Tuesday, February 22, 2011

Louise i Lais Gwynedd


Felly ymddengys bod y sibrydion a ddaeth i sylw blogmenai yn gywir - mae stori yn y Daily Post mai Louise Hughes ydi ymgeisydd Llais Gwynedd ar gyfer Meirion Dwyfor.

Mae'n ddewis diddorol ar sawl cyfri. Ni chafodd Louise fawr o lwyddiant yn etholiadau San Steffan y llynedd, ac ni chafodd sefyll yn enw Llais Gwynedd, er iddi wneud cais i gael gwneud hynny. 'Dydi hi ddim yn glir pam nad oedd ei hymgeisyddiaeth yn dderbyniol i'w chyd aelodau y llynedd, ond yn dderbyniol eleni.

Mater arall wrth gwrs ydi'r un iaith. Mae Louise ymhell, bell o fod yn rhugl ei Chymraeg, ac mae Meirion Dwyfor yn etholaeth gyda tua dau draean o'i phoblogaeth yn siarad Cymraeg. Yn wir Arfon yn unig sydd a ffigyrau uwch.

'Rwan 'dydi hi ddim yn amhosibl i rhywun nad yw'n gallu siarad Cymraeg gael ei ethol mewn etholaeth lle mae'r rhan fwyaf o'r trigolion yn siarad yr iaith - meddylier am Mark Williams yng Ngheredigion er enghraifft, neu Keith Best yn Ynys Mon (er i hwnnw ddysgu'r iaith yn ystod ei gyfnod fel AS). Serch hynny nid oes gan Meirion na Dwyfor (roeddynt mewn etholaethau gwahanol hyd yn ddiweddar) unrhyw hanes o ddychwelyd Aelodau Seneddol na Chynulliad di Gymraeg ers i drwch y boblogaeth gael yr hawl i fwrw pleidlais yn negawdau cyntaf y ganrif ddiwethaf.

Yr unig eithriad posibl y gallaf feddwl amdano ydi 1945. Roedd Nefyn, Cricieth a Phwllheli yn rhan o etholaeth drefol Bwrdeisdrefi Caernarfon ar y pryd, ac fe etholwyd Tori o'r enw D.A Price-White. Roedd Lloyd George wedi cynrychioli'r etholaeth am ddegawdau cyn hynny wrth gwrs. 'Dwi ddim yn rhy siwr os oedd o'n siarad Cymraeg.

Oes yna rhywun yn gwybod?

11 comments:

  1. Petai Seimon Glyn wedi'i ddewis dwi'n amau y gallai Llais Gwynedd fod wedi rhoi cnoc hegar i fwyafrif y Blaid yn y sedd. Yn reddfol, dwi'n teimlo y gallai dewis Louise Hughes fod yn fwy o ergyd i bleidlais y pleidiau eraill na Phlaid Cymru - yn arbennig yn Llyn dwi'n rhyw deimlo y byddai mwyafrif mawr y Cymry a bleidleisiodd i LlG yn 2008 yn tueddu at y Blaid yn 2011.

    Wrth gwrs, mae rhywun yn dal i deimlo dros bobl yr etholaeth o wybod mai Dafydd Êl a fydd yn eu cynrychioli unwaith yn rhagor!

    ReplyDelete
  2. Yn is etholiad Seiont, does yna ddim amheuaeth mai 'dwyn' pleidleisiau'r pleidiau Prydeinig wnaeth LlG.

    ReplyDelete
  3. Roedd David Archibald Price White yn Gymro Cymraeg; fel ei rhagflaenydd twrnai cefn gwlad oedd Price-White. Rhodres oedd ei enw dwbl - eto'r un fath a'i rhagflaenydd.

    Ers i Feirion cael cynrychiolydd yn Sansteffan ym 1536 y mae wedi ei gynrychioli yn ddi-dor gan Gymro Cymraeg; roedd hyd yn oed y tirfeddianwyr bonheddig a oedd yn cynrychioli'r etholaeth yn siarad yr iaith.

    ReplyDelete
  4. Diolch Alwyn - ti'n goblyn o un da am lenwi'r tyllau (go fawr ar brydiau) yn fy ngwybodaeth.

    ReplyDelete
  5. Anonymous7:36 pm

    Fe ddwedodd rhywun (falle Vaughan?) stori am Lloyd George Phrif Weinidog Awstralia ar y pryd - Billy Hughes - yn siarad Cymraeg o amgylch y bwrdd trafod rhyngwladol yn Versailles ym 1919.

    Roedd Billy Hughes yn enedigol o Lundain a'i rieni'n Gymry.

    Cwynai rhai eu bod nhw'n trafod yn gyfrinachol mewn iaith gudd, ond mae'n debyg mai dim ond troi i'r Gymraeg i regi ar ei gilydd oedden nhw!

    Iwan Rhys

    ReplyDelete
  6. Anonymous10:25 pm

    Ydi Louise Hughes yn awyddus i gynrychioli pobl Dwyfor Meirionnydd mewn Cynulliad fydd gyda'r hawl i ddeddfu heb orfod gofyn am ganiatad gan San Steffan? I think we shwd be told....

    ReplyDelete
  7. Pwy a wyr?

    Mae LlG yn rhyfeddol o ddistaw ar y mater yma.

    ReplyDelete
  8. Mae defnyddio'r talfyriad LlG mewn edefyn sy'n cyfeirio at y cyn Brif Weinidog a chynghorydd Llangelynin yn peri dryswch !

    Ydy'r talfyriad LlG yn cyfeirio at Louise Lloyd George neu at Dai Llais Gwynedd?

    ReplyDelete
  9. Byddwn i'n mentro dweud na fydd pob un o gyd-gynghorwyr ei phlaid yn pleidleisio iddi, sy'n dangos yn glir diffyg sail wleidyddol gytun Llais Gwynedd.

    ReplyDelete
  10. Alwyn - beth am alw Lloyd George yn DLlG a Llais Gwynedd yn LlG?

    'Dwi ddim yn gwybod a dweud y gwir HOR - nhw sydd wedi ei dewis hi. Efallai bod ymuno a LlG wedi arwain at daith wleidyddol go faith i ambell un.

    ReplyDelete
  11. Anonymous9:52 am

    Onid un o Llandudno oedd Billy Hughes ?.
    Am ddewis o ymgeiswyr.

    Ffwl gwrth-genedlaetholgar o blaid llugoer am y Gymraeg ar y naill law,
    a Louise Hughes ar y llall.

    ReplyDelete