Sunday, November 14, 2010

Ychydig funudau yn Hysteria Central


Dwi ddim yn meddwl y bydd neb yn debygol o anghytuno efo fi pan 'dwi'n honni fod blogio'r Lib Dem o Abertawe, Peter Black yn mynd ar nerfau Plaid Wrecsam. Gweler yma, yma ac yma er enghraifft. Anaml iawn y bydda i yn ymweld a blog Peter Black a dweud y gwir, ond ar yr achlysuron pan 'dwi'n mentro yno mae'n rhaid i mi gyfaddef bod y cyfuniad rhyfedd o ddifrifoldeb hunan bwysig a'r fflyrtain parhaus efo hysteria yn mynd ar fy nerfau innau hefyd.

Dau bwynt bach sydd gen i i'w wneud am y blog serch hynny. Yn gyntaf mae'r cyflwyniad nodweddiadol eiriog a fi fawraidd i'r dudalen sylwadau yn cychwyn efo'r baragraff yma:

I am happy to address most contributions, even the drunken ones if they are coherent, but I am not going to engage with negative sniping from those who do not have the guts to add their names or a consistent on-line identity to their comments. Such postings will not be published.

Wel, yn groes i fy arfer, mi adewais i sylw ddoe - yn enw fy mlog gyda linc iddo - i'r blogiad yma. Dewisodd Peter beidio a'i gyhoeddi - yn groes i reolau ei flog ei hun. Wna i ddim cymryd arnaf bod y sylwadau na chafodd weld golau dydd ymysg y pethau mwyaf treiddgar na defnyddiol 'dwi erioed wedi eu 'sgwennu. Serch hynny, gan nad ydi Peter yn fodlon eu cyhoeddi mi wna i hynny:

Hyperbole & obfuscion. I know that 9% in the polls isn't a good place to be, but covering yourself in a thick paste of partisan drivel isn't the best way to restore your party's political credibility Peter.
Ymateb oeddwn i flogiad oedd yn fwriadol gamarweiniol - un oedd yn fwriadol yn cwbl gam ddehongli sylwadau gan Adam Price a John Dixon er mwyn creu argraff bod y Blaid yn ffraeo'n fewnol ac yn ymddwyn fel llygod mawr mewn sach. 'Rwan mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod i fy hun yn gwneud hyn o bryd i'w gilydd - mae'r honiad ddau neu dri blogiad i lawr bod ffioedd prifysgol yn cael eu codi er mwyn i aelodau seneddol Toriaidd gael osgoi'r risg o gael eu plant yn ymwneud gormod efo'r dosbarth gweithiol yn esiampl. Ond 'dwi'n gobeithio ei bod yn weddol amlwg bod fy nhafod yn fy moch ar achlysuron fel hyn. 'Dydi tafod Peter ddim yn agos at ei foch - 'does yna ddim rhithyn o hiwmor yn agos at ei flog. Mae'r creadur yn 'sgwennu stwff gyda'r bwriad o gam arwain, yn hytrach nag efo'r bwriad o chwerthin ar ben gwrthwynebwyr. Ac mae'n gwrthod cyhoeddi sylwadau sy'n feirniadol o'i gam arwain bwriadol. Dyna beth ydi rhyddfrydiaeth.

Gyda llaw, rhag ofn ei fod o ddiddordeb mae'r blog yma yn derbyn bron i pob sylw sydd ddim yn groes i gyfraith enllib. Mae yna rhai sylwadau personol eraill 'dwi wedi gwrthod eu cyhoeddi - y rhan fwyaf ohonyn nhw, yn eironig ddigon, yn sylwadau personol ar aelodau o Lais Gwynedd.

Yn ail, ac yn bwysicach efallai, mae obsesiwn Peter efo Plaid Cymru yn rhyfedd. Tros y ddwy flynedd nesaf bydd y Lib Dems yn gweld eu cynrychiolaeth etholedig yng Nghymru yn cael ei chwalu. Byddant yn colli o leiaf ddwy sedd yn etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf, a bydd y rhan fwyaf o'u cynghorwyr yn ninasoedd Cymru yn colli eu seddi y flwyddyn ganlynol. 'Rwan 'dwi siwr y bydd y Blaid yn elwa rhywfaint o'r chwalfa fawr, ond Llafur fydd yn yn gwneud y niwed mwyaf iddynt.

Ac mi fydd Peter druan yn ffidlian yn hamddenol (na sori, ddim yn hamddenol - dydi Peter ddim yn 'gwneud' hamddenol - yn hysteraidd dwi'n feddwl) tra bod Rhufain yn llosgi o'i gwmpas.

7 comments:

  1. Ddigon hawdd saethu'r b*****d lawr ar hyn o bryd ac yndy mi rydw i'n mwynhau!

    ReplyDelete
  2. Ddaru fo ddim cyhoeddi sylw adewis i ar y blog ddoe chwaith.

    ReplyDelete
  3. Gwneud i mi feddwl am ddyddiau olaf yr etholiad cyffredinol pan oedd Guto Bebb yn gwrthod cyhoeddi unrhyw sylwadau ar ei flog ag eithrio rhai fel yr isod:

    The way that you and your team have conducted yourselves and addressed the whole challenge of this campaign is so impressive, I can’t begin adequately to express my admiration. You could not have done more and we’re all very proud of you.
    You are now on the final lap and we all wish you success on Thursday.
    I know how exhausted you must feel, so I welcome you as an honorary member of the Rhinoceros Club – head down and charge!
    Good luck, Guto
    Go get ‘em!Derek

    ReplyDelete
  4. Anonymous10:46 pm

    Mae "Freedom Central" hefyd wedi dechrau gwrthod cyhoeddi sylwadau.

    Yr unig nodyn o bryder byddwn i'n codi yw'r fordd mae pawb yn disgwyl i'r Libs colli seddi. Mae'n uffernol o anodd i nhw wneud hynny. Yr wir yw mae nhw wedi fod yn wneud mor wael yn y Gynulliad fod o bron yn amhosib i nhw wneud yn waeth. Mae o jyst about yn bosib i nhw golli sedd y gogledd ond mae fynd o dan 5 yn anhebyg iawn a 4 yw'r lleiaf bosib. Dwi'n dechrau rhagweld Kirsty yn dathlu cadw 6 sedd.

    ReplyDelete
  5. Mi fyddai sedd y Gogledd yn mynd ar y ffigyrau polio diweddaraf - ac mi fyddai yna berygl i un y Dwyrain.

    ReplyDelete
  6. Sgin ti ddim newyddion di i, fel set Peter Black mewn peryg!

    ReplyDelete
  7. Yn anffodus sedd Peter Black ydi'r saffaf o'r cwbl i'r Lib Dems.

    ReplyDelete