Wednesday, March 16, 2011

Llongyfarchiadau i Gyngor Mon _ _ _ _

_ _ _ ar fod y cyngor cyntaf yng Nghymru i gael eu pwerau wedi eu trosglwyddo i gomisiynwyr annibynnol. Yn wir hyd y gwn i dyma'r tro cyntaf i'r ffasiwn beth ddigwydd yn y DU. Pwy fyddai wedi disgwyl i Gyngor Mon o bawb fod mor flaengar ac arloesol?

Mae'n rhaid bod pawb ar yr ynys yn hynod falch o'u cynghorwyr heno.

9 comments:

  1. Anonymous8:26 pm

    Dwi'n meddwl mae Cyngor Doncaster oedd y cyntaf. Ddylsa ni ofyn i Tal Michael roedd o'n arfer gweithio i Doncaster.

    ReplyDelete
  2. Dwi'n meddwl mai monitro'r cyngor yn hytrach na'i redeg oedd joban y comisynwyr yn Doncaster - er nad ydw i'n 100% siwr.

    ReplyDelete
  3. Anonymous8:52 pm

    Doedd dim dewis arall ond mae bai ar bleidiau gweleidyddol ac etholwyr Mon am beidio enwebu ymgeiswyr mewn cymaint o wardiau. Oce, efallai y byddent yn colli ond cael cymaint o etholiadau diwrthwynebiad yw gwraidd y drwg

    ReplyDelete
  4. Anonymous9:12 pm

    Llongyfarchiadau yn wir. Os yw'r Moniars yn fotio i gael Maer, pwy fydd y First Anglesonian dywedwch - Peter Rogers, John Stevenson neu'r Driwid?

    ReplyDelete
  5. Anhysb - Llongyfarchiadau yn wir. Os yw'r Moniars yn fotio i gael Maer, pwy fydd y First Anglesonian dywedwch - Peter Rogers, John Stevenson neu'r Driwid?

    Gareth winston roberts OBE efallai?

    ReplyDelete
  6. Diawl drwg11:18 pm

    Ond pwy sydd ar fai? Pam bod y bwrdd adfer yn gwrthod eu henwi?

    Cwestiwn i blogmenai - ai'r aelod a enwir uchod gennych ydi'r drwg yn y caws? Byddwch yn onast rwan!!

    ReplyDelete
  7. Mae wedi cymryd nag ymdrechion glew un boi i ddod a phethau i hyn mae gen i ofn.

    ReplyDelete
  8. Anonymous1:30 pm

    Cyngor Mon = Cyngor Y Bradwyr

    ReplyDelete
  9. Bwlch7:31 pm

    Cyngor Mon = Freemason ffaith! Dyma ble mae'r wir broblem!!!!

    ReplyDelete