Mae'n dda gweld gwefan newydd Plaid Cymru. Fel gwefan Ia Dros Gymru mae'n ymdrech gaboledig sy'n cynnig gwasanaeth drefnus, effeithiol ac atyniadol.
Nid bod y naill wefan na'r llall yn cymharu ag un uniaith Saesneg True Wales wrth gwrs, sy'n edrych fel petai wedi ei chreu gan fyryriwr chweched dosbarth fel rhan o gwrs cychwynol - rhywbryd tua 2004.
gwefan neis .... ond lle mae'r darn gorau - y blogs?!
ReplyDeleteY tu ol i'r botwm PlaidLive.
ReplyDeleteDwi'n gwybod ei bod hi'n gynnar ond ti'n meddwl bydd yr ymgyrch 'Ie' yn llwyddianus? Oes unrhyw bolau piniwn i ymddangos cyn Mawrth?
ReplyDeleteOes mae'n debyg - ac mi fyddwn yn tybio mai Ia fydd y canlyniad.
ReplyDeleteMi fyddwn yn amlwg yn trafod hyn ymhellach tros yr wythnosau nesaf.
Gobeithio 'ny yn wir.
ReplyDelete