Monday, February 28, 2011

Ydi'r Lib Dems eisiau i ni bleidleisio Ia?

Un o fanteision mawr byw yng Nghaernarfon ydi'r ffaith nad ydym yn cael ein boddi mewn pamffledi 'Ffocws' y Lib Dems fel trigolion anffodus Canol Caerdydd neu Aberystwyth er enghraifft. Beth bynnag, am unwaith mae yna bamffled yn cael ei ddosbarthu yn canu clodydd eu hymgeisydd ar gyfer etholiadau'r Cynulliad, Rhys Jones.

'Rwan mae'n ddigon naturiol i Rhys rannu ei bamffledi - dyna fydd pobl yn ei wneud pan bod etholiad ar y gorwel. Ond, ag ystyried bod refferendwm yn cael ei gynnal mewn tri diwrnod, ac ag ystyried mor bitw ydi ymdrech y Lib Dems ar lawr gwlad wedi bod i gefnogi'r ymgyrch hyd yn hyn(mae yna ambell i eithriad anrhydeddus), mi fyddai wedi bod yn braf cael rhyw air neu ddau yn argymell i bobl bleidleisio 'Ia'. Ond na, dim gair, dim sill.

Tybed os ydi Rhys o blaid rhoi pwerau deddfu i'r Cynulliad? A barnu oddi wrth ei bamffled does ganddo fo ddim barn ar y mater.

No comments:

Post a Comment