Dwi'n siwr y bydd rhai o ddarllenwyr blogmenai yn cofio i mi ofyn trwy gyfrwng y blog i Lais Gwynedd wneud datganiad di amwys yn cynghori eu cefnogwyr i bleidleisio tros roi pwerau deddfu i'r Cynulliad yn refferendwm dydd Iau. 'Dwi ddim yn ymwybodol i'r grwp (yn dorfol o leiaf) wneud datganiad o unrhyw fath ar y mater.
'Dydi hynny ddim yn golygu na wnaeth neb godi bys wrth gwrs - 'dwi'n gwybod i'r Cynghorydd Endaf Cook roi ei enw ar waelod llythyr i'r wasg gyda chynrychiolwyr lleol nifer o bleidiau eraill yn cefnogi'r ymgyrch Ia. 'Dwi hefyd yn gwybod i'r Cynghorydd Owain Williams fynegi'r farn y dylai pobl bleidleisio Ia mewn llythyr i'r wasg oedd yn ymwneud yn bennaf a mater arall, ac rydym eisoes wedi edrych ar gefnogaeth lugoer y Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones ar ei flog. 'Dwi ddim am fod yn grintachlyd, mae help o unrhyw fath yn well na dim - felly diolch i'r tri ohonyn nhw am ddangos ochr. 'Dwi hefyd yn gwybod i nifer o'u cynghorwyr godi llaw i bleidleisio tros gynnig i gefnogi'r ymgyrch Ia mewn pleidlais unfrydol bron gan Gyngor Sir Gwynedd.
Gyda 76% o bobl yn pleidleisio Ia, Gwynedd oedd y sir a bleidleisiodd gryfaf tros roi mwy o bwerau i'r Cynulliad. Roedd cryn dipyn o waith caled ar lawr gwlad y tu ol i'r bleidlais. Yma yn Arfon - yng ngogledd ddwyrain y sir, pwyllgor cyd lynnu traws bleidiol o dan gadeiryddiaeth Paul Rawlinson a pheiriannau etholiadol Plaid Cymru a'r Blaid Lafur a wnaeth y gwaith caib a rhaw - ac roedd yna waith sylweddol wedi ei wneud. Hyd y gwn i 'doedd yna ddim cyfraniad o gyfeiriad Llais Gwynedd ag eithrio'r hyn a nodwyd uchod.
Rwan, fel awgrymais 'dwi'n llawer mwy cyfarwydd a gwleidyddiaeth gogledd ddwyrain Gwynedd nag ydw i a gwleidyddiaeth y de a'r gorllewin. Efallai bod yna fwy o ymdrech wedi ei gwneud gan Lais Gwynedd yn rhywle neu'i gilydd - ond 'dydw i ddim wedi dod ar draws unrhyw dystiolaeth o weithgarwch felly. Os ydi rhywun yn cael cam gennyf ac wedi bod wrthi fel lladd nadroedd yn ymgyrchu tros yr ymgyrch Ia, mae croeso iddo / iddi roi'r manylion ar dudalen sylwadau'r blogiad yma.
Roedd llais pobl Gwynedd yn gryf a di amwys ddydd Iau - Ia tros Gymru. Hyd y gwelaf i ychydig iawn o fynegiant i'r llais hwnnw a gafwyd gan y grwp sy'n galw ei hun yn Llais Gwynedd. Roeddynt ymhell, bell o flaen y gad mae gen i ofn.
Bum yn dosbarthu taflenni yng Ngricieth, Pwllheli, Nefyn a phentrefi Llyn ac ni welais unrhyw gynghorwyr o Lais Gwynedd.
ReplyDelete