Tuesday, January 18, 2011
Ed Vaizey - ymgymerwr cynhebrwng S4C
Nid yn aml 'dwi'n cael fy hun ddim yn siwr beth i'w ddweud - ond dyna'r sefyllfa ar ol darllen am berfformiad rhyfeddol gweinidog darlledu San Steffan, Ed Vaizey, o flaen y Pwyllgor Dethol Cymreig heddiw.
Ymddengys nad ydi'r llywodraeth yn bwriadu sefydlu mecanwaith i amddiffyn cyllideb S4C pan fydd yn cael ei drosglwyddo i'r BBC ymhen pedair blynedd. Serch hynny, yn ol Vaizey, mae’r BBC yn annhebygol iawn o dorri cyllideb S4C a bod pobl wedi bod yn edrych ar yr ochor dywyll.
Mae'n ffodus nad oes yna lawer o bobl yn edrych ar y Pwyllgor Dethol yn mynd trwy'i bethau ar y teledu, neu mi fyddai yna syrcas o werthwyr ceir ail law, gwerthwyr time shares a ffenestri dwbl, benthycwyr arian, merched dweud ffortiwn, prynwyr hen bethau ac ati y tu allan i'w ddrws ffrynt bore fory. Os ydi Vaizey o ddifri yn credu y bydd honiadau Mark Thompson bod y Bib yn ymroddedig i ddarlledu Cymraeg yn sicrhau y bydd cyllideb y sianel yn saff wedi 2015, mi gredith y creadur gwirion unrhyw beth.
Nid dweud bod Mark Thompson yn gelwyddog ydw i wrth gwrs - 'dwi'n siwr bod Thompson a'r BBC yn ymroddedig i ddarlledu Cymraeg - yn union fel maent yn ymroddedig i Radio 1,2,3,4 a 5 Live, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru, BBC Radio Scotland, BBC Radio nan Gaidheal, BBC Radio Ulster, BBC Radio Foyle, BBC World Service ynghyd a llu o sianeli radio rhanbarthol yn Lloegr.
Ac wedyn wrth gwrs mae yna BBC One a BBC Two BBC Three, BBC Four, BBC News, BBC Parliament, CBBC CBeebies, BBC Northern Ireland, Scotland a Wales, BBC Alba, BBC Asia yn ogystal a fersiynau rhanbarthol Seisnig o BBC One. Gallwch gymryd yn ganiataol bod Thompson a'r BBC yn ymroddedig i'r oll o'r uchod hefyd.
Ac yna mae yna'r Wefan enfawr a drud _ _ _ - 'dwi'n blino - mae'r rhestr yn ddi ddiwedd.
Hyd yn oed a derbyn sicrwydd Thompson am ei ymroddiad i S4C, a chredu mai fo fydd cyfarwyddwr cyffredinol y Bib am byth, byth, bythoedd, mae rwdlan Vaizey yn dal yn boenus o naif. Ar ol 2015 mi fydd rhaid i S4C gystadlu efo pob math o bethau eraill mae'r Bib yn 'ymroddedig' iddyn nhw, ac mi fydd y Bib yn teimlo gwasgfa ariannol. 'Does yna ddim lle o gwbl i gredu y bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i ddarlledu Cymraeg. Yn wir, mae creu dadl pam y dylai'r Bib wneud hynny yn hynod anodd - nid darlledu trwy gyfrwng y Gymraeg ydi prif bwrpas y Bib.
Bydd S4C yn cystadlu efo holl gydrannau eraill y Bib am gyllid, a bydd yn gwneud hynny o dan gryn anfantais - bydd y Bib yn chwilio am gostau cynhyrchu isel a chynulleidfaoedd uchel. Bydd S4C yn cynnig costau cynhyrchu uchel a chynulleidfaoedd bychain. Bydd mewn sefyllfa wan i fargeinio, a bydd yn gwywo a chrebachu'n gyflym.
Am foi od.
ReplyDeleteDwi wedi cwrdd a Ed a chwarae teg mae'n ddyn neis iawn ac yn ges.
ReplyDeleteOND fyswn i ddim yn rhoi swydd gweinidog iddo, yn enwedig rhywbeth fel cyfryngau oherwydd sgin y fo ddim diddordeb yn y peth.
Efallai bod hyn ddim yn berthnasol, ond yn ol Golwg fe fydd Plaid yn colli pob sedd yng Nghymru petai AV yn dod. Beth ydy barn pobol ar hyn?
(gweler: http://www.golwg360.com/Newyddion/cat48/Erthygl_19252.aspx)
Good article! We will bе lіnking to thiѕ great content on our sitе.
ReplyDeleteKeеρ up the great writіng.
Feel freе to visit my page: ma huang tea for sale
I гeallу like it when folκs get together
ReplyDeleteand share iԁeaѕ. Great site, continue thе good work!
Have а lοok аt my website ephedrine for weight loss