Sunday, December 26, 2010

Problemau cytundeb etholiadol rhwng y Lib Dems a'r Toriaid

Mi fydd yna bethau rhyfeddol ac anisgwyl yn digwydd tros y Nadolig - ac mi ddigwyddodd rhywbeth felly acw heddiw - cawsom y Sunday Telegraph am rhyw reswm - ac am y tro cyntaf ers cyn cof.

Yn naturiol ddigon 'doedd yna neb eisiau cael ei weld yn darllen y peth, ac mi eisteddodd ar fwrdd y gegin heb ei agor am rai oriau. Fi oedd y cyntaf i dorri'r tabw mae gen i ofn - roedd y pennawd ar y dudalen flaen yn ormod o demtasiwn - Top Tory Calls For Vote Pact.

Byrdwn y stori ydi bod rhyw weinidog di enw sydd, yn ol y papur, yn agos at Cameron eisiau cytundeb efo'r Lib Dems iddynt beidio a sefyll yn erbyn ei gilydd mewn rhai etholaethau yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Rwan gall dyn weld pam y byddai hyn yn demtasiwn i aelodau seneddol Toriaid - maen nhw ar ol Llafur yn y polau ar hyn o bryd, a phetai yna etholiad fory byddant yn ol lle maent wedi bod am y rhan fwyaf o'r tair blynedd ar ddeg diwethaf - ar feinciau'r gwrthbleidiau. Byddai'n fwy o demtasiwn fyth i'r Lib Dems, pe byddai yna etholiad 'fory, mi fyddai'r rhan fwyaf ohonyn nhw yn y ganolfan waith y diwrnod wedyn.

Ond byddai yna broblemau sylweddol ynghlwm a dilyn y trywydd yma. Yn gyntaf 'dydi pleidiau gwleidyddol ddim yn 'berchen' eu cefnogwyr. Mae rhoi dwy blaid at ei gilydd yn cynhyrchu rhywbeth sy'n llai na chyfanswm y ddau ran fel rheol.

Yn fwy arwyddocaol byddai'n achosi cryn dyndra ar sawl lefel - efallai bod Clegg a Cameron yn meddwl y byd o'i gilydd, ond mae actifyddion ar lawr gwlad hyd yn oed yn llai hoff o'i gilydd na'r gweinidogion eraill. Ymhellach, byddai darparu rhyw fath o yswiriant i'r Lib Dems yn San Steffan, tra'n gadael eu cynghorwyr a'u Haelodau Cynulliad a Senedd yr Alban i gael eu llabuddio gan yr etholwyr oherwydd polisiau'r aelodau San Steffan hynny yn achosi drwg deimlad mewnol sylweddol.

Mi fydd gweld sut y bydd y stori yma'n datblygu yn ddiddorol.

4 comments:

  1. Rhag dy gwilydd di, mae'r fecking Mail on Sunday wedi bod yma hefyd ond dwi wedi gallu gwrthsefyll y demtasiwn o ddarllen y bastad papur; roedd gen i yr Observer ar IOS hefyd felly doedd y demtasiwn ddim yn ormod!!!

    ReplyDelete
  2. Wel, ganed dyn i bechu mae gen i ofn - pechod gwreiddiol ac ati. Gwan ydym ni oll.

    ReplyDelete
  3. Anonymous10:51 am

    Gen i ateb syml i chi er mwyn peidio a dangos eich bod yn prynu'r Telegraph nau'r Mail ar y Sul. Mae'r ateb yn costio, ond yn arbed codi cywilydd.

    Prynwch eich papur fel uchod ond, prynwch y Sunday Sport hefyd. Rhowch un papur ar ben y llall cyn eu plygu gyda'r Sport, wrth gwrs, yn wynebu allan. Cerddwch or siop am adref heb gywilydd yn y byd.

    Mae'n gweithio hefyd i Golwg, Barn a'r Fanner (ydyn nhw'n dal i'w cyhoeddi?)

    Syml ond effeithiol!

    ReplyDelete
  4. Pur anaml y bydd dyn yn cael gwybodaeth diddorol ar y safwe yma - ond mae heddiw'n eithriad.

    ReplyDelete