'Dwi'n siwr y bydd darllenwyr Blogmenai yn cofio i gyn brif weithredwr S4C, Iona Jones a'r sianel
setlo cyn i'r camau cyfreithiol roedd Iona yn eu cymryd yn erbyn ei chyn gyflogwr gyrraedd tribiwnlys diwydiannol.
Yr hyn nad ydi'r naill ochr na'r llall yn fodlon ei ddatgelu, fodd bynnag, oedd manylion taliad S4C i'w chyn bennaeth. Y stori sydd wedi cyrraedd Blogmenai ydi bod y swm yr iawndal (yn hytrach na'r costau) yn un mawr crwn - gydag un digid yn unig iddo.
Gwir neu beidio, 'dwi'n siwr y cawn gadarnhad y naill ffordd neu'r llall maes o law - mae'n rhaid bod rhywun yn rhywle wedi defnyddio'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i gael goleuni ar y mater.
No comments:
Post a Comment