Diolch i Hogyn o Rachub am dynnu fy sylw at y rhaglen yma - rhaglen sydd ar brydiau yn wirioneddol ddigri.
Diolch hefyd i Dafydd Wigley, Jane Wyn, Eric Howells a Bill Hughes am wneud joban mor dda ar gyflwyno'r achos tros bleidleisio Ia wythnos i heddiw.
Roedd y wraig a fi yn y gynulleidfa. Doedd Mrs HRF ddim yn edrych ymlaen yn arw at fod yn rhan o raglen wleidyddol ddiflas, ond erbyn y diwedd mi oedd hi'n canu clodydd Syr Eric a Bill Hughes fel y comedy double act gorau ers Morecambe & Wise ac yn awgrymu mae da o beth bydd i S4C rhoi sioe wythnosol iddynt.
ReplyDeleteWrth ymadael a'r sioe roedd rhai o'r cefnogwyr Na a oedd yn y gynulleidfa yn gandryll efo perfformiad eu dau gynrychiolydd.
Os wyt ti'n edrych ar y rhaglen o tua 24:37 mi weli di ddyn hynod golygus a synhwyrol ei farn yn wneud sylw am yr ymgyrch dros annibyniaeth yn parhau beth bynnag fo canlyniad y refferendwm
Mi edrycha i
ReplyDelete