Yn ol Vaughan 'dydi AC Gorllewin Clwyd, Darren Millar ddim yn rhy hoff o gynlluniau pensiynau cyhoeddus llywodraeth leol - maen nhw'n rhy hael - er nad yw'r pensiynau hynny yn agos mor hael a chynllun pensiwn cyhoeddus Darren ei hun. A dweud y gwir mae amodau pensiwn Darren ymysg y mwyaf hael y gallaf feddwl amdanynt. Mae'n amlwg bod gan y dyn broblem efo'r sector cyhoeddus.
Eto, yn ol Vaughan mae yna 44.6% o'i etholwyr yn gweithio yn y sector cyhoeddus - y ganran uchaf namyn un yng Nghymru.
Yn 2007 roedd gan Darren fwyafrif o 6.1%.
Paid ag anghofio i Darren (a'i rhai o'i gyd ACau Ceidwadol) fynd am joli bach i Aberystwyth i ddathlu penblwydd Nick Ramsay rai wythnosau yn ol - y cyfan yn cael ei dalu gan y trethdalwyr!
ReplyDeletehttp://stwnsh.com/1o6
Dydio ddim yn licio i weithwyr cyhoeddus gael eu pensiynau (haeddianol) ond dydio ddim yn meindio eu bod nhw'n talu am ei bartion chwaith!
http://angleseylaudanum.blogspot.com/
ReplyDelete