Fedra i ddim peidio a gadael i hanes yr Uchel Lys yn amddifadu'r cyn weinidog mewnfudo, Phil Woolas o'i sedd seneddol fynd heibio heb wneud sylw neu ddau.
Yn gyntaf mae Phil Woolas wedi cael ei hun yn y sefyllfa yma oherwydd iddo ddweud celwydd am wrthwynebydd er mwyn ennill etholiad. Mae yna ormod o'r math yma o beth yn digwydd ar lefelau seneddol a lleol, ac mae'n dda o beth bod safiad yn cael ei gymryd gan yr awdurdodau cyfreithiol.
Yn ail mi fydd rhai ohonoch yn cofio mai dyma'r gweinidog
ddangosodd cyn lleied o gydymdeimlad tuag at Shirley Evans ac Evelyn Calcabrini o'r Wladfa pan geisiodd y rheini ddod i aros i Gymru.
A wna innau ddim trafferthu dangos cydymdeimlad tuag at Phil - trist iawn,
very sad.
No comments:
Post a Comment