ysgwydd gan ei fod yn manteisio ar bob cyfle i ddilorni y cyngor.Mae llawer wed cyffelybu y wefan i "virus"!
ReplyDeleteHi there to every single one, it's genuinely a pleasant for me to pay a quick visit this website, it consists of helpful Information.
ReplyDeleteengineered hardwood floors
my webpage - cleaning hardwood floors
My webpage: engineered hardwood floors
Hey there! I just wish to offer you a big thumbs up for the
ReplyDeletegreat information you have got here on this post.
I will be coming back to your blog for more soon.
Also visit my page treatment for toenail fungus