Monday, March 28, 2011

Newyddion da i'r SNP


Mae yna aml i un - fi yn gynwysedig - wedi bod yn darogan ers tro byd nad oes gan yr SNP fawr o obaith i ddal gafael ar rym yn Senedd yr Alban. Ond gyda'r etholiadau hynny yn dynesu, mae'n ymddangos bod symudiad sylweddol i'w cyfeiriad, ac mae cyfres o bolau yn cadarnhau hynny. Er enghraifft mae pol TNS-BMRB/STV a gyhoeddwyd heddiw yn awgrymu bod pethau bellach mor agos ag y gallant fod.

Pan fydd yr ymgyrch yn mynd rhagddi bydd mwy a mwy o ffocws ar y ddau Weinidog Cyntaf posibl - Iain Gray ac Alex Salmond. fydd y gymhariaeth yna ddim o fantais i Lafur.

1 comment:

  1. Gobeithio fod y Blaid a SNP chware gem disgwyliadau isel tro ma!!!!Peidwch a gaddo ennill LLanelli, Caerffili a cael siom o colli Ceredigion fel tro diwethaf!!!!

    ReplyDelete