'Dwi ddim yn meddwl bod fawr neb yn disgwyl y byddai cyllido S4C yn cael ei drosglwyddo i'r Bib - er y bydd y sianel Gymraeg yn cadw ei hanibyniaeth ymarferol - mae'n ymddangos. 'Does yna ddim son am faint o bres fydd y Bib yn ei gael ynghyd a'r gyfrifoldeb.
Mae'n fuan i feddwl am yr holl oblygiadau mae'n debyg gen i - ond mae dau beth yn fy nharro, dau beth sydd mewn gwirionedd yn gysylltiedig:
(1) Mae'r Bib ac S4C i raddau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd - ond mi fydd y naill yn gyfrifol am gyllido'r llall - a hynny mewn cyfnod lle bydd pwysau cyllidol sylweddol ar y ddau gorff.
(2) Mi fydd y sefyllfa od a pharadocsaidd uchod yn ei gwneud yn llawer mwy tebygol y bydd S4C yn cael ei lyncu yn ei gyfanrwydd gan y gorfforaeth maes o law - ac mae hynny'n agor pob math bosibiliadau - llawer ohonynt yn ddigon anymunol.
A dyma rhywbeth arall i feddwl amdano - mae'r manylion yn hynod o denau ar hyn o bryd, ond rydym wedi clywed heddiw y bydd y tal am drwydded deledu yn cael ei rewi am chwe mlynedd. Beth os mai bwriad y llywodraeth ydi codi rhan o'r cyllid ar gyfer S4C trwy godi mwy am y drwydded yng Nghymru na sy'n cael ei godi yng ngweddill y DU?
Mae'n anodd gweld hynny'n digwydd. Mae S4C ar gael trwy wledydd Prydain ar Freeview a Sky; pe bai trwydded Cymru yn uwch er mwyn talu am S4C mi fyddai sefyllfa od yn digwydd lle bo defnyddwyr y Gymraeg (a'r gwasanaeth cyfieithu) yn Lloegr yn cael S4C am ddim tra bo'r di Gymraeg yng Nghymru yn gorfod talu amdani!
ReplyDeleteSori! Cyfeirio at y sylw Beth os mai bwriad y llywodraeth ydi codi rhan o'r cyllid ar gyfer S4C trwy godi mwy am y drwydded yng Nghymru na sy'n cael ei godi yng ngweddill y DU? oedd yr uchod.
ReplyDeleteWel, wel. Mae'n debyg bod yr hen Rod Richards am gael ei ffordd, wedi'r cyfan.
ReplyDeleteUnwaith mae S4C yng nghol y BBC, fydd hi fawr o dro cyn y bydd annibyniaeth golygyddol yn dilyn annibyniaeth cyllidol.
ReplyDeleteMae agwedd y BBC at y Gymraeg yn gwbl sarhaus, a fydd hi fawr o dro chwaith cyn y bydd y BBC yn dechrau lobio am gael ei throi'n sianel deledu ddwyieithog.
Mae datganiad Hunt yn gyfystyr a diddymu'r Sianel.
"ei throi'n sianel deledu ddwyieithog"
ReplyDeleteSyniad da!