_ _ ydi bod yna ambell un sy'n cael ychydig o lwyddiant yn cymryd y peth o ddifri i'r fath raddau bod ei ego yn chwyddo fel balwn enfawr.
Cymerer y Tori o Fon, Paul Williams er enghraifft. Yn sgil ennill gwobr blog gwleidyddol y flwyddyn Welsh Blog Awards a dod yn 19fed yng Nghymru am flog gwleidyddol yn 'etholiad' Total Politics, ymddengys ei fod o'r farn bod ei flog yn rhan hanfodol a chreiddiol o'r broses etholiadol ym Mon. Yn anhygoel, mae'n dadlau y dylid mesur addasrwydd pobl i fod yn gynghorwyr ar yr ynys yn ol eu parodrwydd i gyfrannu i'w flog o ei hun.
Dydw i ddim yn tynnu coes - mae'n mynegi'r gred ryfeddol o hunan bwysig yma yn ddigon clir yma, ac mae'n ail adrodd y farn yma yn ystod un o'r dadleuon maith a chwerw sy'n nodweddu tudalennau sylwadau ei flog.
Tri blog am dan Mr Williams mewn tri diwrnod... Dim byd arall i drafod...? Efallai fod BlogMenai dipyn yn genfigenys o'i lwyddiant...?!
ReplyDelete'Dwi'n gobeithio bod Mr Williams yn ddiolchgar am yr holl gyhoeddusrwydd 'dwi'n ddigon caredig i roi iddo.
ReplyDeleteCofia Cai, Mae o wedi bod yn gweithio yn Siapan ar Almaen am hir, cofia mae o'n gwybod lot mwy na ni am bopeth; pam nei di ddim bod yn Gymro bach da a gorwedd wrth i draed i chdi gael di dysgu gwersi sut i fod yn Dori go iawn. Cofia hefyd i lyfu ei law o bob yn hyn a hyn rhag ofn i'w ego fo golli chydig o'i sglein!!
ReplyDeleteErs pryd mae'r Derwydd yn byw nol ar Ynys Mon? Oes ganddo fo waith go iawn, neu cuddio tu ol i "Consultant" ydio? Gobeithio wneith Iain Duncan Smith ddim penderfynu fod o'n Job Seeker!
ReplyDeleteA ia, Marc - y broliant - couple of degrees, Masters in Japanese, very senior marketing, World’s largest consumer electronics firms, the very successful Tafarn Y Rhos pub, considerable international business experience, weathered the storm of the recession as a small businessman.
ReplyDeleteFyddai neb yn ei gyhuddo o ganu ei gloch ei hun.
Yr hyn dwi ddim yn ddeall yw paham nad yw yn enwi'r cwmniau yma. World largest consumer electonics firm - Samsung? Very senior marketing? A'i ef oedd y person hynnaf oedd yn gweithio yno ?
ReplyDelete