Thursday, March 24, 2011

Problemau bach Julian Ruck


Mae'n debyg y dylid cydymdeimlo efo'r awdur Cymreig, Julian Ruck. Yn ol ei flog mae'r iaith Gymraeg yn gwneud iddo fethu trenau - ac mae hynny yn brofiad anymunol iawn wrth gwrs. 'Dydi Julian ddim yn hoffi'r Gymraeg, ond nid y ffaith ei bod yn gwneud iddo fethu ei dren ydi'r unig reswm nad yw'n hoff o'r iaith - dydi o ddim yn hoffi ei swn chwaith:

That may sound shocking considering I’m a Welsh author, but cards on the table, this particular form of communication sounds like a turkey being strangled and should, like the Dodo, have been confined to the history books years ago.

Constantly having this gobbledygook rammed down my throat is too much. It’s made me miss my train on more than a few occasions I can tell you.

Yn anffodus 'dydi Julian ddim yn manylu ynglyn a sut yn union mae'r iaith Gymraeg yn ei ddrysu i'r fath raddau fel na all gyflawni tasg mor elfennol a dal tren. 'Dydi o ddim yn dweud chwaith os ydi ei gyflwr Paflofaidd yn ei ddrysu mewn ffyrdd eraill, a'i atal rhag cyflawni tasgau syml eraill - gwneud defnydd priodol o'r toiled er enghraifft.

Rwan, mae'n weddol siwr bod darllenwyr blogmenai i gyd bron yn Gymry Cymraeg, felly efallai y byddai'n syniad i mi bostio cyfeiriad e bost Julian rhag ofn bod rhai yn eich plith eisiau ymddiheuro am fod yn siaradwyr iaith sy'n peri'r fath broblemau - enquiries@julianruck.co.uk

21 comments:

  1. Anonymous7:30 pm

    Pwy yw Julian Ruck? Oes raid i ni wastad becso be mae rhywun yn ei sgwennu amdannom?

    Pwy sy'n becso'r ffwc?

    ReplyDelete
  2. Dwi'n dueddol o gytuno efo dienw uchod. Pwy ddiawl ydi'r boi? Dio'n neb. Gyda rhai pobl fel hyn mae'n well peidio â rhoi sylw iddynt; rhyngddyn nhw a'u chwerwder!

    ReplyDelete
  3. 'Dwi'n rhyw gytuno efo Anhysb hefyd - ond mae'r busnes methu trenau oherwydd yr iaith mor - wel - ddigri.

    ReplyDelete
  4. Wy'n cytuno ag Anhybsys; does dim angen gwneud hyn yn gyhoeddus er mwyn cwyno - ond chwarae teg i flogmenai, a diolch, achos dwi' heb ddarllen unrhywbeth mor ddoniol a thudalen comments blog Ruck am ddyddiau

    ReplyDelete
  5. Anonymous9:54 pm

    If you use the trains in Wales regularly on the same route. You soon get used to the message advertising your train even if you dont speak a word of Welsh.

    ReplyDelete
  6. > Dio'n neb.

    Mae'n aelod yr Academi, ac mae'n derbyn cymorth y Cyngor Llyfrau i werthu ei lyfrau.

    Ta beth, mae ei flog wedi diflannu (dros dro, gobeithio!), ond mae feriswn cadw Google dal ar gael: http://tinyurl.com/julian-ruck

    Dim sylwadau yna, yn anffodus, ond mae gen i gopi o'r uchafbwyntiau, sef y sgwrs rhyngddo fe a Hefin Jôs, cyn i'r peth fynd ar Twitter y pnawn 'ma.

    ReplyDelete
  7. Anonymous9:57 pm

    Julian Ruck, never heard of him but he's not very bright is he?

    ReplyDelete
  8. Synnwn i ddim petai e wedi ysgrifennu'r pwt yna jyst er mwyn cyhoeddusrwydd.

    Beth bynnag, Matthew Parris na'th cynnig y ddadl hon gynta, bedair mlynedd yn ol:

    http://www.timesonline.co.uk/tol/comment/columnists/matthew_parris/article1862784.ece

    ReplyDelete
  9. Anonymous2:13 pm

    Ti'n siwr bo chdi di sillafu ei gyfenw'n gywir? Dos na'm typo bach efo'r llythyren gynta?
    HH

    ReplyDelete
  10. Anonymous3:03 pm

    Pwy?

    ReplyDelete
  11. Bwlch5:11 am

    Rhaid cytuno efo y mewnbwn olaf! Never heard of him! A rhaid dweud a'r ol darllen yr erthygl yma na fyddwn synnu byth clywed am y creadur trist yma byth eto!!!!Fel rhywun wedi trafelio o gwmpas y byd dwi erioed damio FFraneg neu Hindi oherwydd dwi wedi methu tren/awyren neu tacsi!!!!

    ReplyDelete
  12. Anonymous7:28 pm

    Who is this Julian Ruck anyway, sounds like a right Dick to me.

    ReplyDelete
  13. Pwy yw Julian Ruck? Darllenwch hwn.

    http://davidhewson.com/2012/07/31/car-crash-in-kidwelly-few-hurt-not-many-witnesses/

    Mike Tea

    ReplyDelete
  14. Pwy yw Julian Ruck? Darllenwch hwn.

    http://davidhewson.com/2012/07/31/car-crash-in-kidwelly-few-hurt-not-many-witnesses/

    Mike Tea

    ReplyDelete
  15. Anonymous12:03 am

    There's certainly a great deal to find out about this subject. I love all of the points you've made.

    hardwood floors installation

    My site :: engineered hardwood flooring

    ReplyDelete
  16. Anonymous3:07 am

    I am really impressed with your writing skills as well as with the layout on your weblog.

    Is this a paid theme or did you modify it yourself?

    Anyway keep up the excellent quality writing,
    it is rare to see a nice blog like this one today.


    Also visit my blog ... hardwood flooring

    ReplyDelete
  17. Anonymous12:20 am

    Nice post. I was checking constantly this blog and I'm impressed! Very useful info specifically the last part :) I care for such information much. I was seeking this certain info for a long time. Thank you and best of luck.

    Stop by my web-site ... flooridian.multiply.com
    my web page: hardwood flooring

    ReplyDelete
  18. Anonymous5:15 am

    You can definitely see your expertise within the article you
    write. The arena hopes for more passionate writers like you
    who aren't afraid to mention how they believe. All the time follow your heart.

    Also visit my weblog; just click the following website
    my web page - hardwood floors

    ReplyDelete
  19. Anonymous9:12 am

    you are really a goοd webmasteг. The web
    site loaԁing speеd is amazing. It seemѕ thаt yоu're doing any distinctive trick. In addition, The contents are masterwork. you have performed a fantastic task in this matter!

    Here is my webpage official site
    my web page - Blu E Cig

    ReplyDelete
  20. Anonymous11:52 pm

    I've been surfing on-line more than 3 hours as of late, but I never found any attention-grabbing article like yours. It's lovely value enough for me.
    In my view, if all web owners and bloggers made excellent content
    material as you probably did, the web will likely be much
    more useful than ever before.

    my website; toe nail fungus treatments

    ReplyDelete
  21. Anonymous3:56 am

    Howdy! I realize this is somewhat off-topic however I needed
    to ask. Does operating a well-established website like yours take a lot of work?
    I am completely new to operating a blog however I do write
    in my journal on a daily basis. I'd like to start a blog so I can share my personal experience and views online. Please let me know if you have any kind of suggestions or tips for brand new aspiring blog owners. Appreciate it!

    Also visit my page: light housekeeping

    ReplyDelete