Monday, January 10, 2011
Bradley Manning
Bradley Manning ydi'r milwr sydd ar hyn o bryd mewn carchar yn America o dan amheuaeth o ryddhau gwybodaeth i Wikileaks am ryfeloedd a chysylltiadau diplomyddol mewnol yr UDA. Ymysg y toreth o stwff sydd wedi ei ryddhau ceir y fideo gwirioneddol anymunol yma o filwyr Americanaidd mewn hofrenyddion yn llofruddio pobl ar y llawr yn Irac.
Beth bynnag, yn ol Radical Wales mae gan Bradley Manning gysylltiadau Cymreig, mae ei fam yn Gymraes, mae ganddo deulu yma a bu'n byw yng Nghymru am dair blynedd. Ar hyn o bryd mae wedi ei garcharu yng ngharchar milwrol Quantico yn Virginia. Mae'n cael ei gaethiwo mewn cell ar ei ben ei hun ac nid yw'n cael mynediad i awyr iach, goleuni naturiol ac nid yw'n cael ymarfer. Mae'r cyfeillion sydd yn y fideo yn dal a'u traed yn rhydd wrth gwrs.
Gellir cyfrannu i gronfa amddiffyn Bradley Manning yma.
Mae'n debyg iddo fynychu Ysgol yn Hwlffordd am gyfnod.
ReplyDeleteOs mae'n dod o Gymru neu peidio. Mae'r amgylchiadau maen cael ei gadw ynddo yn afiach a dyla bod y D.U yn sefyll i fyny ir UDA. Mae'r hogyn yn ddi-euog nes mae nhwn profi'r ffordd arall.
ReplyDeleteYn ol son mae stad meddyliol o wedi gwendido dros y wythnosau diwethaf.
Trist iawn, a dyla bod nin gwneud mwy a Obama.
Y fidio yna yw y peth mwyaf dychrynllyd 'rwyf erioed wedi ei weld. Mae pwy bynnag sydd wedi dod a'r fidio yma i sylw Wikleaks yn haeddu medal
ReplyDelete