Mae'r ffaith nad ydynt am dorri ar wariant iechyd o gwbl am resymau popiwlistaidd yn golygu y byddai'n rhaid i'r holl feysydd eraill mae'r Cynulliad yn gyfrifol amdanynt dderbyn toriadau sylweddol iawn. Fe'i rhestraf, ynghyd a'r gwahaniaeth rhwng cynlluniau'r Toriaid a rhai'r llywodraeth, isod.
Maes gwariant | Toriadau'r Glymblaid | Toriadau'r Toriaid | Gwahaniaeth |
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | 7.60% | 0% | -7.60% |
Llywodraeth Leol | 7.40% | 12.50% | 5.10% |
Addysg | 8% | 12% | 4% |
Economi a Thrafnidiaeth | 21.30% | 30% | 8.70% |
Yr Amgylchedd a Thai | 21% | 25% | 4% |
Materion Gwledig | 12.70% | 15% | 2.30% |
Treftadaeth | 13% | 20% | 7% |
Gwasanaethau Cymdeithasol a Pherfformiad | 24.40% | 30% | 5.60% |
Gwasanaethau Canolog | 19.10% | 25% | 5.90% |
Rhaid hefyd nodi bod y toriadau mae'r Cynulliad yn gorfod eu gweithredu mor sylweddol oherwydd bod y glymblaid yn Llundain wedi penderfynu torri ar wariant cyhoeddus ynghynt nag oes rhaid iddi wneud - a hynny am resymau ideolegol.
Felly cofiwch pan mae'r Derwydd o Fon yn hefru am ddatblygu'r economi, bod ei blaid am dorri'r arian cyhoeddus sydd ar gael i wneud hynny, i'r bon. Pan mae Paul Davies yn rwdlan am y gwasanaeth addysg, cofiwch bod gan ei blaid eisiau gwario llawer llai ar addysg na'r llywodraeth. Pan fydd Brynle Williams yn mynd trwy ei bethau am ymlyniad y llywodraeth i gefn gwlad, cofiwch nad yw yn fodlon rhoi pres cyhoeddus lle mae ei geg.
http://angleseylaudanum.blogspot.com/2010/12/anglesey-tory-party-at-war.html
ReplyDelete